Mae eglwysi yn paratoi ar gyfer gwaharddiad ar blastig untro
Oes gennych chi gwpanau, cyllyll a ffyrc, platiau, a gwellt yfed plastig untro, neu gwpanau a chynwysyddion bwyd polystyren wedi'u cuddio yng nghefn cwpwrdd cegin eich eglwys; neu, efallai bod gennych ffyn cotwm plastig a ffyn balŵn ym mlwch celf a chrefft yr Ysgol Sul?
Nawr yw'r amser i'w defnyddio wrth i Gam 1 Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) ddod i rym ddydd Llun, 30 Hydref.
O 30 Hydref ymlaen, bydd yn erbyn y gyfraith i eglwysi gyflenwi'r eitemau plastig untro canlynol, hyd yn oed os ydyn nhw’n eu rhoi am ddim.
- Platiau plastig untro – mae hyn yn cynnwys platiau papur gydag arwyneb plastig wedi'i lamineiddio
- Cyllyll, ffyrc a llwyau plastig untro
- Ffyn plastig untro troi diodydd
- Cwpanau wedi'u gwneud o bolystyren wedi'i ehangu neu bolystyren trwchus.
- Cynwysyddion bwyd tecawê wedi'u gwneud o bolystyren wedi'i ehangu neu bolystyren trwchus
- Ffyn balŵn plastig untro
- Ffyn bydiau cotwm plastig untro
- Gwellt yfed plastig untro – gydag eithriadau fel y gall pobl sydd eu hangen i fwyta ac yfed yn ddiogel ac yn annibynnol barhau i'w cael
Efallai, os oes gennych chi gyfarfodydd a digwyddiadau yn yr eglwys dros yr wythnosau nesaf sy'n cynnwys bwyd a diod, gallech ddefnyddio unrhyw eitemau plastig untro dros ben gan mai dyma fydd eich cyfle olaf i wneud hynny.
Ar ddiwedd y mis hwn, bydd angen i chi holi'ch awdurdod lleol a oes modd ailgylchu'r eitem ai peidio, gan na fyddwch chi’n gallu ei defnyddio yn yr eglwys. Efallai y gwelwch na fydd y rhan fwyaf o gynghorau’n casglu'r eitemau uchod fel rhan o'u cynllun ailgylchu. Yna byddai angen gwaredu'r eitemau’n gyfrifol trwy eu rhoi yn y casgliad gwastraff cyffredinol.
Mae sbwriel plastig untro hyll yn boen ar ein strydoedd, ein parciau a'n cefn gwlad ac yn aml mae'n cyrraedd ein traethau a’n moroedd yn y pen draw.
Hyd yn oed pan gaiff ei roi’n ddiogel yn ein ffrwd wastraff, mae'n anodd ailgylchu plastig untro ac felly, mae'n mynd yn uniongyrchol i safleoedd tirlenwi - ar ôl dim ond ei ddefnyddio’n gyflym unwaith.
Dim ond torri i lawr yn araf i ffurfio gronynnau bach ‘microblastig’ mae plastig untro; dyw e byth yn diflannu.
Y newyddion da, fodd bynnag, yw bod digonedd o ddewisiadau bioddiraddadwy amgen gwych yn lle plastig untro.
Felly, gadewch i ni ffarwelio â phlastig untro yn ein heglwysi unwaith ac am byth a chwarae ein rhan wrth ofalu am greadigaeth Duw.
Deunydd darllen ychwanegol
Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru). Ewch i:
https://www.llyw.cymru/deddf-diogelur-amgylchedd-cynhyrchion-plastig-untro-cymru
Y Gymdeithas Cadwraeth Forol. Ewch i:
https://www.mcsuk.org/ocean-emergency/ocean-pollution/plastics/single-use-plastics/
Surfers against sewage. Ewch i:
https://www.sas.org.uk/plastic-pollution/
Dolenni newydd
Yr Eglwys i gynnal cynhadledd hinsawdd i Gymru gyfan – cyhoeddiad yr Archesgob, Newyddion yr Eglwys yng Nghymru, 5 Medi 2023. Ewch i:
Archesgob yn rhoi help llaw i lanhau traeth i nodi Coroni’r Brenin, Newyddion yr Eglwys yng Nghymru, 29 Mawrth 2023. Ewch i