Croes Cymru: rhodd y Brenin i’r Eglwys i gael ei derbyn yn swyddogol
Caiff Croes Cymru, croes orymdeithiol newydd a gyflwynwyd gan Ei Fawrhydi y Brenin Charles fel rhodd canmlwyddiant i’r Eglwys yng Nghymru, ei chyflwyno’n swyddogol i’r Eglwys yr wythnos yma (25 Ionawr).
Mae’r Groes, a arweiniodd orymdaith y Coroni yn Abaty Westminster ar 6 Mai, yn ymgorffori crair o’r Wir Groes, a roddodd y Pab Francis i’r Brenin i nodi’r Coroni.
Ers y Coroni bu’r Groes yng ngofal Cwmni’r Eurychod – a arweiniodd ei gomisiynu – a chafodd ei harddangos yn Neuadd yr Eurychod yn Ninas Llundain. Caiff ei chyflwyno i Archesgob Cymru, Andrew John, gan Brif Warden Cwmni Anrhydeddus yr Eurychod, yr Athro Charles Mackworth-Young, mewn seremoni fer yn Neuadd yr Eurychod ar 25 Ionawr. Bydd George Stack, yr Archesgob Catholig Caerdydd gynt, hefyd yn westai.
Bydd y delynores Frenhinol Alis Huws yn chwarae caneuon serch Cymreig yn ystod y seremoni, gan fod 25 Ionawr hefyd yn Ddiwrnod Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru.
Bydd y Groes yn ein hatgoffa i gyd am galon ei ffydd
Ar ôl ei dychwelyd i Gymru, caiff Croes Cymru ei harddangos i ddechrau yng Nghadeirlan Deiniol Sant, Bangor, sedd Archesgob Cymru ar hyn o bryd, cyn mynd ar daith o amgylch holl gadeirlannau Cymru gyda’r nod o roi cyfle i bawb ei gweld. Caiff ei defnydd yn y dyfodol ei rhannu rhwng yr Eglwys Anglicanaidd a’r Eglwys Gatholig yng Nghymru.
Dywedodd yr Archesgob Andrew, “Mae Croes Cymru yn symbol eciwmenaidd o arwyddocâd enfawr. Cafodd ei hysbrydoli gan wreiddiau cynharaf ein hanes Cristnogol, a gydag arysgrif Gymraeg o eiriau Dewi Sant, bydd y Groes yn ein hatgoffa i gyd am galon ei ffydd. Yn ogystal â rhoi ffocws o undod ar draws ein gwahanol draddodiadau, bydd hefyd yn arwydd parhaus o barch y Brenin at Gymru a’i hoffter ohoni.”
Meddai’r Athro Charles Mackworth-Young, “Mae Croes Cymru yn dangos perthnasedd sgiliau traddodiadol a chrefftwaith yn y byd modern, ond hefyd natur barhaus gwrthrych hardd, gyda diben ymarferol. Roeddem yn falch iawn i weld y Groes yn arwain cyrhaeddiad Ei Fawrhydi y Brenin yn y Coroni ac wrth ein bodd y bydd yn gwasanaethu’r Eglwys yng Nghymru am genedlaethau i ddod.”
Dywedodd yr Archesgob Mark, “Rwyf wrth fy modd fod Croes Cymru yn dod ‘adre’. Mae’n rhodd werthfawr i bobl Cymru gan Ei Fawrhydi y Brenin Charles, ac yn arbennig felly gan ei bod yn cynnwys crair o’r Wir Groes, a roddwyd yn hael gan y Pab Francis. Mae’n arwydd o wreiddiau Cristnogol dwfn ein cenedl a bydd hefyd, rwy’n siŵr, yn ein hannog i gyd i fodelu ein bywydau ar y cariad a roddwyd gan ein Iachawdwr, Iesu Grist. Edrychwn ymlaen at y gwahanol ddathliadau a gynhelir o’i hamgylch, gan fedru ei anrhydeddu yn y lleoliad urddasol lle bydd yn canfod cartref parhaol yn ein plith.”
Wedi’i dylunio a’i llunio gan y pencampwr o of arian Michael Lloyd, gan ymgynghori â’r Casgliad Brenhinol, lluniwyd Croes Cymru o fwliwn arian wedi ei ailgylchu, a roddwyd gan y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant, a phaladr o bren o goeden a syrthiodd yng Nghymru ar waelod o lechen Gymreig. Mae geiriau o bregeth olaf Dewi Sant ar gefn y Groes: “Byddwch lawen. Cadwch y ffydd. Gwnewch y pethau Bychain”.
I gydymffurfio â’r Ddeddf Dilysnodau, mae dilysnod llawn ar elfennau arian y Groes (rhai Swyddfa Brawf Llundain), gan gynnwys y Nod Brenhinol (pen llewpard) a roddwyd gan y Brenin ei hun ym mis Tachwedd 2022 pan ymwelodd â Chanolfan yr Eurychod yn Llundain.