Sul yr Hinsawdd yn gadael gwaddol barhaol
Ar ôl ysgogi miloedd o eglwysi a grwpiau eglwysig ledled Prydain ac Iwerddon i weithredu ar newid hinsawdd yn y cyfnod cyn COP26, mae ymgyrch Sul yr Hinsawdd bellach wedi dod i ben, gan adael gwaddol parhaol o adnoddau gwerthfawr i eglwysi gymryd camau pellach.
Cymerodd dros 2,300 o eglwysi a grwpiau eglwysig ledled Prydain ac Iwerddon ran ym menter Sul yr Hinsawdd yn y cyfnod cyn COP26, gan fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd trwy gynnal gwasanaethau Sul yr Hinsawdd, ymrwymo i weithredu ymarferol a chodi llais dros gyfiawnder hinsawdd. Mae’r defnydd helaeth hwn o’r fenter ar draws traddodiadau eglwysig amrywiol yn dangos ymrwymiad cynyddol gan eglwysi lleol i weithredu ar newid hinsawdd. Dyma hefyd oedd yr ymateb eciwmenaidd mwyaf i’r argyfwng hinsawdd yn y DU yn y cyfnod cyn COP26.
Er enghraifft, ym mis Ebrill 2021 gosododd Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yr her uchelgeisiol i’r Eglwys honno gyrraedd di-garbon net ar draws eglwysi, cadeirlannau, esgobaethau ac ystadau ysgolion erbyn 2030.
Nawr, cynllun y glymblaid o eglwysi ac asiantaethau Cristnogol a arweiniodd Sul yr Hinsawdd yw adeiladu ar y cynnydd a wnaed dros gyfnod yr ymgyrch. Fel rhan o hyn, byddant yn cynnal gwefan ddwyieithog Sul yr Hinsawdd – www.climatesunday.org – sy’n dangos sut y gall eglwysi lleol gymryd camau pellach i warchod natur. Mae ystod eang o adnoddau addoli yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac arweiniad ar sut i barhau i godi llais am yr argyfwng hinsawdd. Bydd y cynlluniau EcoChurch a Live Simply hefyd yn parhau i fod ar gael i eglwysi lleol ymuno â nhw.
Mae Andy Atkins, cyd-gadeirydd Sul yr Hinsawdd a Phrif Weithredwr A Rocha UK yn esbonio: Mae’r ymrwymiad i weithredu a ddangoswyd gan filoedd o eglwysi fel rhan o Sul yr Hinsawdd yn ysbrydoledig. Fe ddaw â chynnydd ymarferol ac â gobaith, yn enwedig i bobl ifanc sy’n ysu am i’w cymunedau eglwysig a gwleidyddion ymwneud â’r mater hollbwysig hwn. Bydd yr adnoddau cyfoethog sydd wedi eu llunio gan aelodau’r ymgyrch yn helpu eglwysi lleol i barhau i weithredu’n effeithiol yn 2022 pan fydd Llywodraeth y DU o hyd yn llywydd ar COP.
Dywedodd Hannah Brown, Swyddog Ymgyrchu ac Ymrwymiad Eglwysi yn y Tîm Materion Cyhoeddus ar y Cyd (yr Eglwys Fethodistaidd, Yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig ac Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr): Rydym yn gwybod na fydd y daith o’n blaenau wrth i ni drosglwyddo i sero net ar draws y byd yn un hawdd. Rydym yn ddiolchgar bod cymunedau eglwysig ledled Prydain ac Iwerddon wedi bod yn rhan o alluogi etifeddiaeth COP26 i fod yn fwy na chytundeb a negodwyd, ond hefyd yn drawsnewidiad o ran cysylltu eglwysi ar lawr gwlad â gweithredu ar yr hinsawdd.