Eglwysi’n agor eu drysau ar gyfer gŵyl treftadaeth
Mae paentiadau wal o’r Canol Oesoedd, toeau baril a thyllau bwled ymysg yr eitemau na chaiff eu gweld yn aml a gaiff eu harddangos yn rhai o eglwysi Cymru yn ystod dyddiau agored ym mis Medi.
Mae cadeirlannau ac eglwysi ymysg y mwy na 200 o safleoedd hanesyddol a thirnodau sy’n cynnig mynediad am ddim, digwyddiadau a theithiau tywys ym mis Medi fel rhan o ŵyl Drysau Agored i ddathlu gemau cudd y genedl ac annog ymwelwyr o bell ac agos.
Cafodd yr ŵyl, a drefnir gan Cadw, ei lansio yng Nghadeirlan Tyddewi. Er bod y Gadeirlan ar agor bob dydd o’r flwyddyn, ar 24-25 Medi a 29 Medi bydd yn cynnig mynediad a theithiau i rannau o’r adeilad sydd ar gau i’r cyhoedd fel arfer. Maent yn cynnwys y tŵr cloch Canoloesol a’r Lapidariwm, yn y porthdy, sy’n arddangos cerrig Celtaidd hynafol. Caiff ymwelwyr hefyd gyfle i weld paentiadau wal mewn cyflwr perffaith o’r 14eg Ganrif, sydd ymysg y gorau o’u bath yn Ewrop.

Dywedodd Dr Sarah Rowland Jones, Deon Tyddewi: “Rydym yn hynod falch unwaith eto i gymryd rhan yng ngŵyl Drysau Agored a chroesawu ymwelwyr yn ôl. Fel llawer o’n heglwysi, mae’r Gadeirlan yn fwy na dim ond safle Cristnogol pwysig, mae’n safle pwysig yn nhreftadaeth Cymru. Eleni rydym yn dathlu ein lleoedd cudd ac yn annog pobl i gymryd eu hamser, edrych o amgylch a darganfod y trysorau sy’n aml ar gael ar garreg eu drysau.”
Mewn cyferbyniad â’r Gadeirlan mae eglwys wledig syml Sant Tetti yn Llandettŷ, ger Aberhonddu. Mae’n cynnig cyfle i ymwelwyr weld eglwys syml o ddiwedd y Canol Oesoedd gyda tho baril, paentiad wal arfbais a Charreg Llandettŷ gydag arysgrifiad o’r nawfed ganrif. Gallant hefyd ddysgu am y twll bwled yn y drws dwyreiniol. Bydd Eglwys Sant Tetti ar agor ddydd Sadwrn rhwng 11am-4pm fel rhan o Lleoedd Sanctaidd yn Sir Frycheiniog,
Dywedodd Ffion Reynolds, Rheolwr Celfyddydau a Threftadaeth Cadw: “Rydym yn rhoi croeso cynnes i Drysau Agored eto – cyfraniad blynyddol Cymru i Ddyddiau Treftadaeth Ewropeaidd – sy’n rhedeg drwy gydol mis Medi.
“Yn ogystal â dathlu hanes cyfoethog a chyfareddol Cymru, mae’n gyfle i fwy o bobl nag erioed o’r blaen i ysbrydoli cariad gydol oes at hanes a diwylliant – yn arbennig genedlaethau’r dyfodol.
“A drwy agor y safleoedd hyn am ddim, gobeithiwn roi cyfle cyfartal i bawb ymchwilio, mwynhau a dadlennu straeon cudd hanes Cymru.”
- Mae rhestr lawn o’r holl eglwysi ac adeiladau erial sy’n cymryd rhan yn Drysau Agored a’u digwyddiadau ar gael yn https://cadw.gov.wales/visit/whats-on/open-doors-events