Esgob newydd Llandaff i'w hurddo yn Eglwys Gadeiriol Llandaf
Bydd pobl o eglwysi ar draws y De yn ymgynnull yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ddydd Sadwrn (29 Ebrill) i groesawu eu hesgob newydd. Bydd esgob newydd Llandaf yn cael ei hurddo am 12pm gyda gwasanaeth arbennig o groeso dan arweiniad Archesgob Cymru Andrew John.
Bydd y Gwir Barchedig Mary Stallard yn cael ei hurddo yn 73ain Esgob Llandaf mewn gwasanaeth Ewcharist arbennig. Yr Esgob Mary fydd yn pregethu a Deon Eglwys Gadeiriol Llandaf Richard Peers fydd yn gosod yr esgob newydd yn ei sedd. Bydd clerigwyr ac aelodau’r Eglwys yng Nghymru yn ymgynnull gyda gwleidyddion a phartneriaid eciwmenaidd a rhyng-ffydd i groesawu’r Esgob Mary. Bydd Archesgob Catholig Caerdydd Mark O’Toole hefyd yn bresennol.
Mae’r gwasanaeth yn dechrau ar risiau gorllewinol Eglwys Gadeiriol Llandaf lle bydd yr Esgob Mary yn curo ar Ddrws y Gorllewin dair gwaith gyda’i bagl. Bydd y Deon yn ateb drwy ddweud, “Agorer y pyrth, inni groesawu’n Hesgob”. Bydd wardeiniaid yr Eglwys Gadeiriol yn agor y drysau a bydd y Deon yn croesawu Esgob newydd Llandaf gyda’r geiriau, “Esgob Mary, croeso iti i’th Esgobaeth a’th Eglwys Gadeiriol yn enw ein Harglwydd Iesu Grist.”
Yna bydd yr Esgob Mary, sy’n dal portffolio addysg yr Eglwys yng Nghymru, yn cael ei chroesawu gan aelod ifanc o’r Eglwys Gadeiriol a fydd yn dweud, “Esgob Mary, buom yn edrych ymlaen at dy ddyfodiad – tyrd i’n plith fel un sy’n gwasanaethu.”
Wrth edrych ymlaen at y seremoni sefydlu ddydd Sadwrn, mae’r Esgob Mary’n dweud, “Mae’n anrhydedd imi gael fy ethol yn Esgob Llandaf ac rwy’n edrych ymlaen at wasanaethu Duw a’r esgobaeth. Braint o’r mwyaf yw derbyn yr alwad hon i Landaf ac fe wnaf fy ngorau glas i ateb yr alwad yn ffyddlon.
RHAID INNI FOD YN FEIDDGAR YN EIN CYNLLUNIAU I DYFU’R EGLWYS.
Bydd yr Esgob Mary yn defnyddio’i phregeth i alw ar yr eglwysi i fod yn feiddgar a chreadigol yn y ffordd rydyn ni’n siarad am ffydd, “Dwy ddim yn un sy’n llaesu dwylo o ran yr heriau sy’n wynebu’r eglwys heddiw. Rhaid inni fod yn feiddgar yn ein cynlluniau i dyfu’r eglwys. Mae’n rhaid inni fod yn greadigol yn y ffordd rydyn ni’n rhannu neges efengyl cariad. Ac mae’n rhaid inni wneud hyn i gyd gyda chalon weddigar.
“Mae Llandaf yn esgobaeth hynod amrywiol sydd ag enw da am leisio barn ar faterion sy’n bwysig i bobl y De. P’un ai mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, siarad ar faterion cyfiawnder cymdeithasol neu ymgyrchu yn erbyn newid yn yr hinsawdd, mae’n heglwysi ni’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cymunedau. Rwy’n ymroi i weithio ochr yn ochr â’n hoffeiriaid, ein gwirfoddolwyr, ein tîm staff ac addolwyr o bob oed er mwyn deall y ffordd orau imi wasanaethu’r esgobaeth.
“Bydd y gwasanaeth croeso ddydd Sadwrn yn garreg filltir bwysig yn fy ngalwedigaeth i, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â chlerigwyr, staff a gwirfoddolwyr ar draws ein Hardaloedd Gweinidogaeth.”
Wrth groesawu’r Esgob Mary i’r esgobaeth, mae Deon Eglwys Gadeiriol Llandaf Richard Peers yn dweud, “Mae’n bleser mawr i bob un ohonom yn yr Eglwys Gadeiriol groesawu’n hesgob newydd i’w hesgobaeth a’i chadeirlan. Lle i weddïo yw hwn ac rydym yn ddiolchgar bod gan yr Esgob Mary galon dros weddi, wedi’i ffurfio’n arbennig gan ei pherthynas â Chymuned Taizé.
“Gweddïwn dros yr Esgob Mary, dros ei gŵr Andrew a thros eu merched yn y cyfnod newydd hwn yn eu bywydau ac edrychwn ymlaen at ddod â nhw i’n calonnau yn y weinidogaeth hon.”
- Bydd y gwasanaeth croeso yn cael ei ffrydio’n fyw ar Sianel YouTube yr Eglwys Gadeiriol.