Gall eglwysi agor ar gyfer addoliad cyhoeddus
Gall eglwysi yng Nghymru ail-agor ar gyfer addoliad cyhoeddus o’r wythnos nesaf ymlaen wrth i Lywodraeth Cymru lacio’r cyfyngiadau symud.
Bydd eglwysi, a all gyflawni rheoliadau diogelwch llym, yn medru ail-agor ar gyfer gwasanaethau o ddydd Sul nesaf (19 Gorffennaf), yn cynnwys bedyddiadau a Chymun Sanctaidd am y tro cyntaf ers y cyflwynwyd y cyfyngiadau symud.
Mae ganddynt eisoes ganiatâd i agor, lle’n bosibl, ar gyfer gweddïau preifat, priodasau ac angladdau.
Bu’r Eglwys yng Nghymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar fesurau diogelwch y bydd yn rhaid i eglwysi eu gweithredu er mwyn ail-agor ar gyfer addoliad cyhoeddus. Mae’r rhain yn cynnwys cadw pellter o ddau fetr rhwng pobl a sicrhau protocolau digonol ar gyfer hylendid a glanhau. Mae hefyd yn rhaid i eglwysi gwblhau asesiad risg COVID-19 cyn ail-agor.
Fel canlyniad, ni fydd pob eglwys yn medru ail-agor ar gyfer naill ai addoliad cyhoeddus neu weddïau preifat ar hyn o bryd. I rai bydd yn dibynnu ar i wirfoddolwyr fod ar gael i fonitro ymbellhau cymdeithasol ac i sicrhau y caiff eglwysi eu cadw’n lân.
Er yn croesawu’r newyddion y gall eglwysi yn awr ail-agor ar gyfer addoliad cyhoeddus, mae esgobion yr Eglwys yn annog pwyll ac yn dweud fod yn rhaid i ddiogelwch fod yr ystyriaeth gyntaf.
Mewn datganiad dywedant, “Mae ymagwedd bwyllog at ail-agor, sydd wedi’i seilio’n gadarn ar ganllawiau Llywodraeth Cymru, yn hanfodol. Yr hyn a gyhoeddwyd yw rhoi caniatâd. Nid oes unrhyw ofyniad, gan Lywodraeth Cymru nac Esgobion yr Eglwys yng Nghymru, i ail-agor ar hyn o bryd.
“Er ein bod i gyd yn ymlawenhau y gallwn yn awr ddychwelyd i addoli yn ein heglwysi, rydym yn annog eglwysi lleol i beidio rhuthro i ail-agor. Dim ond os gallwch wneud hynny’n effeithlon ac yn ddiogel o fewn y canllawiau y dylech ystyried ail-agor. Dylid cyfateb eich trefniadau agor gyda’ch gallu i drin y mesurau diogelwch gofynnol. Mae’n rhaid i iechyd a llesiant ein clerigwyr, staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr fod ein prif gonsyrn.”
Ychwanegodd John Davies, Archesgob Cymru: “Mae hyn yn newyddion da hir-ddisgwyliedig a rydym yn ein groesawu ac mae’n arwydd ein bod ar ein ffordd i sicrhau adferiad o’r pandemig wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio. Ond ni allwn fod yn hunanfodlon nac yn ddifater. Mae’n rhaid i ni symud yn bwyllog ac yn ofalus a bydd addoliad yn wahanol i’r hyn yr ydym wedi arfer ag ef yn y gorffennol.
“Hoffwn ddiolch i’r rhai fydd yn gwneud paratoadau i’w hadeiladau fod ar agor – bydd yn golygu cryn dipyn o waith a rhoi sylw i ganllawiau technegol iawn. Ond diolch i chi am wneud yr ymdrech – caiff yr hyn a wnewch ei werthfawrogi’n enfawr gan y rhai nad ydynt hyd yma wedi medru cymryd rhan mewn addoliad gydag eraill.”
Caiff y canllawiau diweddaraf a meini prawf ar ddiogelwch ar gyfer ail-agor ar gyfer addoliad cyhoeddus eu cyhoeddi ar wefan yr Eglwys yng Nghymru erbyn dydd Llun.
Eglwys Ddigidol
Ar gyfer y rhai sy’n dal i fethu mynychu gwasanaethau mewn adeiladau eglwys, mae addoli a chyfeillach yn dal i fod ar gael ar-lein. Mae eglwys ddigidol – o wasanaethau ewcharist a gaiff eu ffrydio’n fyw ar Facebook i gyfarfodydd gweddi ar Zoom – ar gael ledled Cymru. Edrychwch ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol eich eglwys leol i gael gwybodaeth neu ganfod gwasanaeth drwy wefan yr Eglwys yng Nghymru: