Mynwentydd yn dathlu creaduriaid bach a mawr
Bydd mynwentydd yn dathlu eu bywyd gwyllt mewn digwyddiad wythnos o hyd ym mis Mehefin.
O flodau gwyllt i bryfed, adar a mamaliaid, mae creaduriaid o bob maint wedi canfod hafan ym mannau claddau Prydain ers canrifoedd gan na fu fawr iawn o darfu ar y tir.
Yn ystod Wythnos Caru Eich Man Claddu ac Eglwysi’n Cyfrif ar Natur gwahoddir pawb i ymchwilio’r mannau arbennig hyn a helpu arolygu yr hyn a welant.
Caiff yr wythnos, a gynhelir rhwng 8-16 Mehefin, ei threfnu gan Caring for God’s Acre a’i chefnogi gan yr Eglwys yng Nghymru, Eglwys Lloegr ac A Rocha UK. Mae’r digwyddiadau a gynhelir yn amrywio o ‘gyfrif natur’ bioamrywiaeth mewn mynwentydd eglwysi, i gofnodi cofebau a theithiau mewn mynwentydd trefol. Gall pobl ymuno wrth gofnodi’r bywyd gwyllt a welant yn defnyddio ap iNaturalist. Bydd hefyd gyfres o weminarau yn ystod yr wythnos y gall pawb ymuno ynddynt.
Esboniodd Harriet Carty, Cyfarwyddwr Caring for God’s Acre sut y gall cymryd rhan arwain at newid gwirioneddol.
“Dros y tair blynedd ddiwethaf, cynhaliwyd 1,300 o ddigwyddiadau gyda mwy na 24,500 yn cymryd rhan ac arwain at gyflwyno 37,355 o gofnodion bywyd gwyllt. Yn ogystal â chynnal digwyddiadau sy’n datgelu hanes lleol, mae darganfod y bywyd gwyllt mewn mannau claddu wedi ysgogi gwelliannau gwirioneddol. Mae cymunedau wedi cymryd camau pendant, gan osod blychau ar gyfer gwenoliaid sy’n ymweld, rhoi blychau mewn gwrychoedd lle gellir cofnodi pathewod ac addasu trefniadau torri gwair fel y gall blodau gwyllt ffynnu.”
Mae Andrew John, Archesgob Cymru, yn gwahodd eglwysi i gymryd rhan. Dywedodd, “Cawsom ein bendithio gyda mynwentydd sy’n gyfoethog mewn bywyd planhigion ac anifeiliaid ac mae hyn yn rhywbeth i’w ddathlu a’i feithrin. Mae Eglwysi’n Cyfrif ar Natur yn ystod yr wythnos Caru Eich Man Claddu ym mis Mehefin yn ffordd rwydd a llawn hwyl i wneud yn union hynny. Rwy’n annog ein heglwysi i gymryd rhan – cynnal digwyddiad, gwahodd y cymdogion ac ymchwilio’r trysorau naturiol sydd o’n cwmpas. A phan gofnodwn yr hyn a ddarganfyddwn, rydym yn ychwanegu at y darlun cenedlaethol o gyflwr ein bywyd gwyllt ac wrth wneud hynny, yn helpu i’w ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Rhybuddiodd Helen Stephens, Rheolwr Cysylltiadau Eglwysig A Rocha UK, fod natur dan fygythiad. Dywedodd, “Mae gennym natur gyfoethog a godidog ym Mhrydain, ond mae llawer ohono dan fwy o fygythiad nag erioed. Mae rôl sylweddol i ni ei chwarae yn ein heglwysi ac ar dir yr eglwys wrth helpu i ddiogelu ac adfer natur.
“Cam cyntaf gwych yw darganfod ac ymhyfrydu yn yr hyn sydd ar drothwy ein heglwysi drwy gyfrif, er enghraifft, blanhigion, pryfed, adar, mamaliaid ac unrhyw agwedd arall o natur nad ydym efallai yn sylwi arnynt fel arfer ond yr ydym yn dibynnu arnynt mewn cynifer o ffyrdd. P’un ai’n llygad y dydd cyffredin neu’r gwybedog mannog sy’n swnio’n fwy ecsotig, hoffem wybod beth a welwch i’n helpu i adeiladu darlun llawnach o’r hyn y gellir ei ganfod – a gofalu amdano – ar dir yr eglwys. Nid yw’n rhaid i chi fod yn arbenigwr, ac mae’n weithgaredd hwyliog i’w wneud yn eich cymuned gydag eraill, yn arbennig plant. Mae ar agor i eglwysi o bob enwad, felly pam na chymerwch ran?”
Dywedodd y Gwir Barchedig Graham Usher, esgob arweiniol dros yr amgylchedd yn Eglwys Lloegr, “Rwy’n gobeithio y bydd llawer o gynulleidfaoedd yn cymryd rhan yn Wythnos Caru Eich Man Claddu ac Eglwysi’n Cyfrif ar Natur. Mae’n ffordd wych i gael pobl leol i ymwneud â’r bioamrywiaeth o’u hamgylch, yn ogystal â chynnig gwahoddiad cenhadol i gymryd rhan ym mywyd eu heglwys leol. Y llynedd cefais fwynhad arbennig o ddysgu am rai o’r cennau prin lliwgar sy’n tyfu ar gerrig beddau. Mae’r rhywogaethau gwych hyn i gyd yn rhan o greadigaeth gyfoethog Duw, gan ein hatgoffa fod mynwentydd yn fannau i’r byw, nid dim ond y meirw!”
Wythnos Caru Eich Man Claddu ac Eglwysi’n Cyfrif ar Natur
Cofrestru i gymryd rhan