Eglwysi yn lansio rhaglen brysur ar gyfer Eisteddfod
Gwahoddir pobl sy’n mynd i’r Eisteddfod ym Mhontypridd yr wythnos nesaf i lu o ddigwyddiadau a gynhelir gan eglwysi.
Bydd sesiynau addoli dyddiol, lansio llyfrau, sgyrsiau, band pres, gweithgareddau i blant, arddangosfeydd a hyd yn oed arddangosiad o Feiblau wedi eu gweu a llwybr cregyn pererinion. Caiff un o’r gwasanaethau ei arwain gan Esgob Llandaf, Mary Stallard.
Fel sy’n digwydd fel arfer, bydd gwirfoddolwyr yn gweini amrywiaeth o luniaeth, yn cynnwys pice ar y maen.
Eleni, mae Cytûn – Eglwysi Ynghyd yng Nghymru – yn cynnal y rhan fwyaf o’u gweithgareddau yn Eglwys Santes Catherine, yng nghanol Pontypridd. Bydd ganddynt hefyd stondin fechan yn cynnwys llyfrau ac adnoddau ar Faes yr Eisteddfod ym Mharc Ynysangharad ac ychydig o naidlenni. Bydd llwybr cregyn pererinion yn cysylltu’r Maes gyda’r eglwys.
Rydym yno drwy’r wythnos – dewch draw ac ymuno!
Bydd yr eglwys ar agor dros yr wyth diwrnod, Awst 3-10, rhwng 11.30am a 5.30pm ac mae mynediad am ddim.
Dywedodd Dr Cynan Llwyd, Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn, “Hon fydd fy Eisteddfod gyntaf fel Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn ac rwyf wrth fy modd gyda’r rhaglen o ddigwyddiadau, yn ogystal â’r addoli a gynhelir. Rydym yn neilltuol o falch i fod yn cynnal cynifer ohonynt yn Eglwys Santes Catherine, gan roi cyfle i bobl grwydro o’r Maes ac ymchwilio’r safle gwych yma. Fel bob amser, rydym yn ddiolchgar iawn i'r holl wirfoddolwyr sy’n rhoi cymaint o’u hamser ac ymroddiad i sicrhau fod y digwyddiadau hyn yn llwyddiannus ac y rhoddir croeso i bawb. Rydym yno drwy’r wythnos – dewch draw ac ymuno!”
Mae Pontypridd yn Esgobaeth Llandaf a dywedodd Esgob Llandaf, Mary Stallard, “Mae hwn yn gyfle gwych i Bontypridd, ac i’r esgobaeth, i ymestyn croeso cynnes i bawb sy’n ymweld â’r Eisteddfod. Mae mor gyffrous fod hyn yn digwydd yma a bu nifer ohonom yn gloywi ein sgiliau yn y Gymraeg cyn yr ŵyl ddiwylliannol hynod yma. Edrychwn ymlaen at eich gweld yno”
Dyma rai o’r uchafbwyntiau i ymuno â nhw. Sgroliwch i lawr am y rhaglen lawn
Dydd Sul, Awst 4
Addoli a chanmol
9am: Gwasanaeth yr Eisteddfod, dan arweiniad Geraint Rees ac eraill.
9am: Gwasanaeth yn Eglwys Santes Catherine
1pm: Mawl y Cymoedd, ym Mhafiliwn Encore, cyfle i glywed emynau lleol yng nghwmni Pedwarawd C.O.R.
8pm: Cymanfa, Arweinydd Wil Morus Jones, Organydd Jeffrey Howard, addoliad agoriadol dan arweiniad Rosa Hunt yn y Pafiliwn.
Dydd Llun, Awst 5
Lansio llyfr Byw’r Weddi
Bydd y Parch Ganon Dr Trystan Owain Hughes, Cyfarwyddwr Datblygu Gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru, yn lansio cyfieithiad ei lyfr ar Weddi'r Arglwydd yn Eglwys Santes Catherine, Pontypridd am 1.30pm. Croeso i bawb.
Dydd Mawrth, Awst 6
Ffocws cylchgrawn
Lansio cylchgrawn Gobaith, a noddir gan Newyddion Da i Bawb, yn Eglwys Santes Catherine, 1.30pm. Dilynir y lansiad am 1.45pm gan gyflwyniad i gylchgrawn cydenwadol Cristion, gan Siân Elin, un o’r golygyddion newydd.
Dydd Mercher, Awst 7
Gwasanaeth Cymun Sanctaidd gydag Esgob Llandaf
Ymunwch â’r Esgob Mary Stallard am wasanaeth Cymun Sanctaidd ganol-bore yn Eglwys Santes Catherine, am 10.45am.
Sesiwn Cwestiwn Mawr
Mae’n amser i feddwl yn fawr: Beth fyddech chi’n ei ofyn i Dduw? Anfonwch eich cwestiynau ac ymuno yn y drafodaeth gyda phanelwyr o Sefydliad Padarn Sant a Choleg Bedyddwyr Caerdydd. Fe’i cynhelir yn Eglwys Santes Catherine, 2pm.
