Sul yr Hinsawdd: rhoi llais i eglwysi lleol
I nodi Diwrnod Rhyngwladol yr Amgylchedd, mae menter newydd yn cael ei lansio heddiw i ffocysu gwaith eglwysi ar draws Prydain ac Iwerddon sydd wedi ymrwymo i wrthsefyll newid hinsawdd. Trefnwyd Sul yr Hinsawdd gan Eglwysi ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon, gyda chefnogaeth elusennau megis CAFOD, Cymorth Cristnogol, Tearfund, A Rocha UK, ac Operation Noah.
Anogir eglwysi lleol i gynnal Sul yr Hinsawdd yn lleol ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn sy’n dechrau ar 6ed Medi 2020 (Sul cyntaf Tymor y Cread, sy’n digwydd yn flynyddol). Darperir adnoddau rhad ac am ddim sy’n addas i bob traddodiad a dull addoli. Yn ystod ei Sul yr Hinsawdd lleol, fe wahoddir pob eglwys i wneud un neu fwy o’r tri pheth canlynol: Oedfa’r hinsawdd: Cynnal gwasanaeth wedi ei ganoli ar yr hinsawdd, er mwyn archwilio sail ddiwinyddol a gwyddonol gofalu am y cread a gweithredu am yr hinsawdd, gweddïo ac ymrwymo i weithredu. Ymrwymo: Ymrwymo fel cymuned eglwysig leol i gymryd camau gweithredol hirdymor i leihau ei hallyriadau nwyon tŷ gwydr. Codi llais: Ymuno ag eglwysi eraill a’r gymdeithas ehangach trwy ychwanegu ei henw i alwad ar y cyd i lywodraeth y Deyrnas Unedig gymryd camau mwy mentrus o lawer am newid hinsawdd yn y wlad hon cyn COP26, a chryfhau ei hygrededd i arwain y gymuned ryngwladol i fabwysiadu camau mwy sylweddol o lawer yn COP26.
Uchafbwynt yr ymgyrch fydd Sul yr Hinsawdd cenedlaethol ar Sul 5ed Medi 2021 i rannu ymrwymiadau’r eglwysi a gweddïo dros weithredu mentrus ac arweiniad dewr yn COP26.
Meddai Andy Atkins, Prif Weithredwr A Rocha UK, a chadeirydd y glymblaid:
“Gydag argyfwng yr hinsawdd yn cyflymu a’r Deyrnas Unedig yn croesawu’r byd i drafodaethau hinsawdd COP26 yn Nhachwedd 2021 yn Glasgow, rydym yn credu i’r amser ddod i’r holl eglwysi ar draws y DU weddïo a gweithredu ynghylch argyfwng yr hinsawdd, fel y buom yn ei wneud ynghylch pandemig Covid-19.
“Ein gweledigaeth yw gadael etifeddiaeth barhaol o filoedd o eglwysi ledled gwledydd Prydain sydd wedi eu harfogi’n well i ymdrin â’r mater hanfodol hwn fel rhan o’u disgyblaeth a’u cenhadaeth reolaidd; a gwneud cyfraniad sylweddol iawn i ymdrechion y gymdeithas sifil i sicrhau gweithredu cenedlaethol a rhyngwladol digonol yng nghynhadledd COP26.”
Meddai Cyfarwyddwraig Eiriolaeth Fyd-eang Tearfund, Dr Ruth Valerio:
“Mae’r argyfwng presennol wedi newid y ffordd yr ydym yn gweld y byd. Mae wedi ein hatgoffa pa mor fregus yw bywyd, wedi datgelu’r gagendor rhwng y cyfoethogion a’r tlodion, ac wedi datgelu’r difrod a wnaethom i’r cread yn ehangach. Ond mae hefyd wedi ein helpu i garu ein cymdogion ac wedi dwyn cymunedau ynghyd. Mae Sul yr Hinsawdd yn gyfle gwych i ymateb i’r newidiadau cymdeithasol mawr yma: i oedi ac ail-ddychmygu sut allai bywyd fod; i ymrwymo i fyw yn wahanol ein hunain; a galw ar lywodraeth y DU i ailadeiladu ein heconomi mewn ffordd sy’n mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac yn adeiladu gwell byd i bawb.”
Meddai’r Barch. Judith Morris, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Bedyddwyr Cymru:
“Mae Sul yr Hinsawdd yn gyfle hanfodol i bob eglwys weithredu mewn ffyrdd sydd fawr eu hangen i fynd i’r afael ag un o’r Materion pwysicaf, a mwyaf brys, sy’n wynebu ein planed. A ninnau’n stiwardiaid ar gread Duw, mae’n hollbwysig ein bod yn ymwneud yn weithredol â newid hinsawdd ac
yn ymdynghedu i ddiogelu’r dyfodol ar gyfer cenedlaethau i ddod. Mae angen i ni wneud newidiadau cyn ei bod hi’n rhy hwyr a gobeithiwn y bydd y fenter hon yn ysgogi pob Cristion yng Nghymru i weithredu.”
Meddai Esgob Caersallog, y Gwir Barchedig Nicholas Holtam, yr Esgob sy’n gyfrifol am yr amgylchedd yn Eglwys Loegr:
“Er i’n ffocws gael ei symud yn y misoedd diwethaf o newid hinsawdd gan heriau ymateb i COVID-19, nid yw argyfwng yr hinsawdd wedi diflannu, a mae’r mis Mai sychaf ers dechrau cofnodi yn ein hatgoffa o hynny mewn ffordd amserol. Bydd Sul yr Hinsawdd yn adnodd arbennig i helpu plwyfi Eglwys Loegr i ddeall ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Wrth i ni weithio ar y camau y bydd angen i ni eu cymryd i ostwng ein hallyriadau carbon yn flynyddol er mwyn atal ein hallyriadau net yn llwyr erbyn 2030, bydd Sul yr Hinsawdd yn ysgogi, hybu ac ysbrydoli ein heglwysi i barhau â’r daith hon.”
Meddai Esgob Salford, yr Esgob John Arnold, yr Esgob sy’n gyfrifol am yr amgylchedd ar ran Esgobion Catholig Cymru a Lloegr:
"Mae angen i ni gydnabod y difrod yr ydym yn ei wneud i’r amgylchedd a’n methiant i ofalu am ein brodyr a’n chwiorydd yn ein cartref cyffredin. Yn y byd wedi’r pandemig, mae cynllun Sul yr Hinsawdd yn gyfle arbennig i blwyfi Catholig yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal â’n brodyr a chwiorydd ecwmenaidd, ddeall ein cyfrifoldeb i iacháu’r blaned a gweddïo a gweithredu mewn ymateb i argyfwng yr hinsawdd."
Meddai Cadeirydd Eco-Congregation Scotland, Mary Sweetland, elusen ecwmenaidd sy’n cefnogi 500 o eglwysi o bob enwad yn yr Alban yn eu gweithgarwch amgylcheddol:
"Mae angen i ni Gristnogion sy’n poeni am gread Duw, weithredu i fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd nawr ac ar ran cenedlaethau’r dyfodol. Pan fyddwn yn croesawu miloedd o bob rhan o’r byd, ar lein neu yn bersonol i COP26, gallwn oll ddangos ein bod ni’n gweithredu ac yn arwain trwy esiampl yn ein heglwys ac ar draws gwledydd Prydain. Rydym oll yn rhannu cyfle unigryw yn y flwyddyn sy’n dod i newid yn sylfaenol, gan gymryd camau ymarferol yn ein hymddygiad ein hunain ac yn galw ar lywodraethau i gytuno gweithredu byd-eang pan fyddant yn cyfarfod yn Glasgow. Mae Sul yr Hinsawdd yn helpu cysylltu hyn yn uniongyrchol â’n bywyd ysbrydol ein hunain, yn helpu eglwysi lleol i ganolbwyntio ar yr amgylchedd wrth addoli, gweddïo a gweithredu."