Neges y Pasg: Archesgob Cymru

Y Pasg hwn, mae Archesgob Cymru, Andrew John, yn myfyrio ar fedd yng nghefn gwlad Cymru sy'n nodi bywyd dyn o 1500 o flynyddoedd yn ôl. Er nad oes llawer yn hysbys amdano, cofir ei ffydd.
Mae'r Archesgob Andrew yn defnyddio'r ddelwedd hon i archwilio ystyr dyfnach stori'r Pasg, un sy'n dechrau gyda bedd gwag ac yn cynnig gobaith, pwrpas a bywyd newydd.
Mae’n gwahodd pawb i ddarganfod y cariad Duw sydd wedi’i wireddu yn Iesu ac i ymuno mewn addoliad dros benwythnos y Pasg.
Neges y Pasg
Yn un o ardaloedd mwyaf anghysbell Cymru saif carreg bron yn guddiedig o’r golwg oddi ar drac bychan, sy’n dwyn i gof ddyn a oedd yn byw 1,500 o flynyddoedd yn ôl. Ei enw oedd Porius, ac mae’r arysgrif ar atgynhyrchiad ei fedd yn darllen yn syml: "Mae Porius yn gorwedd yma yn y beddrod, dyn Cristnogol." Ni wyddom fawr ddim amdano – nid ei oedran ar adeg ei farwolaeth, nac hyd yn oed lle'r oedd yn byw, er ein bod yn cymryd yn ganiataol ei fod yn yr ardal honno.
Ni roddwyd carreg fedd i'r rhan fwyaf o bobl i’w hadnabod. Roedd cost yn fater, a statws hefyd, felly gallwn dybio bod Porius yn bennaeth Cristnogol neu’n bosibl yn arweinydd lleol. Roedd y Rhufeiniaid wedi bod yn weithgar yn yr ardal honno rai cannoedd o flynyddoedd ynghynt, ond roedden nhw wedi hen ddiflannu erbyn i Porius gael ei eni. Mae ei etifeddiaeth yn enw ac yn garreg gyda thair llinell o destun wedi’u harysgrifio arni.
Efallai mai’r rhan fwyaf trawiadol o stori’r Pasg yw’r beddrod lle mae gennym hyd yn oed llai o wybodaeth i weithio arni: dim arysgrif, mynedfa lydan agored, ac amheuaeth ynghylch ei leoliad. Nid oes gennym gorff hyd yn oed.
A dyma’r rhan hollbwysig: roedd y rhai a ddilynodd Iesu yn gwbl sicr bod Duw wedi gwneud rhywbeth hollol newydd ar y diwrnod Pasg cyntaf hwnnw. Roedd marwolaeth wedi’i thorri’n agored fel y bedd, ac fe godwyd Iesu i fywyd newydd. Pan gyfarfu ei ddilynwyr ag ef, daethant o hyd i bwrpas ac ystyr oedd wedi eu hosgoi o’r blaen. Gallent weld dyfodol gyda gobaith a llawenydd.
Rwy’n gwahodd pob un ohonoch i rannu rhywbeth o’r un profiad y Pasg hwn, a darganfod cariad Duw a wireddwyd yn Iesu. Bydd ein heglwysi ar agor i bawb dros benwythnos y Pasg, a byddem wrth ein bodd petaech yn ymuno â ni.
Dymunaf Basg hapus iawn ichi.
+Andrew