Gwasanaeth gwirio DBS yn mynd yn hollol ddigidol
Bydd pobl sy’n gwneud cais i weithio yn yr Eglwys yng Nghymru, naill ai fel gweithwyr cyflogedig neu fel gwirfoddolwyr, yn cael budd o wasanaeth cyflymach a mwy effeithol wrth i’n system wirio Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ddod yn hollol ddigidol.
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn dod â cheisiadau papur am wiriadau DBS i ben dros gyfnod yn dilyn llwyddiant ei system digidol ar-lein. Mae ceisiadau digidol wedi profi’n llawer cyflymach ac yn fwy cyfleus, ar gyfer y rhai sy’n gwneud cais am wiriadau a hefyd ar gyfer y rhai sy’n eu prosesu, yn neilltuol yn ystod y pandemig COVID. Bydd y symud i system llwyr ar-lein yn sicrhau fod y broses yn hollol barod ar gyfer y dyfodol.
Y diwrnod olaf ar gyfer derbyn ceisiadau papur i’w prosesu yw 30 Tachwedd. Fel rhan o’r system newydd, bydd ein llinell gymorth DBS yn parhau i fod ar gael ar gyfer y rhai sydd angen cyngor am ba lefel o DBS maent ei angen.
Mae’r holl wybodaeth, yn cynnwys y ffurflen gais a chyfeiriad llinell gymorth, ar gael ar wefan yr Eglwys yng Nghymru yma:
https://www.churchinwales.org.uk/en/clergy-and-members/disclosure-and-barring-service-dbs/