Mae Cymuned Ddysgu'r Esgobaethol yn adrodd stori obeithiol
Ymhlith y straeon ysbrydoledig gan eglwysi ledled Cymru, cafwyd hanes llinell gymorth ar gyfer ffermwyr pryderus ac agor cyrchfannau i fyfyrwyr mewn dinasoedd yng nghyfarfod cyntaf Cymuned Ddysgu'r Esgobaeth.
Mewn digwyddiad 24 awr, daeth esgobion, arweinwyr eglwysig, swyddogion o bob esgobaeth a chynghorwyr taleithiol ynghyd – 56 o bobl i gyd - i fforwm er mwyn rhannu eu profiadau a dysgu a chael eu hysbrydoli gan ei gilydd.
Roedd y rhaglen, sef Adrodd Stori Obeithiol, yn cynnwys pum sesiwn gyda chyflwyniadau ar wahanol agweddau ar weinidogaeth lle mae yna waith arloesol neu greadigol yn cael ei wneud. Neilltuwyd amser hefyd i addoli a gweddïo ac i sgwrsio dros bryd o fwyd.
Wrth gyflwyno'r diwrnod dywedodd Archesgob Cymru, Andrew John, fod yna weinidogaeth dda ar waith ymhob cwr o Gymru a bod y fforwm yn gyfle i "rannu, profi a rhaeadru" rhai o'r syniadau a'r profiadau cyfoethog a gafwyd wrth i strwythur yr Eglwys newid.
"Dyma gyfle i glywed y gwahanol straeon sy'n bywiogi'r Eglwys," meddai. "Rydym wedi dechrau newid ein strwythurau cenedlaethol ac esgobaethol, ac rydym eisoes ar y trywydd iawn. Gwelsom fod Ardaloedd Gweinidogaeth a Chenhadaeth wedi dod â chyfleoedd newydd a'r her nawr yw meddiannu’r gofod newydd hwn a gwneud gyda'n gilydd yr hyn na allem ei wneud ar wahân. Mae gweinidogaeth yn llawer gwell o’i chyflawni gyda'n gilydd."
Anogodd yr Archesgob y cyfranogwyr i ymddiddori yn y deunydd oherwydd byddai’n ddefnyddiol yn ystod y pump i saith blynedd nesaf.
Roedd y pum sesiwn yn canolbwyntio ar: Rôl yr Esgobion; Cadeirlannau; Gweinidogaeth Wledig; Gweinidogaeth Drefol; Plannu Eglwysi ac Arloesi. Dilynwyd pob sesiwn gan drafodaethau grŵp ar y themâu a godwyd.
Rôl yr Esgobion
Arweiniodd yr uwch-esgob, Gregory Cameron, a'r esgob diweddaraf, Mary Stallard, y sesiwn gyntaf gan fyfyrio ar rôl Mainc yr Esgobion fel cymuned ddysgu sy'n canolbwyntio ar genhadaeth.
Yn ôl yr Esgob Gregory, roedd y Fainc yn "un o greaduriaid lled-fytholegol yr Eglwys" a'u nod oedd tynnu cwr y llen.
Tasg yr esgobion ar y cyd oedd modelu blaenoriaeth yr Eglwys, sef meithrin diwylliant o sgyrsiau gonest, agored a diamddiffyn.
Mewn sgwrs, disgrifiodd yr Esgob Mary ei phrofiadau o fod ar y Fainc. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Diwylliant o faddeuant – mae angen i'r Eglwys fod yn lle diogel lle gall pobl adrodd eu stori, lle mae modd siarad am yr hyn sy'n mynd yn wael, beth sydd wedi torri.
- Cael sail gadarn mewn gweddi – ac roedd hynny'n golygu rhoi sylw i'ch lles eich hun er mwyn gallu gwrando a bod yn real
- Gwaith tîm - ymrwymo i'r un nodau ac annog ei gilydd. Roedd arweinyddiaeth, meddai, yn waith unig a bregus, gyda phwysau yn y syniad y gallai'r esgobion 'achub yr Eglwys'. Gellid goresgyn hynny trwy gyfleu cymuned, meddai.
Dywedodd yr Esgob Gregory fod y Fainc wedi canolbwyntio mwy ar genhadaeth. Roedd y newid o dri diwrnod busnes i un diwrnod busnes a dau gyfarfod diwrnod preswyl wedi galluogi mwy o amser ar gyfer gweddïo a dysgu.
