Esgob ieuengaf erioed yr Eglwys i gael ei gysegru
Caiff hanes ei wneud yr wythnos nesaf pan gaiff y person ieuengaf erioed i ddod yn esgob yn yr Eglwys yng Nghymru ei gysegru.
Bydd David Morris, fydd yn cael ei ben-blwydd yn 38 oed ddechrau mis Mai, yn cael ei eneinio a derbyn symbolau swydd esgob mewn gwasanaeth arbennig yng Nghadeirlan Bangorar 11 Mai.
Mae’n dilyn ei benodi ym mis Ionawr yn Esgob Cynorthwyol yn Esgobaeth Bangor. Bydd David hefyd yn cymryd teitl Esgob Enlli.
Arweinir y gwasanaeth cysegru gan Archesgob Cymru gydag esgobion eraill Cymru gyda mwy na 200 o westeion yn bresennol, yn cynrychioli eglwysi a sefydliadau sifil ar draws Cymru. Bydd esgobion o eglwysi Anglicanaidd eraill yn y Deyrnas Unedig hefyd yn bresennol.
Yn ystod y gwasanaeth, caiff David ei eneinio gydag olew sanctaidd a chyflwynir symbolau’r swydd iddo: modrwy esgob, brongroes, meitr, Beibl a bagl esgob. Bydd aelodau o’i deulu yn dod â’r rhain iddo, ar gyfer eu cyflwyno. Mae’r fodrwy yn rhodd gan ei rieni a bydd Hazel Morris, mam David, yn dod â hi. Mae’r groes yn rhodd gan ei ddyweddi Marc Penny ac mae’r fagl esgob yn rhodd gan yr Esgob David Yeoman, sydd wedi ymddeol fel Esgob Cynorthwyol Llandaf.
Rhoddir yr anerchiad gan y Canon Richard Lowndes, Tiwtor Ffurfiant yn Sefydliad Padarn Sant.
Rwy’n edrych ymlaen gyda llawenydd mawr a gydag ymdeimlad dwfn o ddiolch am alwad Duw yn fy mywyd.
Bydd y côr yn canu anthem newydd. Gosodwyd geiriau o gerdd hynafol gan Meilyr Brydydd am Ynys Enlli i gerddoriaeth gan y cyfansoddwr Simon Ogdon yn yr anthem a elwir yn Ynys Firain.
Dywedodd yr Archesgob, Andrew John: “Rwy’n edrych ymlaen at gysegru David yn esgob ac at weithio’n agos gydag ef yn Esgobaeth Bangor. Bydd David yn rhoi arweinyddiaeth sy’n ysbrydoli a gofal bugeiliol dwfn i’n cynulleidfaoedd a’r cymunedau a wasanaethant. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’r Eglwys a gwn y bydd gan David rôl bwysig tu hwnt wrth symud y gwaith ymlaen. Gofynnaf i chi ei gadw yn eich gweddïau wrth iddo ddechrau ar y bennod newydd hon yn ei weinidogaeth.”
Dywedodd David, “Bydd yr adeg cysegru yn foment ddwys lle bydd cyd-esgobion yn fy ngwneud yn esgob yn unol â’r traddodiad hanfodol o arddodi dwylo. Bydd cyfrifoldeb y weinidogaeth a ymddiriedir i fi i’w weld yn y symbolau swydd a gyflwynir gan aelodau o fy nheulu. Rwy’n edrych ymlaen at yr achlysur gyda llawenydd mawr a gydag ymdeimlad dwfn o ddiolch am alwad Duw yn fy mywyd.”
- Bydd y gwasanaeth Cysegru yn cychwyn am 2pm a chaiff ei ffrydio’n fyw ar sianel Youtube y Gadeirlan i bawb ymuno.
Taith Gweinidogaeth
Yn wreiddiol o Cymer yng Nghwm Rhondda, graddiodd David mewn diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Bangor a hyfforddodd ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf, pan wnaeth hefyd gwblhau gradd Meistr mewn diwinyddiaeth. Fe’i ordeiniwyd yn offeiriad yn 2010 yng Nghadeirlan Llandaf a gwasanaethodd fel curad ym Merthyr Tudful. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, penodwyd David yn offeiriad plwyf Grangetown yng Nghaerdydd, lle gwasanaethodd am saith mlynedd ac roedd hefyd yn Gynghorydd Galwedigaethau ar gyfer Esgobaeth Llandaf. Yn 2019 cafodd ei benodi yn Gyfarwyddwr Ordinandiaid Esgobaeth Llandaf a Ficer yn Ardal Gweinidogaeth Dwyrain y Fro ym Mro Morgannwg. Ar ôl tair blynedd, symudodd David i Esgobaeth Bangor fel Cyfarwyddwr Gweinidogaeth yr Esgobaeth a bu hefyd yn Ganon Preswyl Cadeirlan Bangor.
Gwnaed David yn Gomander Urdd Sant Ioan yn 2020 a bu’n weithgar gydag Ambiwlans Sant Ioan Cymru ers 2010; cafodd ei benodi yn Ddeon y Priordy ar gyfer Cymru yn 2019 ac yn Ymddiriedolydd yr elusen yn 2020.