Angen i haelioni fod wrth galon trafodaethau hinsawdd, meddai’r Archesgob
Wrth i COP28 gyrraedd pwynt tyngedfennol gofynnodd Archesgob Cymru, Andrew John, i Gristnogion weddïo am weledigaeth a dewrder gan arweinwyr byd i ostwng allyriadau carbon byd-eang ac am haelioni gan genhedloedd diwydiannol i helpu’r rhai y mae newid hinsawdd eisoes wedi effeithio arnynt. Mae ei ddatganiad llawn yn dilyn:
Mae adroddiadau diweddar y Cenhedloedd Unedig yn dangos, heb weithredu drastig gan lywodraethau i ostwng y defnydd o danwydd ffosil a chyfyngu allyriadau carbon, fod y byd ar drywydd cynnydd catastroffig mewn tymheredd y ganrif hon gyda chanlyniadau byd-eang annirnadwy. Mae’n hanfodol ein bod yn gweithredu nawr i osgoi trychinebau hinsawdd yn y dyfodol drwy fod yn feiddgar yn ein huchelgais i ostwng allyriadau carbon byd-eang.
Eto, mae’n rhaid i ni beidio anghofio fod pobl eisoes yn dioddef o effeithiau andwyol newid hinsawdd, gyda gwledydd bregus yn dioddef mwyaf - er mai hwy sydd wedi cyfrannu lleiaf at yr argyfwng hinsawdd. Mae hon yn sefyllfa anghyfiawn y mae gennym gyfrifoldeb moesol i’w hunioni.
Fel yr Eglwys yng Nghymru, rydym yn ymwybodol iawn fod angen i ni wneud mwy ein hunain i fynd i’r afael â’r her bwysicaf oll yma. Rydym wedi dadfuddsoddi o danwyddau ffosil, wedi datgan Argyfwng Hinsawdd ac yn gweithio tuag at ddyfodol Sero Net ar gyfer ein holl weithgareddau.
Ond nid ydym yno eto, ac o ymdeimlad dybryd o’n rhan ein hunain yn y cymhlethdod, yr anhawster a’r poen sy’n gysylltiedig â’r penderfyniadau hyn y gweddïwn y bydd arweinwyr byd yn cymryd y camau gweledigaethol a dewr sydd eu hangen, hyd yn oed wrth i ni ymgymryd i chwarae ein rhan ein hunain wrth fynd i’r afael â’r heriau sydd o’n blaenau.
Gobeithiaf a gweddïaf dros wrando hael a rhoi hael ymysg pawb yn COP28.
Archesgob Cymru, Andrew John
Gweddïau’r Archesgob ar gyfer y gynhadledd, yn Gymraeg a Saesneg