Canfod dyfodol bendithio cyplau o'r un rhyw yn yr Eglwys yng Nghymru

Mae'r Eglwys yng Nghymru yn paratoi i ymgysylltu o'r newydd â'i hopsiynau o ran bendithio cyplau o'r un rhyw. Ym mis Hydref 2021, gwnaed darpariaeth ar gyfer bendithion o'r un rhyw, am gyfnod cyyfyngedig, tan fis Medi 2026. Wrth i'r dyddiad hwnnw agosáu, mae Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andrew John, wedi galw am gyfnod o ddirnadaeth, gweddi a deialog agored ymhlith aelodau'r Eglwys wrth i'r Eglwys archwilio llwybrau posibl ymlaen. Mae'r opsiynau'n cynnwys caniatáu i'r ddarpariaeth bresennol ddod i ben, ymestyn y trefniadau presennol, neu gyflwyno gwasanaeth ffurfiol o briodas i gyplau o'r un rhyw.
Dywedodd yr Archesgob Andrew John:
Annwyl gyfeillion,
Hoffwn dynnu eich sylw at fater y mae angen i’r Eglwys yng Nghymru ymgysylltu ag ef drwy ei Chorff Llywodraethol. Roedd y penderfyniad a wnaed ym mis Hydref 2021 i ddarparu gwasanaeth bendith ar gyfer cyplau o’r un rhyw yn ddarpariaeth â therfyn amser. Daw’r ddarpariaeth hon i ben ddiwedd Medi 2026 oni wneir rhyw ddarpariaeth bellach. Am y rheswm hwn, mae angen i ni droi ein calonnau a’n meddyliau tuag at y mater hwn, mewn ysbryd o weddi ac onestrwydd.
Mae Esgobion yr Eglwys yng Nghymru wedi cytuno y dylai’r opsiynau sydd ar gael i ni gael eu trafod eto. Maent yn ceisio dod â ni at ein gilydd mewn sgwrs y gwanwyn hwn. Mae’r manylion ar gyfer y cyfarfodydd hyn bellach wedi’u cytuno ym mhob archddiaconiaeth. Hoffwn bwysleisio mai pwrpas y cyfarfodydd hyn yw gwrando – yn barchus ac yn astud. Credwn fod doethineb yn y dull hwn o ymagwedd, sy’n caniatáu i leisiau gwahanol gael eu mynegi a’u clywed heb ragfarn na beirniadaeth. Nid ydym yn disgwyl i’r lleisiau hyn gael eu herio nac eu derbyn yn ddiamod, ond ein tasg yw gwrando ar ein gilydd a cheisio, hyd eithaf ein gallu, ddoethineb Duw yn ein sgyrsiau.
Efallai y bydd yr opsiynau sydd ar gael i ni’n golygu bod y ddarpariaeth a wnaethom ym mis Hydref 2021 yn dod i ben, heb unrhyw ddarpariaeth bellach. Byddai hyn yn golygu na fyddai litwrgi awdurdodedig nac unrhyw gyfleuster i fendithio parau mewn undebau o’r un rhyw. Fodd bynnag, gallem hefyd ehangu’r ddarpariaeth hon a pharhau â’n harfer presennol. Yn ogystal, mae’n bosibl cynnig gwasanaeth priodas i barau o’r un rhyw, cam a fyddai’n arwyddocaol iawn i’r Eglwys ei wneud.
Fy ngwahoddiad i chi i gyd yw cymryd rhan yn y broses hon. Pa fath bynnag o fyfyrdod y gall y cyfarfodydd hyn ei gynnig, a pha bynnag benderfyniad y gallai’r Corff Llywodraethol ei wneud, ein cyfrifoldeb yw ymgysylltu â’n gilydd, â’r Ysgrythur, ac â’n traddodiad mewn ysbryd o barch. Mynychwch un o’r sesiynau yn eich ardal leol os gwelwch yn dda, a bydded i Dduw roi gras a heddwch inni i glywed ei lais.
+Andrew Cambrensis