Bydd y Coroni yn achlysur ‘pwysig a hapus’, meddai esgobion Cymru
Dywedodd Esgobion yr Eglwys yng Nghymru y bydd y Coroni yn achlysur “pwysig a hapus” i’r genedl.
Mewn datganiad a gyhoeddwyd heddiw, mae’r esgobion yn gofyn am fendith Duw i’r Brenin a’r Frenhines newydd ac yn rhoi diolch neilltuol am wasanaeth y Brenin Charles fel Tywysog Cymru.
Mae’r datganiad llawn yn dilyn.
Bydd eglwysi ledled Cymru yn cynnal gwasanaethau arbennig, partïon, cyngherddau a digwyddiadau y dydd Sul hwn (30 Ebrill) a’r penwythnos nesaf i nodi’r Coroni gyda chlochyddion yn ymuno yn nigwyddiad “Canu Clychau dros y Brenin”. Mae rhestr yn dilyn o rai o’r gwasanaethau mwy a gynhelir.
Datganiad yr Esgobion ar y Coroni
Mae Coroni Eu Mawrhydi y Brenin a’r Frenhines yn achlysur pwysig a hapus i’n cenedl ac i’r Gymanwlad a gwyddom y bydd pobl o bob rhan o’r byd yn ymuno â ni i weddïo dros ein Brenin a Brenhines newydd.
Anfonwn ein llongyfarchiadau cynhesaf atynt a gofynnwn i Dduw eu bendithio gyda gwir alluoedd grym ac awdurdod: dewrder i siarad y gwirionedd, doethineb i rannu dirnadaeth a phrofiad, a gwasanaethgarwch a fynegir mewn gwyleidd-dra ac ymrwymiad i eraill.
Diolchwn hefyd am wasanaeth hir ac ymroddedig y Brenin fel Tywysog Cymru, dros y bobl ac achosion a gefnogodd a’r cyfeillgarwch a estynnodd, nid yn lleiaf i’n heglwysi a chynulleidfaoedd.
Bydded i’w ddau Fawrhydi gael teyrnasiad hir a hapus.
Archesgob Cymru, Andrew John
Esgob Llanelwy, Gregory Cameron
Esgob Trefynwy, Cherry Vann
Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas
Esgob Llandaf, Mary Stallard
Gweddi coroni
Gwasanaethau a digwyddiadau y Coroni
Cadeirlan Bangor
Dydd Sul, 30 Ebrill, 6pm: Gwasanaeth Gweddi a Diolchgarwch Esgobaethol a Sirol cyn Coroni Eu Mawrhydi y Brenin a’r Frenhines. Bydd y Côr yn canu cerddoriaeth a gyfansoddwyd ar gyfer ac a berfformiwyd mewn seremonïau Coroni blaenorol, yn cynnwys Zadoc yr Offeiriad gan Handel ac I was Glad gan Parry.
Mae croeso i bawb. Mae mynediad am ddim. Bydd derbyniad diodydd yn dilyn. Gellir archebu lleoedd am ddim yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/gwasanaeth-y-coroni-coronation-service-tickets-618213462107?aff=ebdssbdestsearch
Cadeirlan Tyddewi
Dydd Gwener, 5 Mai: Cyngerdd Prom y Coroni gyda’r Sinfonietta Prydeinig. Mae angen tocyn ar gyfer y digwyddiad. I gael mwy o wybodaeth ewch i https://www.stdavidscathedral.org.uk/events/coronation-prom-british-sinfonietta-and-ian-macmillan-davidson
Dydd Sul, 7 Mai, 10.30am: Gwasanaeth Dinesig y Coroni. Am ddim ond bydd angen tocyn oherwydd y galw. Caiff y gwasanaeth ei ffilmio gan BBC Cymru.
Cadeirlan Llandaf
Dydd Sul, 7 Mai, 10.30am: Ewcharist Diolchgarwch gyda phregeth gan Esgob Llandaf. Bydd lluniaeth i ddilyn.
Bydd parti ar Grîn y Gadeirlan rhwng 1-7pm fydd yn cynnwys lluniaeth, stondinau, gemau a chanu gan aelodau côr y Gadeirlan. Croeso i bawb.
Bydd clychau Cadeirlan Llandaf yn canu i ddathlu’r Coroni ar fore 6 Mai.
Bydd hyn yn dechrau gyda seinio’r clychau am 8.45am a ddilynir gan chwarter caniad ac yna ganu’r clychau yn fwy cyffredinol. Bydd y caniad yn parhau am bron 2 awr cyn y seremoni yn Abaty Westminster. Mae llawer o glochyddion wedi mynegi diddordeb mewn cymryd rhan a bydd yn cynnwys rhai a fu’n dysgu yn ddiweddar yn dilyn yr apêl i “Ganu Clychau dros y Brenin”. Bwriedir hefyd ganu’r clychau y trannoeth fel rhan o’r dathliadau ar Grîn y Gadeirlan yn Llandaf.
Cadeirlan Aberhonddu
Dydd Sul, 7 Mai, 4pm: Hwyrol Weddi Corawl gydag Esgob Abertawe ac Aberhonddu. Bydd côr a cherddorfa yn perfformio anthemau seremonïau Coroni. Bydd hefyd dderbyniad gyda lluniaeth.
Cadeirlan Llanelwy
Dydd Sul, 7 Mai 7, 3.30pm: Hwyrol Weddi Coroni dinesig dan arweiniad Esgob Llanelwy.
Cadeirlan Casnewydd
5 Mai, 7.30pm: gwasanaeth arbennig ar noswyl y Coroni.
Eglwys Plwyf Sant Silyn, Wrecsam
7 Mai: Cynhelir parti cinio coroni yn dilyn y gwasanaeth yn yr eglwys am 11am. Am 3pm bydd gwasanaeth Coroni Dinesig, yn dechrau gyda gorymdaith o Eglwys Sant Silyn i Gadeirlan Catholig y Santes Fair. Bydd Côr Meibion Orffews y Rhos yn cymryd rhan yn y gwasanaeth.
Caiff clychau eu canu ar Ddydd y Coroni am 3pm, ar gyfer y gwasanaeth Sul am 11am a bydd dau chwarter caniad ddydd Llun 8 Mai.
Eglwys Priordy y Santes Fair, y Fenni
Dydd Sul, 7 Mai, 11am: Ewcharist Canedig arbennig gyda gweddïau dros y Brenin a’r Frenhines gyda Hwyrol Weddi Llawen am 5pm gyda cherddoriaeth seremonïau coroni, yn cynnwys I was glad (gyda Vivats) gan Parry. Bydd derbyniad champagne a canapés i ddilyn yng Nghanolfan y Priordy. Mae croeso i bawb i’r gwasanaethau a’r dathliadau wedyn.
Eglwys y Santes Fair, Abertawe
Dydd Sul, 30 Ebrill, 2.30pm: Gwasanaeth Dinesig Abertawe ar gyfer y Coroni ym mhresenoldeb Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg, Arglwydd Faer Abertawe a gwesteion nodedig eraill. Bydd Côr Meibion Dyfnant a Chôr Eglwys y Santes Fair yn canu. Bydd arddangosiadau yn yr eglwys gan 14 elusen o Abertawe. Croeso i bawb.
Dydd Sul 7 Mai 3pm: Hwyrol Weddi Corawl Llawen i ddathlu’r Coroni gyda Chôr Eglwys y Santes Fair.