Dyddiad Tyngedfennol i Natur a’r Hinsawdd
Y mae Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andy John, yn galw ar i Gristnogion weddïo wrth i’r Bil Hinsawdd a Natur ddod gerbron Senedd San Steffan ddydd Gwener. Mae’r bil, sydd â’r nod o fynd i’r afael ag argyfyngau deuol newid hinsawdd a cholli byd natur, yn cyrraedd cyfnod tyngedfennol gydag ail ddarlleniad ar 24 Ionawr.
“Fel Cristnogion sydd am amddiffyn creadigaeth Duw, gweddïwn y bydd yr ASau yn rhoi ystyriaeth ofalus iawn i’r mesur hwn,” meddai. “Mae Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru wedi datgan Argyfwng Hinsawdd ac wedi ymrwymo i geisio cyrraedd Sero Net erbyn 2030. Ni ellir cyflawni hyn heb benderfyniadau anodd, a thra ein bod yn deall y bydd llawer am roi eu cefnogaeth i’r ASau sy’n cefnogi’r ddeddfwriaeth, rydym yn cydnabod bod aelodau eraill o’n cymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn teimlo pryderon dwfn am effaith y mesurau arfaethedig. Serch hynny, o ystyried difrifoldeb yr her hinsawdd sy’n ein hwynebu, rydym yn cynnal yn ein gweddïau bawb sy’n gwneud y penderfyniad pwysig hwn, fel y byddant yn canfod y ffordd orau ymlaen ar gyfer ein planed, ein pobl, a’n holl gymunedau.”