Beunydd gyda Duw – cyhoeddi llawlyfr gweddi newydd
Mae llyfr newydd a gyhoeddir yr wythnos hon yn gasgliad o weddïau syml sy’n annwyl gan bobl i’w helpu drwy bob dydd.
O weddïau bore i weddïau nos, mae Beunydd gyda Duw yn llawlyfr gweddi rhwydd ei ddefnyddio, a luniwyd gan yr Eglwys yng Nghymru, i helpu ac annog pobl yn eu bywydau gweddi. Caiff ei gyhoeddi ar 1 Mawrth, Dydd Gŵyl Dewi a chaiff ei lansio yn y Brecwast Gweddi Cenedlaethol yn Senedd Cymru ar 7 Mawrth.
Mae’r llawlyfr yn cynnwys fersiynau syml o Weddïau Bore, Hwyrol Weddïau a Gweddïau Nos, yn ogystal â nifer o weddïau clasurol, sy’n annwyl iawn yn y traddodiad Anglicanaidd, a llawer o drysorau o draddodiad ysbrydol Cymru. Caiff ‘naws Gymreig’ y llyfr ei hybu gan y ffotograffau hyfryd sy’n adlewyrchu amrywiaeth ein tirlun cenedlaethol. Cafodd ei lunio gan y Comisiwn Ymgynghorol Sefydlog Litwrgïol.
Yn ei gyflwyniad i Beunydd gyda Duw mae Esgob Llanelwy, Gregory Cameron, sy’n cadeirio’r Comisiwn, yn disgrifio’r gweddïau fel bod wedi cael eu “treulio yn siapiau llyfn a defnyddiol drwy gael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall”.
Dywedodd, “Cafodd Beunydd gyda Duw ei gynllunio i roi cyfle i chi lunio patrwm gweddi sy’n gweddu i chi. Mae’n cynnwys rhai o weddïau gorau ac anwylaf Cristnogion drwy’r oesoedd. Mae’n rhoi craidd o weddïau i’w defnyddio’n feunyddiol wrth i chi agosáu at orsedd gras Duw, ynghyd â gweddïau ar gyfer achlysuron a chyfleoedd arbennig.”
Cyhoeddwyd Beunydd gyda Duw gan Y Lolfa ac mae’n costio £12.99.