Gwaith diogelu'r Eglwys mewn 'lle cadarnhaol', yn ôl adroddiad
Mae gwaith diogelu yn yr Eglwys yng Nghymru mewn lle cadarnhaol iawn mewn tri maes blaenoriaeth, yn ôl archwilwyr allanol.
Yn y cyntaf o gyfres o adroddiadau gan Thirtyone:eight, y sefydliad diogelu mwyaf blaenllaw yn y sector ffydd, mae'r Eglwys yn cael ei chanmol am y cynnydd a wnaed yn ei llywodraethu, polisi a gwaith diogelu gyda'r rhai a allai beri risg.
Canfu'r adroddiad fod pobl wedi ymrwymo i ddiogelu heb unrhyw synnwyr mai dim ond ymarfer "ticio blwch" ydoedd.
Comisiynwyd yr archwiliad yn dilyn cyfnod sylweddol o newid yng ngwaith rheoli, polisïau a gweithdrefnau diogelu'r Eglwys dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Roedd hyn yn cynnwys penodi'r Cyfarwyddwr Diogelu, cadeirydd annibynnol y Panel Diogelu a sefydlu'r Pwyllgor Diogelu.
Aeth archwilwyr ati i adolygu dogfennau allweddol a chyfweld â sbectrwm eang o bobl sy'n ymwneud â diogelu.
Canfuwyd bod y meysydd diogelu mewn "lle cadarnhaol iawn", gyda nifer o'r rhai a gyfwelwyd yn cydnabod bod "llawer iawn o waith" wedi’i wneud wrth ddiwygio polisïau a gweithdrefnau a buddsoddi mewn staff.
Tynnwyd sylw hefyd at ymrwymiad Archesgob Cymru, sef yr esgob sy'n arwain ar ddiogelu. “Mae'n amlwg bod gan yr Archesgob ddealltwriaeth wirioneddol o ddiogelu ac awydd i'w wreiddio yn yr eglwys," meddent.
Roedd yr adroddiad yn cydnabod "gwir awydd am welliant parhaus", yn enwedig wrth gyfleu'r weledigaeth yn ehangach gydag eglwysi lleol. Galwodd am fwy o hyrwyddo diogelu yn y chwe esgobaeth, drwy eu gwefannau a'u cylchlythyrau.
Roedd y rhai a gafodd eu cyfweld yn cydnabod bod meysydd i'w datrys o hyd a bod mwy o waith i'w wneud mewn perthynas â chefnogi goroeswyr a recriwtio mwy diogel.
Wrth groesawu adroddiad Thirtyone:eight, dywedodd yr Archesgob Andrew John, "Mae'n bleser darllen crynodeb yr archwiliad, sy'n cymeradwyo ein hymrwymiad i ddatblygiad parhaus ym mhob agwedd ar ddiogelu yn yr Eglwys yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn nodi'r cynnydd a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf ac yn tynnu sylw at feysydd y mae angen i ni ganolbwyntio ein sylw arnynt. Fel yr Esgob sy'n arwain ar Ddiogelu, rwy'n hyderus bod diogelu'n datblygu'n dda yn yr Eglwys yng Nghymru a byddaf yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr diogelu i ddatblygu'r camau a nodwyd.”
Adroddiad cryno o'r archwiliad Diogelu
Lawrlwythwch yma