Cymuned yn dathlu 75 mlynedd ers sefydlu'r GIG yng Nghymru
Caiff gwasanaeth eglwys aml-ffydd ei gynnal i ddathlu'r cyfoeth o dalent ac amrywiaeth sy’n rhan o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Bydd yn un o sawl gweithgaredd a gaiff ei gynnal i ddathlu 75 mlynedd ers sefydlu'r GIG ym mis Gorffennaf.
Bydd Eglwys yr Atgyfodiad yn Nhrelái, Caerdydd, yn cynnal y digwyddiad ar 4 Gorffennaf, sef noson cyn y diwrnod y dechreuodd y GIG, ar 5 Gorffennaf 1948.
Bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, a Phrif Weithredwr GIG Cymru, Judith Paget. Bydd Esgob Llandaf, Mary Stallard, yn rhoi’r anerchiad.
Dywedodd Ficer Eglwys yr Atgyfodiad, Y Canon Jan Gould, y dyfarnwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig iddi, "Rwyf wrth fy modd yn cael cynnal y digwyddiadau i ddathlu pen-blwydd ein GIG arbennig yn 75 oed yn Eglwys yr Atgyfodiad, yn Nhrelái.
"Cafodd y GIG ei sefydlu i wasanaethu pob person o bob cefndir, ac mae'n anrhydedd ac yn fraint bod ein cymuned wedi cael ei dewis i fod yn ganolbwynt ar gyfer dathliadau Cymru. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu cynrychiolwyr o bob sector y GIG, yn ogystal ag eglwysi a chrefyddau eraill, i ddod ynghyd i ddathlu a diolch."
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, "Rwy'n falch o ddathlu GIG75 gyda chynrychiolwyr o'n staff talentog, dewr a gweithgar sydd bob amser yno inni, yn aml pan rydym fwyaf agored i niwed.
"Mae'r GIG yn bwysig iawn inni yma yng Nghymru gan mai Aelod Seneddol o Gymru, Aneurin Bevan, sefydlodd y gwasanaeth. Roedd yn seiliedig ar Gymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar a oedd dan arweiniad y gymuned. Edrychaf ymlaen at ymuno â chymuned Trelái, a phobl o gymunedau ledled Cymru, i ddathlu'r achlysur arbennig hwn."
Dywedodd Prif Weithredwr GIG Cymru, Judith Paget, "Rwy'n falch iawn o dalu teyrnged i'r staff gofal iechyd a diolch iddynt am eu dewrder, eu gwaith caled a'u harloesedd yn ystod y gwasanaeth arbennig hwn.
"Mae ein hanghenion iechyd, meddyginiaethau, triniaethau a thechnolegau wedi newid llawer ers 1948, ond dyw un peth heb newid; ymroddiad y staff, a dyma oedd y sylfaen y sefydlwyd y GIG arni. Mae hwn yn gyfle i ddathlu llwyddiant a chyflawniadau'r bobl sy'n rhoi cymaint i'w cymunedau."
Bydd medal Croes y Brenin Siôr, a gafodd ei chyflwyno i’r GIG yng Nghymru gan Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth y llynedd, yn cael ei harddangos mewn lle blaenllaw yn yr eglwys ar gyfer y gwasanaeth.