Penodi Cyfarwyddwr Efengyliaeth
Bydd uwch swyddog, sydd wedi ymroi ei gyrfa i helpu eglwysi i dyfu a gwasanaethu eu cymunedau, yn dechrau ar rôl allweddol newydd gyda’r Eglwys yng Nghymru.
Penodwyd Mandy Bayton yn Gyfarwyddwr Efengyliaeth a bydd yn gyfrifol am ddarparu adnoddau i eglwysi ymestyn allan gyda newyddion da yr Efengyl i’r cymunedau a wasanaethant. Bydd hefyd yn cefnogi gwaith Cronfa Twf yr Eglwys, cydlynu gyda phrosiectau’r Gronfa Efengyliaeth a chynorthwyo’r Esgob John Lomas, yr esgob arweiniol dros efengyliaeth. Gan weithio fel rhan o’r Grŵp Cynghorwyr Cenhadaeth a Gweinidogaeth, bydd Mandy yn adrodd i’r Prif Weithredwr, Simon Lloyd.
Mae Mandy yn ymuno â’r tîm yn y Swyddfa Daleithiol gyda mwy na 30 mlynedd o brofiad yn nhwf a gwaith allgymorth yr eglwys. Am y tair blynedd ddiwethaf bu’n gweithio i Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu, yn gyntaf yn datblygu cais yr Esgobaeth i’r Gronfa Efengyliaetn ac wedyn fel Cyfarwyddwr Cenhadaeth ac Efengyliaeth. Cyn hynny bu’n gweithio fel cynghorydd Cymru i’r Cinnamon Network ac fel Cyfarwyddwr Cymru i Hope Together UK.
Wrth gyhoeddi ei phenodiad, dywedodd Simon Lloyd, “Rwy’n falch iawn i groesawu Mandy Bayton i’r tîm fel Cyfarwyddwr Efengyliaeth. Galwyd ar yr Eglwys i rannu newyddion da yr Efengyl a bydd profiad eang Mandy yn helpu’r holl Dalaith i sicrhau cefnogaeth ac adnoddau da wrth i ni fynd ati i wneud hyn.”
Dywedodd Mandy, sy’n byw yng ngogledd Gŵyr, “Rwyf wrth fy modd i gael cynnig swydd Cyfarwyddwr Efengyliaeth oherwydd mae fy nghalon yn codi i’r entrychion pan fydd gennyf ran fach wrth helpu eraill i ddarganfod cariad trawsnewidiol Iesu. Gobeithiaf ddefnyddio fy mhrofiad o weithio dros eglwysi a mudiadau Cristnogol i annog y gwaith allgymorth gwych sydd eisoes yn mynd rhagddo ar draws y dalaith, a hefyd i feithrin ailddychmygu cenhadaeth fel y caiff popeth a wnawn fel Eglwys ei weld drwy lens cenhadaeth.”
Bydd Mandy yn dechrau ar ei swydd newydd ar 1 Hydref.