Y Pasg yn ein hysbrydoli i fod yn gyfryngau newid, meddai Archesgobion mewn neges ar y cyd
Efallai nad oes unrhyw atebion rhwydd i’r heriau sy’n wynebu’r byd heddiw ond mae’r Pasg yn ein hysbrydoli i fod yn gyfryngau daioni a newid, meddai dau Archesgob Cymru mewn neges Pasg ar y cyd.
Mae Archesgob Anglicanaidd Cymru, Andrew John, ac Archesgob Catholig Caerdydd ac Esgob Mynyw, Mark O’Toole, yn gwahodd pobl i ddod i’r eglwys y Pasg hwn i ganfod sut y gall ffydd drawsnewid ein bywydau a helpu i ganfod llwybr drwy argyfyngau.
Dywedodd y ddau fod atgyfodiad Crist o angau wedi dangos i’r disgyblion cyntaf nad oedd Duw wedi cefnu arnynt, bod “Duw wedi ei ganfod yng nghanol y brwydrau a’r torcalon oedd yn ymddangos yn annychmygadwy o boenus ac anobeithiol ... Dyma Dduw, heb ei gloi i ffwrdd mewn rhyw nefoedd anghysbell, ond un oedd yn agos, yn rhannu eu dyheadau a hefyd eu pryderon am y dyfodol.”
Wrth gyfeirio at yr argyfwng costau byw, y rhyfel yn Wcráin a’r argyfwng hinsawdd, dywedodd yr Archesgobion, “Gallwn weld digwyddiadau yn datblygu o’n hamgylch gydag ymdeimlad o anobaith (‘Beth allaf i ei wneud?’) neu apathi (‘Ni fydd yn gwneud unrhyw wahaniaeth’) a chael ein parlysu gan syrthni. Ond pan wnaethant ddarganfod fod Crist yn fyw, daeth y Cristnogion cyntaf yn gyfryngau daioni a newid yn y byd. Nid yn unig y cawsant eu hysbrydoli, cawsant eu trawsnewid. Mae’r Pasg yn gwahodd yr un cyfarfyddiad hwn; i gwrdd ag Iesu Grist o’r newydd.”
Dyma’r ail neges ar y cyd gan yr Archesgobion ers iddynt ddechrau ar eu swyddi y llynedd. Cafwyd eu neges gyntaf ar y cyd adeg y Nadolig.
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn dalaith annibynnol o’r Cymundeb Anglicanaidd byd-eang. Mae Archesgobaeth Caerdydd yn rhan o’r Eglwys Gatholig.
- Darllenwch neges y Pasg isod neu lawrlwythwch yma
Neges Pasg yr Archesgobion
‘Argyfwng? Pa argyfwng?’
Dyma’r geiriau yr honnir i wleidydd eu dweud pan gafodd ei holi gan newyddiadurwr am gyflwr y wlad. Nid yw fawr o syndod na chawsant fawr o groeso gan genedl oedd yn wynebu heriau sylweddol.
Mewn gwirionedd, mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi gweld argyfwng costau byw ofnadwy, rhyfel chwerw yn Wcráin i ychwanegu at y pryderon parhaus nad ydym yn gwneud digon i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Bydd y rhain yn mynd wrth ochr y llu o heriau personol y gallem fod wedi eu hwynebu – colli anwyliaid efallai, afiechyd cysylltiedig â Covid neu heriau cyflogaeth.
Nid oes unrhyw atebion slic yma, yn sicr dim rhai crefyddol syml.
Ond mae pethau sy’n ein helpu i ymateb yn dda. Mae’r Pasg yn ein gwahodd i feddwl am wythnos olaf bywyd daearol Iesu. Cawn ein hatgoffa y cafodd dyn ei fradychu gan gyfaill, y cefnodd pawb (heblaw ychydig o fenywod ffyddlon) arno, a ddioddefodd ffug dreial ac a gafodd wedyn ei ladd fel dihiryn. Pan feddyliai’r Cristnogion cynnar am y pethau hyn, roedd yn rhaid iddynt ymaflyd gyda’r cwestiwn a ofynnodd Iesu ei hun wrth iddo gael ei hoelio ar y groes: ‘Pam?’
Beth helpodd y disgyblion i ateb y cwestiwn hwnnw oedd y sylweddoliad nad oedd Duw wedi cefnu arnynt, fel nad oedd wedi cefnu ar Iesu. Roedd Duw wedi ei ganfod yng nghanol y brwydrau a’r torcalon oedd yn ymddangos yn annychmygadwy o boenus ac anobeithiol. Yn union oherwydd bod Duw wedi profi marwolaeth yn a thrwy Iesu y gallai’r disgyblion wneud synnwyr o’u profiadau. Dyma Dduw, nad oedd wedi ei gloi i ffwrdd mewn rhyw nefoedd anghysbell, ond un oedd yn agos, yn rhannu eu dyheadau a hefyd eu pryderon ar gyfer y dyfodol. Pan ymddangosodd fel yr Iachawdwr Atgyfodedig, agorodd ffordd nid yn unig o edrych ar y byd mewn ffordd newydd ond o wynebu ei heriau hefyd.
Rhan o’n hymateb yw deall yr hyn y mae’r pethau hyn yn ei olygu i ni. Gallwn edrych ar ddigwyddiadau yn datblygu o’n cwmpas gyda theimlad o anobaith (’Beth allaf i ei wneud?) neu apathi (‘Ni fydd yn gwneud unrhyw wahaniaeth’) a chael ein parlysu gan syrthni. Ond pan wnaethant ddarganfod ei fod Ef yn fyw, daeth y Cristnogion cyntaf yn gyfryngau daioni a newid yn y byd. Nid yn unig y cawsant eu hysbrydoli, cawsant eu trawsnewid. Mae’r Pasg yn gwahodd yr un cyfarfyddiad hwn; i gwrdd â Iesu Grist o’r newydd.
Ysgrifennwn atoch i’ch gwahodd i ddod ac addoli yn ein heglwysi y Pasg hwn. Nid ydym yn cynnig datrysiadau rhwydd i broblemau cymhleth ond gallwn rannu yr Un y bydd ei fywyd atgyfodedig yn gwneud gwahaniaeth i chi a’ch cymunedau.
A gawn ddymuno Pasg hapus a llawen i chi yn enw Crist.