Cymunedau yn gweithredu i gyfrif bywyd gwyllt mewn mynwentydd eglwys
Gall eglwysi ledled Cymru yn awr gofrestru i gymryd rhan yn Eglwysi’n Cyfrif Natur, cynllun blynyddol lle mae pobl yn ymweld â mynwentydd eglwysi ac yn cofnodi’r rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid a welant yno.
Cynhelir yr arolwg bioamrywiaeth, a gefnogir gan elusennau amgylcheddol A Rocha UK a Caring for God’s Acre, yn ogystal â’r Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Lloegr, rhwng 3-11 Mehefin.
Yn y ddwy flynedd ddiwethaf cynhaliwyd 900 digwyddiad cyfrif ar draws eglwysi yng Nghymru a Lloegr, a chyflwynwyd mwy na 27,000 o gofnodion bywyd gwyllt i Caring for God’s Acre.
Defnyddir y data i benderfynu lle mae rhywogaethau prin ac mewn perygl yn y wlad ac i gynorthwyo eglwysi o bob enwad i gynyddu bioamrywiaeth ar eu tir er mwyn cyfoethogi’r amgylchedd a chymunedau lleol. Eleni, gobeithir mapio rhywogaethau ar lawer mwy o’r 17,500 erw o fynwentydd eglwysi yn Lloegr a’r 1,282 erw sydd yng ngofal yr Eglwys yng Nghymru.
Gan y caiff mynwentydd eglwys fel arfer eu gadael heb darfu arnynt ac na chânt eu defnyddio ar gyfer amaeth, gallant fod yn gartref i amrywiaeth fawr o fywyd gwyllt nas gwelir mewn mannau gwyrdd eraill, yn arbennig mewn ardaloedd trefol. Yn aml mae glaswelltir gwych cyfoethog mewn blodau a rhywogaethau mewn hen fynwentydd gan na fu fawr o darfu arnynt dros y canrifoedd.
Mae Eglwysi’n Cyfrif Natur yn rhan o Wythnos Caru eich Mynwent, sy’n agored i unrhyw un sy’n caru natur. Caiff eglwysi eu hannog i gysylltu gydag ysgolion lleol, grwpiau bywyd gwyllt, a’r rhai nad ydynt efallai wedi ymweld o’r blaen i ddarganfod eu mynwentydd eglwys.
Arolwg eleni yw’r cyntaf mewn tair blynedd i’w gynnal heb gyfyngiadau Covid, felly bydd eglwysi cofrestredig yn gobeithio gweld nifer fwy o blwyfolion yn cymryd rhan mewn digwyddiadau cyfrif.
Mae’n ffordd rwydd, rad ac am ddim a hwyliog i ddangos yn union faint y carwn greadigaeth Duw.
Gall y cyfrif godi ymwybyddiaeth ac annog gofalu am fywyd gwyllt mewn mynwentydd a hefyd roi gweithgaredd i gymunedau lleol ei rannu a all ddod â phobl ynghyd.
Mae Archesgob Cymru, Andrew John, yn gwahodd cynifer o bobl ag sydd modd i ymuno. Dywedodd, “Mae mynwentydd ein heglwysi – erwau Duw – yn doreithiog mewn bywyd. Maent yn unigryw fel mannau gwyrdd heddychlon na fu tarfu na datblygu arnynt am ganrifoedd. Rydym eisiau canfod yn union pa mor gyfoethog ac amrywiol mewn planhigion a bywyd anifeiliaid ydynt heddiw fel y gallwn sicrhau eu bod yn gynefinoedd a gaiff eu gwarchod a’u meithrin ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
“Rwy’n apelio at y rhai sy’n gofalu am ein mynwentydd – p’un ai yng nghefn gwlad neu yn y ddinas, mewn cadeirlannau mawr neu bentrefi bach – i ymuno yn Eglwysi’n Cyfrif Natur yn ystod wythnos Caru eich Mynwent ym mis Mehefin. Gwahoddwch y gymuned gyfan, ifanc a phrofiadol, a gwneud diwrnod ohoni – mae’n ffordd rwydd, rad ac am ddim a hwyliog i ddangos yn union faint y carwn greadigaeth Duw.
“Peidiwch ag anghofio cofrestru, defnyddio’r adnoddau gwych ac anfon eich canlyniadau fel y gallwn gael darlun clir o’r trysorau mae angen i ni eu gwarchod.”
Y Dydd Sul hwn darlledir pennod gyntaf Wild isles ar y BBC, cyfres ddogfen natur newydd gyda Syr David Attenborough yn canolbwyntio ar fioamrywiaeth ym Mhrydain. Gobeithir y bydd y rhaglen yn ysbrydoli eglwysi i gofrestru ar gyfer y cyfrif.
Wrth siarad ar y gyfres, dywedodd Syr David “Ni fu erioed adeg pwysicach i fuddsoddi yn ein bywyd gwyllt – i geisio gosod enghraifft ar gyfer gweddill y byd ac adfer ein hynysoedd fu unwaith yn wyllt ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Meddai Esgob Norwich, Graham Usher, Esgob Arweiniol Eglwys Lloegr ar Faterion Amgylcheddol, “Mae’r nifer fawr o eglwysi ar draws y wlad sydd yn cofrestru i gymryd rhan yn Eglwysi’n Cyfrif Natur eleni eto yn gyffrous iawn.
“Y penwythnos hwn, bydd cannoedd o filoedd o bobl yn edrych ar raglen ddogfen newydd Syr David Attenborough ar fywyd gwyllt yn Ynysoedd Prydain. Mae cofrestru ar gyfer y cynllun hwn yn ffordd wych i eglwysi annog ymateb lleol a helpu i adfer y cynefinoedd naturiol ar garreg ein drws. Bydd y digwyddiad yn ein helpu i benderfynu faint o fioamrywiaeth sydd yn ein mynwentydd a bydd yn gyfle gwych i ddod â phobl o bob oed ynghyd i werthfawrogi’r byd naturiol.
“Wrth i mi ddarllen yr Efengylau, caf fy nharo yn union faint y mae Iesu yn sylwi ar natur. Gallwn ymuno ag ef yn gweld lili’r maes, yr esgyll mewn cnydau ac adar yr awyr. Fel Cristnogion, mae gennym gyfrifoldeb i ofalu am greadigaeth Duw, ac mae cymryd rhan mewn Eglwysi’n Cyfrif Natur yn un ffordd o blith llawer y gallwn arddangos y gofal hwnnw.”
Ymysg y mynwentydd yng Nghymru a gymerodd ran yn Eglwysi’n Cyfrif Natur y llynedd oedd:
- Eglwys Santes Fair yng Nghaerhun, Conwy. Arweiniwyd y digwyddiad gan y Parch Susan Blagden a gallwch ddarllen amdano yn y blog hwn
- Eglwys Sant Tygwydd, Llandygwydd. Cymerodd y Parch Anne Beman a phlwyfolion o Landygwydd ger Aberteifi ran mewn digwyddiad ‘bioblitz’. Edrychwch ar yr hyn y buont yn ei wneud yma
Eglwysi’n Cyfrif Natur
Cofrestrwch eich eglwys