Dydd Iau, Awst 8
Dilyn yr hen lwybrau: Pererindod i Benrhys
Dysgwch am hanes Penrhys fel man pererindod drwy’r canrifoedd. Bydd y Parch Ganon Dyfrig Lloyd, Ficer Eglwys Dewi Sant yn Ardal Gweinidogaeth Calon y Ddinas, yn rhoi sgwrs am hanes a thraddodiadau un o’r safleoedd pererindod pwysicaf yng Nghymru, ac ailadeiladu llwybrau Pererindod Penrhys. Ymunwch ag ef am 1.45pm yn Eglwys Santes Catherine.
Dydd Gwener, Awst 9
Eglwys Eco
Mae llawer o eglwysi yn awr yn dilyn cynllun Eglwys Eco A Rocha ar eu taith i sero net. Clywch fwy amdano gan Delyth Higgins, Swyddog Eglwys Eco Cymru. Mae’r sesiwn yn cychwyn am 1.30pm yn Eglwys Santes Catherine, 1.30pm.
Lansio Llyfr Gofal ein Gwinllan
Mewn 16 traethawd gan ysgolorion o fri, caiff cyfraniad yr Eglwys yng Nghymru i hanes a diwylliant Cymru yn ystod hanner cyntaf y 19eg Ganrif ei ymchwilio yn ail gyfrol y gyfres ‘Gofal ein Gwinllan’.
Caiff y llyfr, dan y teitl Gofal ein Gwinllan: Ysgrifau ar Gyfraniad yr Eglwys yng Nghymru i’n llên a’n hanes a’n diwylliant (Cyfrol 2), ei lansio ym Mhabell y Cymdeithasau am 3pm.
Mwy o wybodaeth
Dydd Sadwrn, Awst 10
Cystadleuaeth Emyn-dôn
Alawon newydd i eiriau gan Gwynfor Dafydd, Pafiliwn Encore, 12pm
Sgwrs ar emynau a phregethau
Ymunwch â Lleuwen Steffan a Band Tafod Aran i edrych ar hen emynau a phregethau anhygoel yn y Babell Lên, 4.30pm
Y Rhaglen Lawn
Yn ddyddiol yn Eglwys St Catherine’s
- Panad a theisen gri rhwng 11.30yb a 5.30yp
- Gweithgareddau i blant a diod oer a bisgedi
- Oedfa ddyddiol am 1yp (Llun i Sadwrn)
- Cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i Saesneg rhwng 1-2yp
- Cornel ddistaw a lle i fyfyrio
- Cyfle i helpu Cymorth Cristnogol ymgyrchu ar dlodi a chyfiawnder
- Cais i arwyddo cerdyn post newid hinsawdd i’ch Aelod Seneddol
- Arddangosfa ‘Beibl mewn gwlân’ Byddin yr Iachawdwriaeth
- Pererindod cregyn o faes yr Eisteddfod i’r Eglwys
- Arddangosfa o 7 gosodiad blodau
- Cyfle i edmygu 6 ffenest liw yn olrhain hanes Cristnogaeth Cymru
- Detholiad o lyfrau ac adnoddau Cristnogol ar werth
- Gwasanaeth gwefru ffonau symudol
- Arddangosfeydd
Dydd Sadwrn, Awst 3
Lluniaeth 11.30yb – 5.30yp
Pabell Encore, 2.15yp: Cân i godi calon, sesiwn gyda Siân Meinir, Elain Rhys a Ffrindiau Dementia Rhondda Cynon Tâf
Y Babell Lên, 3yp: Mae Sŵn yr ymladd yn ein clyw, wedi’i drefnu gan Gymdeithas y Cymod
YMa, 3yp: Gaeaf yn troi’n haf, drama gan Denzil John
Dydd Sul, Awst 4
Lluniaeth 12.15yp – 5.30yp
Pafiliwn, 9yb: Oedfa’r Eisteddfod, dan ofal Geraint Rees ac eraill. Noder bod angen tocyn maes i fynychu’r oedfa
Eglwys St Catherine’s, 9am: Gwasanaeth y Sul
Pabell Encore, 1yp: Mawl y Cymoedd, cyfle i glywed emynau lleol yng nghwmni Pedwarawd C.O.R.
Pafiliwn, 8yh: Cymanfa Ganu, Arweinydd Wil Morus Jones, Organydd Jeffrey Howard, Rhannau arweiniol Rosa Hunt
Dydd Llun, Awst 5
Eglwys St Catherine’s, 1.00yp: Addoliad dan ofal Angor Grangetown (Cynan Llwyd)
Eglwys St Catherine’s 1.30yp: Lansiad llyfr Byw’r Weddi, addasiad Gwilym Wyn Roberts o gyfrol Trystan Owain Hughes
Eglwys St Catherine’s, 2.00yp: Datganiad gan Sioned Webb a Salih Hassan
Pafiliwn, 3.25yp: Lansio Gwobr Goffa R Alun Evans
Pabell Cymdeithasau 1, 4.00yp: Pwy yw’r Crynwyr? O ddoe hyd heddiw.
