Croes Cymru i arwain dathliadau 1,500 Bangor
Bydd Croes Cymru, oedd â rôl ganolog yn seremoni Coroni Brenin Charles III, yn cael ei derbyn yn swyddogol yng Nghadeirlan Bangor yn ystod lansiad blwyddyn o ddathliadau i nodi 1,500fed pen-blwydd dinas hynaf Cymru.
Caiff y groes orymdeithiol a gomisiynwyd yn arbennig, sy’n ymgorffori crair o’r Wir Groes, a roddwyd i’r Brenin Charles gan y Pab Francis, ei derbyn yng Nghadeirlan Deiniol Sant, Bangor, yn ystod gwasanaeth Ewcharist dwyieithog ddydd Sul 1 Rhagfyr. Arweinir y gwasanaeth gan Archesgob Cymru, Andrew John, gyda’r anerchiad gan Esgob Llandaf, Mary Stallard. Caiff y Groes ei derbyn yn ffurfiol ar ran y Gadeirlan gan Esgob Enlli, David Morris, a’r Canon Tracy Jones.
Cyflwynwyd Croes Cymru fel rhodd canmlwyddiant i’r Eglwys yng Nghymru gan y Brenin Charles ac arweiniodd orymdaith y Coroni yn Abaty Westminster ar 6 Mai 2023. Cafodd ei chyflwyno’n swyddogol i Archesgob Cymru, ar ran yr Eglwys yng Nghymru, gan yr Athro Charles Mackworth-Young, Prif Warden Cwmni Anrhydeddus yr Eurychod, a arweiniodd y broses ddylunio a chynhyrchu, mewn seremoni yn Llundain ar 25 Ionawr.
Yn dilyn ei gosod yng Nghadeirlan Bangor, bydd y Groes yn cychwyn ar daith o amgylch eglwysi cadeiriol Cymru, gan sicrhau bod pobl ledled Cymru yn cael cyfle i weld y darn arwyddocaol hwn o dreftadaeth grefyddol a diwylliannol. Bydd y Groes yn cael ei rhannu rhwng yr Eglwysi Anglicanaidd a’r Eglwysi Catholig yng Nghymru.
Bangor 1500
Bydd y gwasanaeth yn nodi dechrau dathliad blwyddyn o hyd sy'n coffáu 1,500 o flynyddoedd ers i Deiniol Sant sefydlu mynachlog – a elwir yn glas – yn 525 OC mewn cwm diarffordd yng ngogledd-orllewin Cymru. Yn y pen draw, tyfodd yr anheddiad hwn i fod yn gadeirlan a dinas Bangor.
Bydd y gwasanaeth yn cynnwys ennyd o fyfyrio ac undod wrth i'r ddinas baratoi ar gyfer blwyddyn o ddathlu.
Mae rhaglen ben-blwydd y Gadeirlan yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau nodedig drwy gydol 2025, gan gynnwys:
- Darllediad byw o Sunday Worship BBC Radio 4.
- Cyngerdd aduniad hanesyddol gan y band roc Cristnogol Cymraeg Yr Atgyfodiad.
- Lansio CD Cerddoriaeth Eglwysig Newydd Gymreig wedi'i recordio gan Gôr Cadeirlan Deiniol Sant.
- Gosod eicon newydd o Deiniol Sant.
Bydd dathliadau'r ddinas yn parhau gydag arddangosfa ysblennydd o dân gwyllt dros bier hanesyddol Bangor ar Nos Galan. Mae Cyngor Dinas Bangor hefyd wedi dechrau plannu 18,000 o gennin Pedr – un am bob mis ers sefydlu'r ddinas yn 525 OC – a fydd yn blodeuo mewn pryd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. Bydd plant ysgol lleol hefyd yn nodi'r achlysur trwy gladdu capsiwlau amser o dan goeden goffa yn ddiweddarach yn 2025.
Dywed Esgob Enlli, David Morris, “Mae'r gwasanaeth hwn yn nodi dechrau blwyddyn bwysig i ni. Bydd hwn yn gyfle i ddiolch am 1500 o flynyddoedd o ffydd a thystiolaeth, ac mae gwneud hynny drwy dderbyn Croes Cymru yn ffurfiol yn arwyddocaol iawn.
“Credir bod darn o'r wir groes a gynhwysir ynddi wedi dod o'r groes y croeshoeliwyd Iesu Grist arni, bron i 500 mlynedd cyn gweinidogaeth Deiniol Sant yng ngogledd Cymru, ac ar farwolaeth Iesu a'i atgyfodiad y gorffwysai ffydd Deiniol a dyna a'i hysgogodd i rannu'r newyddion da gyda’i genhedlaeth.
“Byddwn yn diolch am yr etifeddiaeth hon o ffydd sydd wedi ysbrydoli cenedlaethau dirifedi ac sy'n rhoi bywyd i'r Gadeirlan heddiw yng nghanol dinas Bangor, gan sefyll fel ffagl o olau a gobaith i bawb.
Wedi'i dylunio a'i llunio gan y meistr gof arian Michael Lloyd, gan ymgynghori â'r Casgliad Brenhinol, mae Croes Cymru wedi'i llunio o fwliwn arian wedi'i ailgylchu, a roddwyd gan y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant, a phaladr o bren o goeden a syrthiodd yng Nghymru a stand wedi’i llunio o lechen o Gymru. Rhoddwyd geiriau o bregeth olaf Dewi Sant ar gefn y Groes yn Gymraeg: “Byddwch lawen. Cadwch y ffydd. Gwnewch y Pethau Bychain.”
I gael rhagor o wybodaeth am amseroedd gwylio a rhaglen lawn digwyddiadau Bangor 1500, ewch i wefan y Gadeirlan.