Cyfres Pilgrimage i sbarduno diddordeb newydd yn Nhaith Pererin
Mae eglwysi ar hyd Taith Pererin Gogledd Cymru yn rhagweld cynnydd mewn diddordeb yn dilyn y cyhoeddiad y bydd cyfres Pilgrimage y BBC, y bu disgwyl mawr amdani, yn dychwelyd. Wedi'i lleoli yng nghanol tirweddau trawiadol gogledd Cymru, mae disgwyl i'r chweched bennod, "Pilgrimage: The Road to Wild Wales," gael ei dangos am y tro cyntaf ddydd Gwener y Groglith. Gall gwylwyr ddisgwyl gweld wynebau cyfarwydd, gan i dri ficer o Esgobaeth Bangor gymryd rhan yn y broses o greu'r gyfres.
Mae'r gyfres newydd yn addo archwiliad unigryw o ffydd ac ysbrydolrwydd wrth i saith o enwogion, yn cynrychioli credoau amrywiol, gychwyn ar bererindod fodern ar hyd Taith Pererin Gogledd Cymru. Mae llwybr y bererindod, a sefydlwyd yn 2011, yn cynnig cyfuniad o eglwysi hynafol a ffynhonnau sanctaidd wedi'u cysegru i'r seintiau cynnar, gydag Ynys Enlli - a elwir yn 'Ynys yr 20,000 o seintiau' - y gyrchfan olaf.
Cyfarfu'r Parchedig Eryl Parry, Offeiriad Arloesi yn Nyffryn Conwy a Chaplan ar Enlli, â'r pererinion wrth iddynt deithio i eglwys anghysbell Sant Celynnin, uwchben Conwy, un o eglwysi hynaf Cymru.
"Mae Llangelynnin yn cael ei disgrifio'n aml fel lle tenau lle mae'r nefoedd yn cyffwrdd â'r ddaear," eglura Eryl. Yn dyddio'n ôl i'r 12fed ganrif, mae Llangelynnin wedi'i lleoli wrth ymyl ffynnon sanctaidd o'r 6ed ganrif ac mae'n lle poblogaidd i bererinion ar Daith Pererin Gogledd Cymru. Yn y lle sanctaidd hwn y mae Eryl yn trefnu gwasanaethau Addoli Celtaidd misol rhwng mis Ebrill a mis Hydref. Eleni mae pob gwasanaeth yn archwilio thema pererindod.
Meddai Eryl drachefn, "Rydym yn gobeithio y bydd y gyfres Pilgrimage gan y BBC yn helpu pobl i ddarganfod o'r newydd yr ysbrydolrwydd dwfn sydd wedi ymwreiddio yn ein tirwedd yng Nghymru.
"Roeddwn i'n teimlo'n freintiedig i dreulio amser gyda'r rhai y daeth Duw â nhw i Langelynnin ar gyfer y rhaglen, pawb o'r pererinion i'r tîm cynhyrchu. Cawsant gyfle i archwilio Llangelynnin drostynt eu hunain cyn i mi eu harwain ar daith gerdded fyfyriol i fan gwylio.
"Yn aml ar bererindod, gallwn gael y profiad o Dduw yn siarad trwy ein sgyrsiau â'n gilydd, ond rwy'n gweld bod cyfnodau o lonyddwch mewn mannau aros yn gallu dod yn arwyddocaol iawn. Ein henw ar y rhain yw 'Mannau Myfyrio' – pan all Duw arwain ein meddyliau a chyffwrdd ein calonnau wrth i ni fyfyrio ar yr hyn rydyn ni wedi'i weld a'i glywed. Dyna pryd y gall y daith fewnol ddechrau go iawn."
I Eryl, mae'r rhaglen yn cyd-fynd â dechrau eu tymor pererindod addoli Celtaidd, "I ni, ni ellid ei darlledu ar amser gwell ac rydym yn rhagweld diddordeb o'r newydd mewn llwybrau a lleoedd hynafol wrth i bobl sylweddoli y gallant gysylltu â Duw ar bererindod yng ngogledd Cymru.