Wrth edrych ar sut y gallai'r esgobion fod yn ffigurau o undod ar adeg o newid, dywedodd yr Esgob Gregory fod gwir ymdeimlad o esgobion yn gorfod bod yn warcheidwaid y gorffennol gan hefyd ateb cwestiynau a oedd yn newydd i gymdeithas.
Roedd yn cyfaddef fod hyn yn anodd. "Ond rwyf bob amser yn cael fy nghalonogi gan y symbol o ffon yr esgob – mae dolen ffon y bugail yn dal pobl yn ôl a blaen y ffon yn eu hannog ymlaen." Roedd yna awydd a gwrthwynebiad i newid. Roedd pethau ar eu gorau pan fyddai pobl yn gwrando’n fwriadus ar ei gilydd. Wedyn roedd modd i’r praidd cyfan symud ymlaen gyda'i gilydd fel corff Crist.
Cadeirlannau
Cyflwynwyd cenhadaeth a gweinidogaeth neilltuol y cadeirlannau gan Ddeon Casnewydd, Ian Black, ac Is-Ddeon Bangor, Siôn Rhys Evans.
Cadeirlannau oedd "bwrdd y gegin ar gyfer yr esgobaeth" lle’r oedd lle i bawb ddod â’i gadair a gwybod ei fod yn perthyn.
Buont yn ystyried chwe maes o fywyd y Gadeirlan:
Cerddoriaeth, litwrgi a phregethu
Dywedwyd bod pobl yn gwybod, os ydyn nhw’n mynd i eglwys gadeiriol, y bydd pregethu a litwrgi da, sydd wedi'i baratoi'n dda. Cadeirlannau oedd y prif fannau ymgynnull ar gyfer gwasanaethau mawr – i'r esgobaeth, y gymuned ddinesig a'r genedl. Roedden nhw’n darparu litwrgi i gynnal yr achlysuron yn fframwaith yr efengyl. "Mae'r ffaith ein bod wedi gallu ymateb i'r digwyddiadau Brenhinol diweddar mor gyflym yn tystio ein bod yn gweithio ar raddfa o’r fath," medden nhw.
Roedd cerddoriaeth gorawl yn darparu gweithgaredd ieuenctid sylweddol a oedd yn newid bywydau. Roedd yn "ffenestr ar Dduw ac yn cymell pobl drwy'r drws ac yn cyffwrdd â phorth y nefoedd".
Lletygarwch
Roedd cadeirlannau yn ganolfannau diwylliannol mawr ac roedd rhaid iddyn nhw fod yn lle cyfeillgar i "groesawu fel y mae Crist yn croesawu". "Rydyn ni'n fwy na phalasau ar gyfer digwyddiadau," medden nhw, ac roedd angen "meddylfryd estynedig" ar gyfer y gymuned graidd.
Ymgynnull cynulleidfaoedd a gweithredu cymdeithasol
Roedd cadeirlannau yn croesawu ymwelwyr a phobl a oedd yn chwilio am help ac roedd hyn yn anodd gydag adnoddau cyfyng. Roedden nhw'n cefnogi prosiectau cymdeithasol, fel banciau bwyd a digartrefedd. "Mae gweithredu cymdeithasol yn mynd â’r gadeirlan y tu hwnt i'r demtasiwn o fod yn gysegrfa a theml ac yn adeilad i gymuned fechan, a’i newid i fod yn ganolfan genhadol."
Cymreictod
Roedd cadeirlannau yn helpu i greu Anglicaniaeth hynod Gymreig, gyda mwy o ddefnydd o'r Gymraeg a dathlu treftadaeth Cymru. "Wrth i fywyd dinesig Cymru ddod yn fwy hyderus yn genedlaethol, gallwn, a dylem, fod yn fwy radical, yn fwy aflonyddgar, yn y gwaith hwnnw o greu Eglwys Gymreig."
Cydweithrediad cydweithwyr a llywodraethu
Roedd cadeirlannau'n fannau lle'r oedd timau cymysg o glerigion a lleygion, staff cyflogedig a gwirfoddolwyr, yn cydweithio'n agos bob dydd. Roedd yn rhaid i Ddeoniaid lunio a rhannu gweledigaeth a'i dal ochr yn ochr â goruchwylio'r gweithredol.
Mynegiadau o haelioni Duw
Roedd cadeirlannau, ar eu gorau, yn llwyfannau ar gyfer Anglicaniaeth doreithiog, hael. Arweiniodd parodrwydd i godi a gwario arian, parodrwydd i ymrwymo gwaddolion a chronfeydd wrth gefn, at weinidogaeth lle gallai pobl weld adlewyrchiad o galon hael a helaeth Duw.
