Gwahodd eglwysi i ymuno mewn cadwyn weddi byd eang
Gwahoddir Cristnogion yng Nghymru i ymuno mewn cadwyn weddi byd eang ar gyfer cyfiawnder hinsawdd yn ystod 2020, blwyddyn holl bwysig. Cymorth Cristnogol sy’n arwain y fenter, gyda help CAFOD, Tearfund ac eraill. Dywedodd Dr Rowan Williams, cyn Archesgob Cymru a Chaergaint a Chadeirydd presennol Cymorth Cristnogol, "Gobeithiaf y bydd cadwyn weddi eleni yn dangos sut y gall y teulu dynol ddod at ei gilydd er budd daioni ei holl aelodau – nid jest y rhai sy’n freintiedig ac wedi eu diogelu."
Mae’r fenter - a gychwynnodd ar Ddydd Mercher Lludw - yn galw ar i bobl weddïo am weithredu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd o’r Grawys hyd at uwchgynhadledd hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, COP26, a gynhelir yn Glasgow ym mis Tachwedd eleni.
Meddai Mari McNeill, Pennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru, "Mae 2020 yn flwyddyn holl bwysig ar gyfer yr hinsawdd. Ni allwn barhau i siarad am yr argyfwng heb weithredu’n bendant. Mae gan eglwysi Cymru ran bwysig i’w chwarae. Trwy ymuno â’r gadwyn weddi, byddant yn sefyll mewn undod gyda thlodion y byd, sef y rhai sy wedi cyfrannu lleiaf tuag at greu’r argyfwng ond sydd yn dioddef fwyaf o’i effeithiau."
Ychwanegodd Rowan Williams, "Mae cyfiawnder hinsawdd yn golygu nad yw diogelwch a budd ein brodyr a’n chwiorydd mewn gwledydd tlawd yn cael ei gyfaddawdu gan weithredoedd y rhai mewn gwledydd cyfoethog. Mae uwchgynhadledd hinsawdd COP26 yn foment holl bwysig yn hanes ein gofal am y greadigaeth."
Mae gwefan wedi ei sefydlu fel bod unigolion, teuluoedd ac eglwysi’n gallu cofnodi eu diddordeb, archebu slotiau gweddi a chofnodi’r amser a roddwyd i weddi. Os gwelwch yn dda ewch i https://www.christianaid.org.uk/pray/prayer-chain i gofnodi.