Mae neuadd eglwys Conwy yn ailagor fel canolfan gymunedol egniol

Mae Neuadd Eglwys Y Santes Fair yng Nghonwy yn ailagor ar ôl Gwaith adnewyddu helaeth, gan drawsnewid y gofod yn ganolfan amlbwrpas fywiog ar gyfer y celfyddydau, diwylliant ac ystod eang o weithgareddau cymunedol.
Bydd Diwrnod Agored ar gyfer Neuadd Ni ar ei newydd wedd yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 22 Mawrth, gan gynnig cipolwg ar ddigwyddiadau sydd ar y gweill sy’n gynnwys ffeiriau crefft, arddangosfeydd, gweithdai creadigol, dosbarthiadau lles, cerddoriaeth a pherfformiadau. Bydd lluniaeth ar gael rhwng 10yb a 4yp.
Yn ystod y Diwrnod Agored, bydd Cymdeithas Chwaraewyr Amatur Neuadd Ddinesig Conwy (CHAPS) yn cyflwyno cyflwyniad ar gyfer eu cynhyrchiad nesaf, a fydd yn cael ei berfformio yn Glan Conwy a Rowen ar 16 a 17 Mai, gan nodi dychweliad y cwmni i Gonwy.
Bydd y neuadd hefyd yn gweithredu fel canolfan ganolog ar gyfer rhaglen banc bwyd Bagiau Cariad, sy’n darparu cymorth hanfodol i deuluoedd ac unigolion mewn angen yn y gymuned leol. Bydd y gegin led-fasnachol newydd a’r gofod cefn pwrpasol yn ehangu gallu’r rhaglen i wasanaethu mwy o gartrefi. Ar hyn o bryd maent yn cynorthwyo bron i 100 o deuluoedd ac unigolion bregus bob mis, bydd Bagiau Cariad yn gallu ehangu ei gyrhaeddiad gyda chyfleusterau storio a choginio gwell. Bydd yr adnewyddiadau hefyd yn galluogi lansiad rhaglen newydd Heat and Eat, mewn partneriaeth â Eglwys Sant Ioan, i gefnogi hyd yn oed mwy o deuluoedd lleol yn ystod y gaeaf sydd i ddod.
Mae prosiect Neuadd Ni, dan arweiniad Ardal Weinidogaeth Bro Celynnin yn Esgobaeth Bangor, wedi trawsnewid yr hen neuadd eglwys yn fan bywiog ar gyfer y celfyddydau, diwylliant ac allgymorth lleol. Derbyniodd y prosiect £249,999 gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU, ynghyd â chyllid ychwanegol gan Esgobaeth Bangor (£70,000), Cronfa Gwynt y Môr (£25,000), a Chyngor Tref Conwy (£10,000).
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:
Esgobaeth Bangor - Y Newyddion Diweddaraf