Gŵyl Eglwysi Ynghyd
Trwy ddau gyflwyniad, cafwyd cipolwg ar weinidogaeth wledig.
Gŵyl Datgloi Eglwysi
Disgrifiodd y Parchedig Sally Ingle-Gillis lwyddiant Gŵyl Datgloi Eglwysi yn Llangybi, pentref o lai na 500 o bobl yng nghefn gwlad Sir Fynwy. Dechreuodd fel cyfarfod agored i'r pentref, lle cafodd pobl eu hannog i ystyried yr eglwys fel rhywbeth sy’n perthyn iddyn nhw a’u cymell i roi eu syniadau eu hunain ar waith. "Roedden nhw'n teimlo'n rhydd ac yn alluog," meddai Sally. "Roedd yr holl beth yn rhodd gan yr eglwys i'r gymuned. Roedd yn wers wirioneddol mewn ymddiriedaeth a gobaith."
Daeth dros 400 o bobl i'r ŵyl, a oedd yn cynnwys gweddi ddyddiol, sgyrsiau, cerddoriaeth, teithiau cerdded, lluniaeth a gweithgareddau i’r plant. Cafwyd parti wedyn i ddiolch i bawb "a oedd wedi meiddio camu allan mewn ffydd". Roedd y gynulleidfa bellach yn wahanol - roedd ganddi obaith a dau aelod newydd, cynnydd o 20%.
"Mae cymaint o ddoniau a sgiliau yn perthyn i’r lleygion yn ein heglwysi, dim ond i ni eu defnyddio!" meddai Sally. "Mae bod yn gadarnhaol a dweud ‘ie’ yn annog pawb i fod yn rhan o gymuned yr eglwys, ar ba gam bynnag o’u taith ysbrydol y maen nhw, wedyn gall pethau mawr ddigwydd. Mae gan gymunedau gwledig allu arbennig i fod yn hyblyg, yn amrywiol ac yn greadigol, ac mae’r sgiliau hyn yn ddefnyddiol i alluogi’r eglwys leol i ffynnu, dim ond i ni sicrhau bod pawb yn sylweddoli bod yr eglwys ar gyfer pawb. Wrth gyd-dynnu, byddwn yn cyffwrdd â gwaith yr Ysbryd Glân. Dweud ‘ie’, annog haelioni, mesur llwyddiant, a dathlu!"
Tir Dewi
Bu Archddiacon Aberteifi, Eileen Davies, yn siarad am Dir Dewi, sef llinell gymorth y bu hi'n rhan o'i sefydlu wyth mlynedd yn ôl, ar gyfer ffermwyr sy'n cael trafferth gydag unrhyw feichiau, pryderon a phroblemau, gan gynnwys problemau iechyd meddwl.
Gan fod Eileen ei hun yn ffermio, roedd yn gwybod am yr heriau sy'n wynebu'r diwydiant amaethyddol, gan gynnwys unigrwydd, straen, oriau hir ac anghymdeithasol. Dyma’r diwydiant â’r nifer uchaf o hunanladdiadau, meddai.
Dechreuodd Tir Dewi yn Esgobaeth Tyddewi yn 2015 ac mae bellach ar waith ledled Cymru. Mae 83 o wirfoddolwyr hyfforddedig ac wyth o weithwyr cyflogedig yn gwrando ar ffermwyr ac yn helpu i’w cyfeirio at gymorth pwrpasol. Mae gwirfoddolwyr eraill yn hyrwyddo gwaith Tir Dewi mewn marchnadoedd da byw a sioeau amaethyddol. Mae'r llinell gymorth ar agor rhwng 7am a 10pm bob dydd, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Hyd yn hyn, mae dros 2,000 o ffermwyr wedi cael cymorth.
"Er mwyn deall beth mae ffermwyr yn ei ddioddef mewn gwirionedd, rhaid datod llawer o glymau," meddai Eileen. "Mae codi'r ffôn a gofyn am help yn gam dewr iawn iddyn nhw."
Mae Tir Dewi hefyd yn gweithio gyda'r ffermwyr ifanc yn y CFfI i annog y genhedlaeth nesaf i fod yn fwy agored a pharod i siarad. "Mae angen denu pobl i siarad, oherwydd rhaid gwrando ar oslef llais er mwyn deall sut maen nhw'n teimlo go iawn," meddai Eileen.
