Llyfr newydd yn ymchwilio cyfraniad yr Eglwys i ddiwylliant Cymru
O gyfieithu’r Beibl i ysgolion cylchynol, caiff cyfraniad yr Eglwys yng Nghymru i hanes a diwylliant Cymru ei ymchwilio yng nghyfrol gyntaf cyfres newydd o lyfrau.
Yn cynnwys 14 traethawd gan ysgolorion o fri, ffocws y llyfr yw dylanwad yr Eglwys dros gyfnod o 200-mlynedd rhwng cyfieithu’r Testament Newydd i’r Gymraeg yn 1567 a diwedd y 18fed ganrif.
Mae’r traethodau yn seiliedig ar sgyrsiau a roddwyd mewn cyfres o seminarau ar-lein a gynhaliwyd yn ystod y pandemig dan nawdd Sefydliad Padarn Sant. Caiff y llyfr, gyda’r teitl Gofal ein Gwinllan: Ysgrifau ar Gyfraniad yr Eglwys yng Nghymru i Lên, Hanes a Diwylliant Cymru, ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar 11 Awst.
Mae’n cynnwys astudiaethau o unigolion allweddol fel y Dr John Davies Mallwyd, Edmwnd Prys awdur Y Salmau Cân, Rhys Prichard a Channwyll y Cymry, Ellis Wynne, Theophilus Evans, Griffith Jones Llanddowror, ac o blith y beirdd, Goronwy Owen ac Evan Evans ‘Ieuan Fardd’. Ymhlith y themâu a grybwyllir yw cyfieithiadau cynnar o’r Beibl, hanes y Llyfr Gweddi Gyffredin, dulliau addoli mewn carol, cwndid ac emyn, clasuron rhyddiaith y ddeunawfed ganrif a chyfraniad merched i grefydd y cyfnod. Mae’r holl awduron yn arbenigwyr yn eu meysydd, ac yn dra hysbys ym myd ysgolheictod a’r diwylliant Cymraeg.
Ysgrifennwyd y rhagair gan Andrew John, Archesgob Cymru. Dywedodd, “Er bod yna dueddiad i ystyried yr Eglwys Wladol fel un a ddaeth yn gynyddol Seisnig ei naws ac yn ddieithr i’w gwreiddiau ym mröydd Cymru, dengys yr ysgrifau safonol a darllenadwy hyn safbwynt amgen drwy bwysleisio cyfraniad siaradwyr Cymraeg. Da fydd cael y casgliad hwn o ysgrifau i gofnodi’r stori bwysig honno ac ysbrydoli cenhedlaeth newydd o Gymry o fewn yr Eglwys yng Nghymru a’r tu hwnt.”
Mae’r Archesgob Andrew hefyd yn talu teyrnged i’r Athro E. Wyn James “am fod yn ’bensaer’ gwybodus a phrysur i’r holl fenter”, a’r golygyddion yr Athro Densil Morgan a Dr A Cynfael Lake.
Cyhoeddwyd y llyfr gan Y Lolfa ar ran Sefydliad Padarn Sant a’r Eglwys yng Nghymru. Er yn canoli ar ffigyrau o’r Eglwys yng Nghymru, bydd y gyfrol o ddiddordeb i bawb sy’n trysori’r etifeddiaeth ddiwylliannol y genedl.
Mae croeso i bawb yn y lansiad ym Mhabell y Cymdeithasau yn yr Eisteddfod ddydd Llun 11 Awst am 3pm. Bydd y siaradwyr yn cynnwys Archesgob Cymru, yr Athro E. Wyn James a Dr Eryn White. Cadeirydd y sesiwn fydd y Canon Ddr Ainsley Griffiths.
Gellir archebu’r llyfr ar-lein yn ylolfa.com neu o bob siop lyfrau dda.