Yr Eglwys yn penodi Grahame Davies yn Gyfarwyddwr Cenhadaeth a Strategaeth
Mae Dr Grahame Davies wedi ei benodi yn Gyfarwyddwr Cenhadaeth a Strategaeth cyntaf yr Eglwys yng Nghymru.
Yn wreiddiol o Goedpoeth ger Wrecsam, mae Dr Davies, 59 oed, yn gyn-newyddiadurwr. Dechreuodd ei yrfa yn gweithio i bapurau newydd yn ne Cymru ac yna bu’n Olygydd Casglu Newyddion gyda BBC Cymru.
Am 12 mlynedd bu’n gweithio fel Dirprwy Ysgrifennydd Preifat i’r Teulu Brenhinol. Ef oedd yn gyfrifol am oruchwylio’r gerddoriaeth ar gyfer coroni Brenin Siarl III, seremoni Anrhydeddau'r Alban, a bu’n arwain y prosiect i greu Croes Cymru, a oedd yn arwain gorymdaith y Coroni.
Mae'n awdur ar ddeunaw o lyfrau Cymraeg a Saesneg ac mae wedi ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Graddiodd mewn Saesneg ym Mhrifysgol Anglia Ruskin, ac mae ganddo ddoethuriaeth o Brifysgol Caerdydd a doethuriaethau er anrhydedd gan Brifysgolion Anglia Ruskin ac Aberdeen. Mae hefyd yn Athro Ymarfer er anrhydedd ym Mhrifysgol Cymru.
Yn ei rôl newydd, bydd Dr Davies yn arwain y tîm o staff arbenigol sy'n cynghori esgobion yr Eglwys yng Nghymru a bydd hefyd yn gyfrifol am gefnogi ymgysylltiad yr Eglwys ag amrywiol sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt.
Dywedodd Archesgob Cymru, Andrew John, "Rwy'n falch iawn o groesawu Dr Davies fel aelod o staff yr Eglwys yng Nghymru. Bydd ei brofiad yn gaffaeliad i ni wrth i ni ymrwymo i ganolbwyntio ein hegni ar gynllun clir i wasanaethu holl bobl Cymru."
Dywedodd Prif Weithredwr Corff y Cynrychiolwyr, Simon Lloyd, "Mae Corff y Cynrychiolwyr yn bodoli er mwyn darparu adnoddau ac arfogi esgobion, clerigion a phobl yr Eglwys yng Nghymru wrth iddynt geisio creu eglwys fywiog, frwdfrydig a chroesawgar i bawb. Bydd rôl Grahame yn elfen annatod wrth gyflawni’r nod hwn."
Wrth siarad am ei benodiad, meddai Dr Davies, "Rwyf wedi bod yn aelod o'r Eglwys yng Nghymru gydol fy oes ac rwy'n ei chyfrif yn fraint enfawr i allu cyfrannu at waith hanfodol yr Eglwys i helpu pob rhan o gymdeithas Cymru."
Bydd Dr Davies yn dechrau ar ei swydd ar 1 Tachwedd a bydd yn gweithio yn y Swyddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.
Diolch i John Briggs am y llun uchod