"Mae ein cyfres o wasanaethau 2024 ein hunain yn dechrau gyda’r wawr ar Sul y Pasg. O hynny ymlaen, bob trydydd dydd Sul tan fis Hydref, cawn lawenydd ‘Addoli Celtaidd' a byddwn unwaith eto yn croesawu ystod eang o bobl sy'n ceisio cryfhau eu ffydd neu ddechrau'r daith honno o gyfarfyddiad, i brofi lletygarwch hael Duw. Rydyn ni bob amser yn dweud, "Wnewch chi fyth eistedd yn sedd unrhyw un arall."
Dechreuodd y bererindod yng Nghastell y Fflint, yn Esgobaeth Llanelwy, ar lannau Aber Afon Dyfrdwy. O'r fan honno, maen nhw'n cychwyn ar eu hantur 220km ar hyd Taith Pererin Gogledd Cymru, gan deithio drwy dirweddau hardd gogledd Cymru. Wrth iddynt fynd yn eu blaenau, mae'r pererinion yn dod ar draws llwybrau a dringfeydd heriol, gan lywio drwy odreon cadwyni o fynyddoedd mawreddog. Mae eu llwybr yn eu harwain i Esgobaeth Bangor, lle mae tri offeiriad o Esgobaeth Bangor yn ymuno â nhw, gan ychwanegu dimensiwn ysbrydol at eu taith.
"Unwaith rydych chi'n mynd ar bererindod dydych chi byth yn dod oddi arni," meddai'r Hybarch Chris Potter, un o ymgynghorwyr y rhaglen. Mewn cyfweliad ag Esgobaeth Llanelwy, eglura Chris arwyddocâd pererindod Gristnogol, "Rydych chi'n cychwyn ar daith ac mae eich llygaid yn dechrau agor ac yna mae popeth ynghylch bywyd yn dod yn daith.
"Ar bererindod cewch ddedwyddwch a chwysigod! Mae'n rhaid i chi ddysgu cymryd yr hyn a ddaw i’ch rhan. Mae'n deimlad rhyfeddol, yn y dyddiau hyn o sgrolio ar eich ffôn neu deithio mewn car, i adael hynny i gyd ar ôl a dim ond cerdded."
Wrth fyfyrio ar y broses o greu’r gyfres hon, meddai Chris, "Mae'n ymddangos bod pob un o'r saith pererin wedi eu cyffroi'n lân gan yr holl brofiad. Yn sicr, fe wnaethon nhw ffurfio cwlwm agosrwydd fel grŵp ac roedd pawb wedi elwa’n sylweddol ar y profiad. Roedd yn gyfnod cyffrous a diddorol iawn.
"Mae'r tîm o wirfoddolwyr y tu ôl i Daith y Pererin yn teimlo’n gyffrous iawn yn wir ac mae gweld y llwybr yn cael ei ddangos yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ar y teledu yn rhywbeth cyffrous iawn."
Cafodd dau offeiriad arall o Esgobaeth Bangor gyfle hefyd i gwrdd â'r pererinion enwog ar hyd y llwybr.
Cyfarfu y Ganon Dr Rosie Dymond, Arweinydd Ardal Weinidogaeth, â'r grŵp ar safle pererindod Clynnog Fawr yng Ngwynedd, lle dywedir bod gan y ffynnon sanctaidd ger Eglwys Beuno Sant briodweddau iachaol. Ym mhentref pysgota Aberdaron, yn hanesyddol yr arhosfan olaf i bererinion ar y ffordd i Ynys Enlli, rhannodd y Parchedig Rhun ap Robert arwyddocâd ysbrydol Eglwys Sant Hywyn, arhosfan orffwys i bererinion ar eu ffordd i Ynys Enlli.
Ymhlith yr enwogion nodedig sy'n ymgymryd â'r bererindod ysbrydol hon mae'r cyflwynydd rhaglenni bywyd gwyllt Michaela Strachan, yr entrepreneur Spencer Matthews, y newyddiadurwr Sonali Shah, y digrifwr Eshaan Akbar, yr actor Tom Rosenthal, a'r bersonoliaeth deledu Christine McGuinness. Mae pob cyfranogwr yn dod â'i bersbectif a'i daith ffydd ei hun i'r daith hon, gan ychwanegu haenau o ddyfnder a hunanymholiad at y naratif.
- Ewch i Taith Pererin Gogledd Cymru ~ North Wales Pilgrim's Way i gael gwybodaeth am y llwybr.
- I gael rhagor o wybodaeth am dymor pererindod Llangelynnin, ewch i: caruconwy.com