Mae Cynnal yn cefnogi clerigwyr mewn argyfwng
Gall clerigion ac arweinwyr Cristnogol eraill sy'n dioddef o gaethiwed a salwch meddwl geisio cwnsela arbenigol am ddim gan CYNNAL, gwasanaeth i Gymru gyfan ar gyfer pob enwad, gyda chefnogaeth yr Eglwys yng Nghymru. I rai, mae'n fater o fywyd a marwolaeth, meddai'r Parchg Ifan Rhisiart Roberts, cadeirydd bwrdd ymgynghorol Cynnal.
Sefydlwyd Cynnal yn Ebrill 2015 o dan arolygaeth CAIS sydd bellach yn rhan o’r elusen Adferiad Recovery, a hynny fel gwasanaeth cwnsela cyfrinachol i glerigion, gweinidogion, gweithwyr Cristnogol a’u teuluoedd, gwasanaeth rhad ac am ddim. Mae Cynnal yn cynnig help i’r rhai sy’n dioddef o bob math o ddibyniaeth ac afiechyd meddwl. Wrth sefydlu Cynnal pwysleisiwyd tri pheth:
- Bod y gwasanaeth yn wasanaeth Cristnogol
- Bod y gwasanaeth yn wasanaeth cenedlaethol
- Bod y gwasanaeth ar gael yn Gymraeg a Saesneg
Mae Cynnal yn cael ei reoli gan Panel Ymgynghorol a’r gwaith yn cael yn cael ei arwain gan Mr Wynford Ellis Owen sy’n gynghorydd cwnsela arbenigol. Cyflwynodd Wynford adroddiad manwl i gyfarfod diwethaf y Panel ar Fehefin 7, 2022 ac isod ceir crynodeb o’r adroddiad.
Bellach mae 175 o gleientiaid wedi’u cofrestru gyda Cynnal ac mae 77 ohonynt yn derbyn cymorth ar hyn o bryd, gyda’r gweddill yn derbyn cymorth therapi grŵp parhaus neu wedi cwblhau. Rhwng Rhagfyr 2021 a Mehefin 2022 ceisiwyd cymorth gan 21 o gleientiaid newydd.
Cynigir gwasanaeth cwnsela wyneb yn wyneb, un wrth un, a thros y ddwy flynedd diwethaf mae hynny wedi digwydd ar-lein. O ganol Mehefin ymlaen bydd y sesiynau hyn fwyfwy yn rhai wyneb yn wyneb. Yn ogystal â hyn, cynhelir grwpiau therapi. Cynhelir cyfarfod cyfrwng Saesneg wythnosol ar gyfer Caerfyrddin a Gorllewin Cymru. O Fehefin 17eg ymlaen cynhelir sesiynau grŵp wyneb yn wyneb yn ein canolfan newydd yn Woods Row, Caerfyrddin – a fydd rhain yn gyfarfodydd hybrid. Mae cyfarfod Cymraeg Aberystwyth, Ceredigion ar Zoom bob pythefnos ac hefyd cyfarfod Cymraeg ar gyfer Cymru gyfan gyda chyfranogwyr o ogledd Cymru a rhanbarthau eraill. Mae tua 40 yn mynychu’r cyfarfodydd hyn yn rheolaidd.
Cynhaliwyd encil preswyl Cynnal yng Ngholeg Trefeca am benwythnos ym mis Chwefror 2022 a chynhelir encil arall yno Medi 9-11, 2022. Derbyniwyd adborth cadarnhaol er enghraifft:
- “Wedi disgwyl am ddyddiau ac wythnosau am yr encil yma, a wnaeth o ddim siomi. Yr hyn hoffais fwyaf oedd yr anogaeth i agor allan a bod yn ddewr – a’r gefnogaeth ar ôl gwneud hynny.”
- “Roedd yr encil yn wych. Roedd pawb yn anhygoel o onest trwy’r cyfan. Dywedodd pawb ei stori heb gadw dim yn ôl, ac roedd sawl stori yn anhygoel o drist.”
- “Daeth llawer o bethau i’r golwg wrth i mi ddweud pethau nad oeddwn erioed wedi dweud wrth neb o’r blaen. Yna, cyflwynwyd y cyfan i Dduw…”
Rhoddwyd deunydd ar y Wefan ar gyfer Sul Adferiad a bydd y Sul eleni ar Hydref 30. Hefyd gweddïau ar gyfer y Nadolig a’r Pasg a gweddi dros y rhai sy’n gweinidogaethu yn yr Wcráin’.
Mae Wynford hefyd wedi ceisio codi ymwybyddiaeth o'r daith ysbrydol i gyflawnder drwy bostio 100 o wersi ar Facebook. Mae nifer y bobl wedi ceisio cymorth o ganlyniad.
Mae holiadur yn cael ei baratoi i’w lenwi gan bob un o’r cleientiaid a thrwy hynny cynhelir asesiad manwl a phroffesiynol o’r gwaith cwnsela. Dyma rai ymatebion i’r holiadur.
- “Heb Cynnal rwy’n sicr na fyddwn wedi gallu cario mlaen fel gweinidog wedi i mi ddechrau dioddef gyda ‘stress’ yn ddiweddar. Alla i ddim diolch digon iddyn nhw.”
- “Rydw i mor ddiolchgar fy mod i’n gwella. Heb eich help chi a help Duw fyddwn i ddim yn fyw heddiw, ond rydw i yn fyw, ac mae pethau’n symud i’r cyfeiriad iawn. Diolch o galon!”
- “Rydw i wedi bod yn mynd i rehab ac wedi cael fy anfon i’r ysbyty wn i ddim faint o weithiau. Ond y grwpiau yma sydd wedi fy helpu fi go iawn. Nid yn unig rydw i wedi cael blas ar fyw eto ond mae fy mhlant wedi elwa cymaint o gael eu mam yn ôl. Rydw i mor ddiolchgar. Diolch”
- “Mae’r therapi gefais i wedi fy achub i. Diolch.”
I ddiweddu, mae’n amlwg fod galw mawr am wasanaeth Cynnal a thrist yw gorfod adrodd fod cymaint o weinidogion, gweithwyr Cristnogol a’u teuluoedd yn ceisio cymorth. Mae’r cymorth hwn yn allweddol ac yn llythrennol yn fater o fywyd a marwolaeth i rai. Rydym yn apelio felly ar i’r pedwar enwad yng Nghymru feddiannu’r gwasanaeth hwn a chyfrannu yr hyn sydd ei angen i’w gynnal. Trychineb fyddai i’r gwasanaeth hwn ddod i ben oherwydd diffyg cefnogaeth ariannol.