Neges y Pasg - Esgob Llanelwy, Gregory Cameron
Ger y fynedfa i’r Esgobty mae yna goeden Magnolia fawr, ysblennydd. Mae tua’r adeg yma o’r flwyddyn yn hynod gyffrous wrth i’r blagur gwyrdd ddechrau agor a’r blodau gwyn ddechrau dangos eu pennau. Mewn ychydig wythnosau, bydd y goeden gyfa'n flodau gwyn drosti, yn hardd ac yn rhyfeddol; yna bydd y blodau'n disgyn a byddwn yn gorfod disgwyl am flwyddyn arall.
Mae’r arwydd dibynadwy hwn o fywyd newydd bob Gwanwyn yn arwydd o ba mor ddibynadwy yw cariad Duw yn y greadigaeth. A, phob gwanwyn, byddwn yn cofio am atgyfodiad Iesu Grist a gafodd ei groeshoelio ac eto, yn ffydd y Cristion, a gododd eto gan goncro grymoedd tristwch a marwolaeth.
Mae thema bywyd newydd yn arbennig o bwysig i ni eleni. Yr adeg yma y llynedd, roedden ni’n cychwyn ar y cyfnod clo. Doedd gan neb ddim syniad y bydden ni, flwyddyn yn ddiweddarach, yn dal i orfod wynebu heriau’r Coronafeirws. Ac yn y flwyddyn ddiwethaf hon, bydd llawer wedi newid. Mae pobl wedi marw. Mae pobl yn cael trafferth. Bu’n rhaid i gymdeithas gyfan weithio’n galed iawn i gydweithio er mwyn i ni oroesi’r argyfwng. Ond addewid Duw adeg y Pasg yw y bydd yna fywyd newydd. Bydd yna ddechreuad newydd a, chyda help Duw, gallwn ni adeiladu i lawnder bywyd newydd, canfod ffyrdd newydd o wasanaethu ein cymunedau, ffyrdd newydd o ganfod llawenydd bywyd, ffyrdd newydd o ddathlu’r bywyd newydd y mae Duw’n ein gwahodd ni iddo.