Yr Eglwys yn penodi Hyrwyddwr Newid Hinsawdd
Academydd a dreuliodd wyth mlynedd yn ymchwilio a chynghori ar newid hinsawdd yn y Môr Tawel yw Hyrwyddwr Newid Hinsawdd cyntaf yr Eglwys yng Nghymru.
Bu Dr Julia Edwards yn gweithio gyda chymunedau y mae cynhesu byd-eang yn effeithio’n uniongyrchol arnynt yn Fiji a hefyd Papua New Guinea a bu’n cynghori ar strategaethau gostwng risg trychineb, fel partner cenhadaeth gyda’r Eglwys Fethodistaidd.
Yn ei rôl newydd fel Hyrwyddwr Newid Hinsawdd, bydd Julia yn helpu’r Eglwys yng Nghymru i ddatblygu ei hagenda newid hinsawdd, gan weithio tuag at allyriadau carbon sero-net. Bydd yn datblygu cynllun gweithredu i helpu pob rhan o’r Eglwys i gael fframwaith ar gyfer gweithredu.
Daw penodiad Julia fel Hyrwyddwr Newid Hinsawdd cyntaf yr Eglwys ar amser tyngedfennol i’r amgylchedd. Eleni bydd y Deyrnas Unedig yn cyd-gynnal cynhadledd hinsawdd COP26 y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow pan fydd arweinwyr byd o 197 o wledydd yn gosod llwybr i fynd i’r afael ag allyriadau carbon byd-eang.
Yr wythnos nesaf, gofynnir i aelodau Corff Llywodraethol yr Eglwys ddatgan argyfwng hinsawdd a chynllunio i’r holl eglwys gael allyriadau carbon sero-net, yn ddelfrydol erbyn 2030. Gofynnir iddynt hefyd gymeradwyo cynnig i ddadfuddsoddi cyllid yr Eglwys o danwyddau ffosil mewn diweddariad o’i Pholisi Buddsoddiad Moesegol.
Wrth gyhoeddi penodiad Julia, dywedodd Alex Glanville, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo yr Eglwys, “Rwy’n hynod falch y cafodd Julia ei phenodi yn Hyrwyddwr Newid Hinsawdd newydd i ni. O wresogi a goleuo ein hadeiladu i ddiogelu bywyd gwyllt yn ein mynwentydd, mae cynaliadwyedd yr amgylchedd yn awr yn flaenoriaeth i’r Eglwys. Rydym wedi gwneud cynnydd mewn blynyddoedd diweddar gyda’n holl esgobaethau yn awr wedi cofrestru gyda chynllun ‘Esgobaeth Eco’ A Rocha UK ac mae llawer o’n heglwysi wedi sicrhau dyfarniad ‘Eglwys Eco’. Ond mae llawer o waith ar ôl a bydd rôl Julia yn hanfodol wrth ein helpu i gyrraedd ein targed carbon sero-net.”
Dywedodd Julia, “Mae’r datganiad o Argyfwng Hinsawdd a’r ymrwymiad i carbon sero-net yn dangos fod yr Eglwys yng Nghymru o ddifri am newid hinsawdd. Rwy’n falch iawn i ymuno yn y rôl newydd hon ym mlwyddyn hollbwysig COP26 ac ar amser mor dyngedfennol pan gaiff pawb ohonom ein herio i ostwng ein heffaith ar yr amgylchedd a byw’n fwy cynaliadwy.
“Drwy ofalu am greadigaeth Duw a gweithredu nawr, rydym yn cydsefyll gyda’r mwyaf bregus mewn cymdeithas y mae newid hinsawdd eisoes yn effeithio arnynt, yma yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o’r byd.
Mae yn ein dwylo ni i gyd i wneud gwahaniaeth ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gefnogi’r Eglwys ar ei thaith carbon sero-net.
Cyn ei gwaith yn y Môr Tawel, roedd Julia yn academydd amgylcheddol mewn prifysgolion yng Nghymru a Chaeredin. Dros y flwyddyn ddiwethaf bu’n helpu ffoaduriaid fel gweithwraig achos a swyddog addysg gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru, yn seiliedig yng Nghaerdydd.
Corff Llywodraethol - Cynnig: Argyfwng Hinsawdd
Darllenwch yma