Cysegru esgob ieuengaf erioed yr Eglwys
Gwnaed hanes yr wythnos hon pan gafodd y person ieuengaf erioed i ddod yn esgob yn yr Eglwys yng Nghymru ei gysegru.
Cafodd David Morris, 38, ei eneinio a derbyniodd symbolau swydd esgob mewn gwasanaeth arbennig yng Nghadeirlan Bangor ddydd Sadwrn (11 Mai).
Mae’n dilyn ei benodiad yn Esgob Cynorthwyol yn Esgobaeth Bangor ym mis Ionawr. Mae David yn cymryd teitl Esgob Enlli.
Roedd haul cynnes y gwanwyn yn tywynnu wrth i fwy na 300 o bobl – teulu, ffrindiau, cydweithwyr a gwesteion yn cynrychioli eglwysi a sefydliadau dinesig ledled Cymru a Phrydain – lenwi’r Gadeirlan ar gyfer y gwasanaeth. Ymunodd cannoedd yn fwy ar-lein, gan edrych ar y darllediad a ffrydiwyd yn fyw ar YouTube.
Yn ystod y gwasanaeth, cafodd David ei eneinio gydag olew sanctaidd a’i gysegru gan ei gyd esgobion. Cyflwynwyd symbolau’r swydd iddo hefyd: modrwy esgob, brongroes, meitr, Beibl a bagl esgob. Daethpwyd â’r rhain iddo, ar gyfer eu cyflwyno, gan aelodau o’i deulu. Daeth mam David, Hazel Morris, â’r fordrwy, oedd yn rhodd gan ei rieni. Roedd y groes yn rhodd gan ei ddyweddi Marc Penny a’r fagl esgob yn rhodd gan yr Esgob David Yeoman, sydd wedi ymddeol fel Esgob Cynorthwyol Llandaf.
Bu fanffer a bonllefau wrth i David wedyn gael ei gyflwyno i’r gynulleidfa i’w croesawu fel Esgob Enlli.
Yn ei anerchiad, disgrifiodd y Canon Richard Lowndes, Tiwtor Ffurfiant yn Sefydliad Padarn Sant, yr Esgob David fel “rhwydweithiwr medrus” oedd wedi cyffwrdd â bywyd llawer o bobl, fel a ddangoswyd yn y nifer yn ei gefnogi yn y gwasanaeth. Dywedodd fod llawenydd mawr mewn bod yn esgob a chyfnodau o ddathlu gwych. Ond roedd hefyd ddyddiau anodd pan maent yn gorfod cario beichiau trwm ar ben eu hunain. Anogodd bobl i weddïo dros eu holl esgobion, gyda ffocws arnynt fel bugeiliaid ac arweinwyr, fel y gallent gael rhoddion gras, sancteiddrwydd a chariad.
Canodd y côr anthem newydd a gyfansoddwyd ar gyfer y gwasanaeth. Gosodwyd geiriau o gerdd hynafol gan Meilyr Brydydd am Ynys Enlli i gerddoriaeth gan y cyfansoddwr Simon Ogdon yn yr anthem a elwir yn Ynys Firain.
Dywedodd yr Archesgob, Andrew John: “Bu heddiw yn ddiwrnod hapus a llawen i Esgobaeth Bangor a’r Eglwys yng Nghymru. Daw David ag ystod o ddoniau i’w weinidogaeth. Mae’n offeiriad cryf ac yn rhywun y mae pobl yn ymddiried ynddo ac mae hynny’n un o gryfderau mawr ei weinidogaeth.”
Meddai’r Esgob David, “Bu’r gwasanaeth cysegru yn hollol wych. Rwyf yn wirioneddol wedi teimlo cymorth a chefnogaeth fy nheulu a ffrindiau a’r holl eglwys a ddaeth ynghyd. Rwy’n edrych ymlaen at fy ngweinidogaeth yn yr esgobaeth hon yn gweithio wrth ochr y clerigwyr a phobl a diolchaf i bawb am eu gweddïau a’u cefnogaeth.”
Gyda diolch i Dave Custance am y lluniau. Gweld mwy ar Facebook
Taith Gweinidogaeth
Penodwyd David Morris yn Esgob Cynorthwyol Esgobaeth Bangor ym mis Ionawr 2024, gan ddod, yn ddim ond 38 oed, y person ieuengaf erioed i wasanaethu fel esgob yn yr Eglwys yng Nghymru.
Yn wreiddiol o Cymer yng Nghwm Rhondda, graddiodd David mewn diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Bangor a hyfforddodd ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf, pan wnaeth hefyd gwblhau gradd Meistr mewn diwinyddiaeth. Fe’i ordeiniwyd yn offeiriad yn 2010 yng Nghadeirlan Llandaf a gwasanaethodd fel curad ym Merthyr Tudful. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, penodwyd David yn offeiriad plwyf Grangetown yng Nghaerdydd, lle gwasanaethodd am saith mlynedd ac roedd hefyd yn Gynghorydd Galwedigaethau ar gyfer Esgobaeth Llandaf. Yn 2019 cafodd ei benodi yn Gyfarwyddwr Ordinandiaid Esgobaeth Llandaf a Ficer yn Ardal Gweinidogaeth Dwyrain y Fro ym Mro Morgannwg, swydd y bu ynddi am dair blynedd.
Yn 2022, symudodd David i Esgobaeth Bangor fel Cyfarwyddwr Gweinidogaeth yr Esgobaeth a bu hefyd yn Ganon Preswyl Cadeirlan Bangor. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd ei benodi yn Esgob Cynorthwyol Bangor ac Esgob Enlli gan Archesgob Cymru ac Esgob Bangor, Andrew John.
Gwnaed David yn Gomander Urdd Sant Ioan yn 2020 a bu’n weithgar gydag Ambiwlans Sant Ioan Cymru ers 2010; cafodd ei benodi yn Ddeon y Priordy ar gyfer Cymru yn 2019 ac yn Ymddiriedolydd yr elusen yn 2020.