Wrth wraidd y cyfan roedd yr awydd i rannu cariad a gofal Crist tuag at bawb, meddai. "Hwn yw’r Crist sy’n gweithio ynom ac yn ein plith - allan yn y caeau. Dyna'r hyn rydym yn freintiedig o allu ei wneud. Yr anrhydedd a'r wobr fwyaf oll yw clywed ffermwr yn dweud, 'Diolch, rwy'n dal yn fyw'."
Gweinyddiaeth Drefol
Amlinellwyd heriau a chyfleoedd gweinidogaeth drefol mewn dau gyflwyniad.
Y Bwrdd
Mae’r £2 Food Club yn Eglwys Sant Pedr, Treffynnon yn Esgobaeth Llanelwy wedi ei drawsnewid a’i lansio bellach fel The Table sy’n cynnwys Cymundeb o Fara’r Bywyd.
"Fe fuon ni'n gwylio pobl yn dod o gefn yr eglwys i'r blaen, o fod y tu allan yn cael sigarét i ddod i mewn i wneud ymrwymiad i edifarhau a dod at Iesu," meddai'r Parchedig Dominic Cawdell OGS. "Fe newidiodd yr holl beth drwy rannu'r Cymun - roedd y symbolau yn siarad â phobl, yn enwedig torri'r bara."
Mae'r gwasanaeth yn dechrau am 11.30am gyda chinio am ddim i ddilyn. Mae pantri ar gael hefyd, gyda chyflenwad o fwyd a hanfodion eraill, ac mae cymorth bugeiliol ar gael i'r rhai sydd ei angen.
Mae'r gynulleidfa wedi tyfu i fod yn 150 o bobl, y mwyafrif heb gysylltiad blaenorol â'r eglwys. Mae yna hyder o'r newydd yn yr efengyl drwy'r eglwysi yn Nhreffynnon a chafwyd hanesion anhygoel o ffydd. Darparodd yr esgobaeth weithiwr ieuenctid a phlant i helpu ac maen nhw newydd benodi Offeiriad Arloesi.
Y ddau gam nesaf yw plannu eglwys newydd ar Ystad Holway yn Nhreffynnon ac adfer Eglwys Sant Iago yn Nhreffynnon i greu'r ganolfan Llesiant. Mae'r ddau brosiect eisoes ar y gweill.
"Daw hyn i gyd o'n gweledigaeth mai Iesu yw'r peth gorau sydd gennym i'w roi i bobl nid bwyd," meddai Dominic.
Eglwys Sant Thomas, Abertawe
Pan benodwyd y Parchedig Steven Bunting i'w blwyf yn Abertawe roedd ganddo dair eglwys dan ei ofal gyda nifer fechan o bobl yn eu mynychu. "Roedd lleoliad yr eglwysi yn anhygyrch ac unig ar yr ochr ddwyreiniol. Doedd dim toiledau na lle i baratoi lluniaeth yn Eglwys Sant Thomas, a'r unig arwydd o fywyd yno oedd grŵp meithrin - ac roedden ni’n codi rhent arnyn nhw!" meddai.
Roedd angen gweithredu ar frys. Dechreuodd Steve fynd i'r grŵp meithrin a rhoi'r gorau i godi rhent. Cychwynnodd grŵp ieuenctid a dechreuodd gynnal gwasanaeth boreol yn yr ysgolion bob wythnos. Bu'n rhaid i'r Plwyf wynebu colli un o adeiladau'r eglwys a rhaid oedd canolbwyntio ar Eglwys Sant Thomas ar ochr ddwyreiniol Abertawe yn lle hynny. "Profiad dirdynnol oedd bod yn bresennol ar adeg cau un o'r eglwysi ond o'r farwolaeth honno, daeth atgyfodiad yn y weinidogaeth ledled y plwyf," meddai.
Cododd Steven £1.4 miliwn i ailddatblygu St Thomas a thrawsnewid yr achos i fod yn ganolfan gymunedol lewyrchus. Yn ogystal â'r defosiynau addoli, mae grwpiau ieuenctid a phlant bach yn cwrdd yno, mae yma fanc bwyd sy'n bwydo 200 o bobl yr wythnos, a Baby Basics sef prosiect dan arweiniad gwirfoddolwyr i gefnogi mamau a theuluoedd newydd. Mae gan yr eglwys hefyd gaffi nid-er-elw a lleoliad ar gyfer cynadleddau/priodasau, sef The Spire.
