Negeseuon Pasg Esgob Bangor
Yn ei neges fideo a'i neges ysgrifenedig (isod) - sy'n dwyn y teitl Duw yn Adfail - mae Esgob Andy yn adfyfyrio ar ddigwyddiadau anodd y flwyddyn ddiwethaf, ac ar sut mae pobl Gristnogol, o'r Pasg cyntaf ymlaen, wedi canfod gobaith yn deillio o sefyllfaoedd dinistriol.
‘A God in Ruins’ yw teitl nofel ogleisiol gan Kate Atkinson. Mae’n adrodd stori Teddy Todd, cyn-filwr o’r Ail Ryfel Byd, wrth iddo geisio canfod ei ffordd mewn dyfodol nad oedd yn disgwyl ei gael. Mae’r syniad o ‘lanast’ yn rhywbeth rwy’n amau sy’n cysylltu llawer ohonom ar ôl y deuddeg mis diwethaf. Mewn sawl ffordd, mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi teimlo fel gwarchae, ymladd gyda feirws sydd wedi dod â llanast i gymaint o rannau o fywyd.
Wrth ddod at Basg arall, gyda’r byd yn dal ynghanol y pandemig, rwy’n ymwybodol fod y cyfnod hwn, i lawer ohonom, yn dal i fod yn un gwirioneddol echrydus. I’r rhai sy’n galaru am eu hanwyliaid, y rhai sydd wedi colli eu bywoliaeth, y rhai sydd wedi gohirio’n amhenodol gynlluniau yn eu bywyd, gallai edrych fel bod popeth yn deilchion. A’r effaith yn y pendraw yw argyfwng gobaith na fyddwn ni byth yn canfod 'normal' eto.
Mae’n rhaid i ni gofio fod stori’r Pasg yn cychwyn gydag argyfwng ynghylch gobaith. Roedd y Cristnogion cyntaf wedi dod i gredu, fel yr oedd Iesu wedi dweud wrthyn nhw, mai ef oedd yr un a fyddai’n dod â chyfnod newydd o obaith. Felly, pan fu farw, bu farw gobaith hefyd. Roedd Duw i’w weld yn deilchion.
Dyma sy’n gwneud yr hyn ddigwyddodd nesaf mor bwysig - oherwydd yr un bobl ag a oedd yn dyst i farwolaeth erchyll Iesu oedd yr union rai oedd yn honni ei fod yn dal yn fyw, er mewn ffordd newydd a gwahanol. Roedd yr argyhoeddiad hwn nid yn unig yn rhoi gobaith i’r tystion, ond yn eu helpu i wneud synnwyr o fywyd. Roedd yn dal yn rhaid iddyn nhw ganfod eu ffordd mewn byd yn llawn ansicrwydd a her – ond, oherwydd yr atgyfodiad, roedd yna ffordd trwy hyn hefyd.
Allwn ni dim gwadu poen y flwyddyn ddiwethaf a dyw'r stori Gristnogol ddim yn diystyru hynny nag unrhyw fath arall o boen. Ond yng nghanol yr hyn sydd i’w weld mor ddinistriol, mae yna ffordd o ymateb, mewn ffordd sydd ynghylch gobaith. Dyna oedd profiad y Cristnogion cynnar ac eraill dirifedi ar ôl hynny, sydd wedi canfod - pan oedd popeth i’w weld yn llanast – rym atgyfodiad Iesu.
Rwy’n gobeithio’n wir y cewch chi Basg hapus, llawn bendithion.