Dydd Mawrth, Awst 6
Eglwys St Catherine’s, 1yp: Addoliad dan ofal y Bedyddwyr (Rosa Hunt)
Eglwys St Catherine’s, 1.30yp: Lansio cylchgrawn Gobaith, dan ofal Newyddion Da i Bawb
Eglwys St Catherine’s, 1.45yp – Cyflwyniad i’r cylchgrawn cyd-enwadol Cristion, gan Sian Elion, un o’r golygyddion newydd
Y Babell Lên, 12.30yp: Ar Drywydd Brynley Roberts, gyda Gwerfyl Pierce Jones, Robert Rhys a Rhidian Griffiths
Maes D, 2.30yp: Dwylo dros y môr, sgwrs gan Rosa Hunt ymhlith eraill
Pabell Cymdeithasau 1, 11yb: Crefydd ac Ysbrydolrwydd yng ngwaith Emrys ap Iwan, darlith gan yr Athro D Densil Morgan
Pabell Cymdeithasau 1, 2yp: Ffynhonnau Morgannwg, sgwrs gan Howard Huws
Pabell Cymdeithasau 2, 12.30yp, Canrif o Hawliau Plant – Achub y Plant, sgwrs gan Eurgain Haf
Dydd Mercher, Awst 7
Eglwys St Catherine’s, 10.45yb - Gwasanaeth Cymun Bendigaid, o dan ofal Esgob Llandâf, Mary Stallard ac eraill
Eglwys St Catherine’s, 1yp: Addoliad dan ofal Sound of Wales ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru
Eglwys St Catherine’s, 1.30yp: Cyflwyno cyfrol Gair Duw ar Lafar Gwlad, gan Dewi Arwel Hughes
Eglwys St Catherine’s, 1.45yp: Lansiad Llyfr Lliwio Beibl Bach Stori Duw, gyda stori i blant
Eglwys St Catherine’s, 2yp: Sesiwn y Cwestiwn Mawr, o dan nawdd Athrofa Padarn Sant a Choleg y Bedyddwyr Caerdydd. Beth fyddech chi’n holi Duw? Byddwn yn gofyn…
Pabell Cymdeithasau 1, 12yp: A oes heddwch? Sesiwn dan ofal Cymdeithas y Cymod
Pabell Cymdeithasau 1, 5yp: Cofio Richard Price, Apostol Rhyddid, yr Athro Huw Williams
Pabell Cymdeithasau 2, 10.30yb, Caniadaeth y Cysegr yn 75 oed, cyflwyniad gan Gymdeithas Emynau Cymru
Pabell Cymdeithasau 2, 1.30yp, Agweddau ar y Bardd a’r Offeriad R S Thomas, sgwrs gan Jon Gower, Clare Potter, ac M Wynn Thomas
Eglwys Temple Baptist Pontypridd, 7yh: Noson i gofio cyfraniad arbennig Dewi Arwel Hughes ac i lansio ei gyfrol Gair Duw ar Lafar Gwlad, wedi’i olygu gan Christine James ac E Wyn James
Dydd Iau, Awst 8
Eglwys St Catherine’s, 1yp: Addoliad dan ofal Byddin yr Iachawdwriaeth
Eglwys St Catherine’s, 1.30yp: Hawlio Heddwch, sgwrs
Eglwys St Catherine’s, 1.45yp: Llwybr Pererindod Penrhys, sgwrs gan Dyfrig Lloyd
Pafiliwn, 11.50yb: Cystadleuaeth Llefaru o’r Ysgrythur (agored)
Pafiliwn, 12.05yp, Cystadleuaeth Canu Emyn
Y Babell Lên, 9yb: Cystadleuaeth Llefaru o’r Ysgrythur (agored)
Y Babell Lên, 11.30yb: Darlith Goffa Hywel Teifi - O’r Rhondda i Canaan, traddodir gan Daniel G Williams
Pabell Encore, 9yb: Cystadleuaeth Canu Emyn
Gwyddoniaeth a Thechnoleg, 12.30yp: Sgwrs ar Archwilio’r Argyfwng Hinsawdd
Eglwys Dyfrig Sant Trefforest, 6yh: Offeren yr Eisteddfod, dan ofal yr Esgob Edwin Regan
Dydd Gwener, Awst 9
Eglwys St Catherine’s, 1yp: Addoliad dan ofal Meilyr Rees, Eglwys Coedpenmaen
Eglwys St Catherine’s, 1.30yp: Cynllun Eco Eglwys A Rocha, sesiwn gan Delyth Higgins
Cymdeithasau 1, 3yp: Lansio Gofal ein Gwinllan Cyfrol 2 yr Eglwys yng Nghymru
Dydd Sadwrn, Awst 10
Eglwys St Catherine’s, 1yp: Addoliad dan ofal Angor Grangetown (Cynan Llwyd)
Y Babell Lên, 4.30yp: Lleuwen Steffan gyda Band Tafod Arian yn edrych ar hen emynau a phregethau rhyfeddol
Pabell Encore, 12yp: Cystadleuaeth Emyn Dôn i eiriau Gwynfor Dafydd