"Yn St Thomas, y sefyllfa gyffredinol yw fy mod i'n cyrraedd a gweld bod pobl ar y blaen i ni yn y weinidogaeth, mae pobl yn cael syniadau gwych ac mae angen dysgu ganddyn nhw!" meddai.
Cafodd gwaith Steve yn y gymuned ei gydnabod yn gyhoeddus y llynedd pan gafodd MBE.
Plannu Eglwysi
Sefydlodd dwy esgobaeth eglwysi adnoddau gydag arian o'r Gronfa Efengylu ynghyd ag Ymddiriedolaeth Adfywio'r Eglwys.
Eglwys y Dinesydd, Esgobaeth Llandaf
Roedd creu eglwys lle'r oedd pobl yn teimlo y gallen nhw berthyn yn egwyddor arweiniol pan sefydlwyd Eglwys y Dinesyddddwy flynedd yn ôl, meddai’r ficer, y Parchedig Ryan Forey.
"Rydyn ni'n eglwys lle mae perthyn yn bwysig," meddai. "Rydyn ni eisiau i bobl berthyn cyn iddyn nhw gredu. Mae Duw yn gysylltiedig â chymuned ac undod."
Mae'r eglwys yn estyn allan yn benodol at y boblogaeth fawr o fyfyrwyr yng Nghaerdydd trwy ddarparu hafanau, cyrsiau Alffa, siop goffi, a gwasanaethau gyda bar a pizza i ddilyn. Mae hefyd yn cynnal grwpiau a gweithgareddau ar gyfer pob oedran, gan gynnwys babanod a phlant bach, graddedigion a gweithwyr proffesiynol ifanc. Mae popeth yn cael ei redeg trwy ap, a ddatblygwyd gan fyfyrwyr ac sydd wedi'i lawrlwytho dros 1,000 o weithiau. Mae’r cwrs Alffa wedi bod yn hynod lwyddiannus gyda 700 o bobl yn cymryd rhan hyd yn hyn.
O'r ganolfan yng Nghaerdydd yn Sant Teilo, mae Citizen bellach wedi plannu dwy eglwys arall - un yn Senghennydd ac un yn Eglwys y Santes Fair ym Mhontypridd.
"Rydyn ni eisiau gwneud pethau dyw pobl eraill ddim yn eu gwneud," meddai Ryan. "Rydyn ni'n ceisio bod yn greadigol ac yn arloesol a dod â phobl at Dduw! Rydyn ni'n canolbwyntio ar arwain cenhedlaeth o bobl at Dduw, gan roi gwybod iddyn nhw mai Iesu yw'r ateb i'w problemau."
Gwnaed camgymeriadau ar hyd y daith ac roedd heriau hefyd, meddai Ryan. Oherwydd y twf sydyn a’r gwaith o ailddatblygu ei adeiladau, aeth Citizen i ddyled sylweddol, er gwaethaf cynnydd mawr yn y rhoddion gan y gynulleidfa.
"Gofynnwyd i ni wneud rhywbeth aruthrol ac fe ddigwyddodd rhywbeth cyffrous. Mae'r gost yn fawr, ond mae'n fuddsoddiad gwerth chweil. Mae pobl yno a byddan nhw’n dod os byddwn yn parhau i bregethu'r efengyl a darparu ar eu cyfer. Fel yn stori'r weddw a'r olew yn ail lyfr y Brenhinoedd, pennod 4, cyn belled â bod y llestri’n dal i ddod, bydd yr olew yn parhau i lifo - y llestri i ni eu llenwi yw’r eglwysi, ein timau a’n pobl."
Hope Street, Esgobaeth Llanelwy
Cafodd ei lansio ddwy flynedd a hanner yn ôl, ar ôl ailwampio hen siop Burton’s yng nghanol Wrecsam, a bellach mae Hope Street yn gwasanaethu 300 o oedolion ac 80 o blant a phobl ifanc ac mae’r presenoldeb wythnosol ar gyfartaledd yn 180. Mae disgwyl i roddion ei mynychwyr eleni gyrraedd £138 mil.
Yn ôl y Parchedig Rachel Kitchen, y nod oedd llwyddo i gyrraedd at y 97% o bobl nad ydyn nhw’n yn mynd i'r eglwys, yn enwedig pobl ifanc. Mae ychydig llai na thri chwarter y gynulleidfa o dan 40 oed. Ymhlith y gweithgareddau sydd ar gael mae'r cwrs Alffa, y Cwrs Priodas, lle clyd, ac mae tîm ieuenctid yn mynd â gweinidogaeth i'r coleg ac i ysgolion.
