Neges y Pasg, Archesgob Cymru
Gyda rhyfeloedd yn mynd rhagddynt a phandemig Covid yn parhau, mae ymdeimlad o ofn, dolur, anrhefn a cholled yn y byd heddiw, meddai Archesgob Cymru yn ei neges Pasg.
Ond mae atgyfodiad Crist, a ddathlwn adeg y Pasg, yn cynnig gobaith cadarn i ni fod Duw gyda ni yn yr holl ddigalondid a’r dioddefaint.
Bydd yr Archesgob, Andrew John, yn pregethu yng Nghadeirlan Deiniol Sant, Bangor, ar Sul y Pasg. Bydd y gwasanaeth Cymraeg yn cychwyn am 9.15am a’r gwasanaeth Saesneg am 11am. Mae croeso i bawb.
Neges y Pasg Archesgob Andrew John
Does ond raid i ni edrych ar ein teledu, gwrando ar ein radio, yn wir ddilyn unrhyw un o'r cyfryngau i weld y dioddefaint gwirioneddol sydd yn y byd; Afghanistan, Myanmar, Yemen, a'r Wcráin yw dim ond rhai o'r mannau sydd wedi'u hanrheithio gan ryfel. Mae'n amhosibl edrych ar y byd ar hyn o bryd heb deimlo arswyd, dolur, llanast a cholled. Eto eleni, mae Covid wedi chwarae rhan enfawr yn y teimladau hyn, gartref ac ar draws y byd, rydyn ni'n dal yn tueddu i ofyn a ddaw pethau byth yn ôl fel ag yr oedden nhw cyn y pandemig.
Nid yw'r teimladau hyn yn ddieithr nac yn estron i ni ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Yn ystod yr Wythnos Fawr bob blwyddyn, byddwn yn darllen am y digwyddiadau oedd wedi arwain at y Groglith, pan hoeliwd Iesu wrth y groes, bu farw ac fe'i claddwyd. Dychmygwch yr arswyd, y dolur, y llansast, y golled roedd yn rhaid fod y dilynwyr cyntaf wedi'i deimlo. Roedden nhw wedi dilyn y dyn hwn, wedi gweld ei wyrthiau, clywed ei ddysgydeithiau, hyd yn oed yn ei garu, ddim ond iddo gael ei gymryd i ffwrdd, ei guro a'i ladd. Sôn am siom.
Ond; nid dyma ddiwedd y stori. Rydym yn darllen yn Efengyl Luc, y diwrnod cyntaf yr wythnos honno, fod Mair Magdalen, Joana, Mair mam Iago a rhai merched eraill wedi mynd i eneinio corff Iesu yn y bedd, a chanfod fod y garreg wedi'i symud ac nad oedd corff i'w weld. Mae dau angel yn eu cyfarch ac yn dweud wrthyn nhw "Pam ydych chi'n ceisio ymhlith y meirw yr hwn sydd fyw? Rydyn ni'n darllen eu bod yn ymateb i'r neges ac yn cofio geiriau Iesu ynghylch ei farwolaeth a'i atgyfodiad, felly maen nhw mynd i ddweud wrth yr apostolion eraill.
"Pam ydych chi'n ceisio ymhlith y meirw yr hwn sydd fyw? Nid yw ef yma, y mae wedi'i gyfodi"; mae'n hawdd i ni, ar adegau fel hyn, anghofio. Anghofio er gwaethaf yr arswyd, er gwaethaf y dolur, er gwaethaf y llanast, er gwaethaf y golled, mai'r hyn sydd gennym yn atgyfodiad Iesu yw sail sicr a chadarn o obaith. Fe ddylen ni hefyd, fel y gwragedd hynny aeth at y bedd ar y Sul y Pasg cyntaf hwnnw, gofio ei fod wedi atgyfodi, na fyddwn ni'n canfod Iesu ymhlith y meirw ond ymhlith y byw.
Trwy'r gobaith newydd hyn mae ein byd yn cael ei droi yn gyfangwbl ac yn hollol â'i ben lawr, mae'n rhoi i ni olwg a safbwynt ar fywyd. Nid yw'n anwybyddu'r dolur, y boen, y golled; mae'n eu taclo yn eu cyfanrwydd gan wybod fod yna ffordd trwodd gyda Duw, waeth pa mor llwm, mor oer, mor dywyll y gall pethau fod.
"Pam ydych chi'n ceisio ymhlith y meirw'r hwn sydd fyw? Nid yw ef yma, y mae wedi'i gyfodi".
Aleliwia! Atgyfododd Crist. Atgyfododd yn wir. Aleliwia!
Bydded i chi Basg bendithiol a hapus.