Yr allwedd i'r llwyddiant a gafwyd oedd cymryd camau bwriadol, meddai Rachel. “Os ydych chi am i oedran cyfartalog eich cynulleidfa gynyddu, gwnewch ddim byd. Os ydych chi am gael cynulleidfa iau o ran oedran, ac am edrych tuag allan, rhaid bod yn fwriadol. I gychwyn, ychydig iawn o bobl oedd gennym ni, a sylweddolwyd na fyddem yn goroesi oni bai bod yr Efengyl yn cyrraedd y bobl. Roedd yn rhaid i ni gael blaenoriaeth genhadol o'r dechrau’n deg."
Gwelodd y tîm eu bod yn gweithredu mewn "cyd-destun cyn-Gristnogol" - yn siarad â phobl heb fawr o gyd-destun diwylliannol o gwbl. Felly, ymatebodd y tîm trwy greu "diwylliant o wahoddiad" – gan gynnal digwyddiadau addas lle gellid gwahodd pobl na fydden nhw fel arfer yn mynychu’r eglwys, fel parti coelcerth a bingo.
"Os oedden nhw wedi derbyn y gwahoddiad hwnnw roedden nhw’n fwy tebygol o gytuno i ddod i gwrs Alffa ac i’r eglwys," meddai Rachel. "Rydyn ni'n edrych ar gamau a all ddod â phobl i'r eglwys - o goffi, pêl-droed, hafanau hamdden neu bartïon ysgafn i Alffa ac yna i wasanaethau’r Sul. Rydyn ni'n dod o hyd i ffyrdd o bontio'r bwlch i fynd â phobl ar daith er mwyn iddyn nhw ddod o hyd i Iesu."
Sesiwn Lawn
Wrth gyflwyno’r sesiwn olaf, sef y sesiwn lawn, cafwyd anogaeth gan Esgob Mynwy, Cherry Vann, i roi’r hyn roedden nhw wedi ei glywed ar waith mewn modd ymarferol a chadarnhaol.
"Dyma'r sesiwn bwysicaf oll," meddai. "Dyma ble mae'r gwaith yn dechrau. Am y tro cyntaf, rydyn ni wedi dod at ein gilydd fel cymuned ddysgu fwriadol. Mae'n rhaid i hyn arwain at weithredu, cynlluniau a nodau cadarnhaol. Mae angen i ni afael yn noethineb ac amrywiaeth yr ystafell hon - dyna yw ein tasg ni nawr."
Nododd Esgob Cherry sawl thema o'r cyflwyniadau:
- Hyder yn yr Efengyl rydyn ni'n ei chyhoeddi fel y peth gorau y gallwn ei gynnig.
- Cydnabod bod ein neges yn ymwneud â marwolaeth ac atgyfodiad. "Os ydyn ni'n mynd i symud ymlaen a gweld bywyd newydd, mae'n dra phosibl y bydd yn rhaid gweld rhyw fath o dranc. Rhaid wynebu hynny'n realistig, gyda gobaith."
- Pwysigrwydd gweddïo dros ein gilydd a thros holl fywyd yr eglwys, gan gynnwys gweddïo am eglwysi llewyrchus pan fydd ein heglwys yn ei chael hi'n anodd.
- Gweld adeiladau eglwysig fel gofod ac adnodd i'r gymuned.
- Ymddiried yn ein gilydd a rhoi caniatâd i eraill ysgwyddo dyletswyddau hefyd.
- Pwysigrwydd meithrin perthnasoedd da. Mae hyn yn golygu bod yn onest a diffuant, creu mannau diogel i ddweud y pethau anodd.
- Cydnabod a chadarnhau yn bwrpasol yr hyn sy'n gweithio'n dda, gan ddathlu llwyddiant.
- Yr her o fod yn eglwys amrywiol, sy’n galw gweithwyr o wahanol gyd-destunau economaidd-gymdeithasol a demograffig.
"Rydyn ni wedi dechrau taith lle gallwn ni fod yn fwy bwriadol ac yn fwy effeithiol," meddai'r Esgob Cherry, gan ddiolch i'r cyfranogwyr am eu sgyrsiau buddiol.
Caiff adborth o’r trafodaethau grŵp ei rannu gyda’r sawl sy’n cymryd rhan yng nghyfarfod nesaf Cymuned Ddysgu’r Esgobaeth.