Neges Pasg - Esgob Tyddewi
Nid yw’r atgyfodiad ei hun yn “sychu bob deigryn o’n llygaid” nac yn dod â “galar a llefain a phoen” i ben, ond mae’n sicrwydd i ni o’r hyn dyn ni’n credu a fydd, meddai Esgob Joanna Penberthy yn ei neges Pasg.
Wrth ddilyn Iesu a’i ddisgyblion drwy’r Wythnos Fawr at y Groes a’r bedd a fenthycwyd, rydym yn derbyn unwaith eto, gyda’r menywod, newyddion rhyfeddol yr angel, “Y mae wedi ei gyfodi; nid yw yma; dyma'r man lle gosodasant ef. Ond ewch, dywedwch wrth ei ddisgyblion ac wrth Pedr. ‘Y mae'n mynd o'ch blaen chwi ... ”
Mae'r flwyddyn bandemig hon wedi bod yn flwyddyn pan fu’r neges Gristnogol fod Duw gyda ni yn ein dioddefaint yn un bwerus iawn. Ni allwn esbonio pam mae Duw yn caniatáu dioddefaint ond, fel Cristnogion, nid yw ein ffydd yn ceisio osgoi ei realiti. Ar Groes Dydd Gwener y Groglith ac ym meddrod Dydd Sadwrn Sanctaidd, rydym yn cydnabod hynny, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rydyn ni'n dod atyn nhw â'n dagrau, ein galar ac weithiau ein cynddaredd.
Nid yw'r atgyfodiad yn ateb diwinyddol taclus. Nid yw’r atgyfodiad ei hun yn “sychu bob deigryn o’n llygaid” nac yn dod â “galar a llefain a phoen” i ben, ond mae’n sicrwydd i ni o’r hyn dyn ni’n credu a fydd. Fel y dywed Sant Paul yn 1 Corinthiaid, Iesu yw “blaenffrwyth y rhai sydd wedi huno.” Mae'n addewid o fwy i ddod ac mae'n ein gwneud ni fel Cristnogion, yn bobol gobaith.
Mae'n bwysig cofio nad emosiwn yw gobaith bob amser. Gall fod yn hynny, wrth gwrs. Gall gobaith fod yn rhywbeth dych chi'n ei deimlo ,ond weithiau mae'n ddisgyblaeth. Pan nad ydym yn teimlo'n obeithiol, mae'n beth yr ydym yn dewis ei wneud. Fel Cristnogion, dyn ni’n bobol sydd wedi dewis byw fel rhai sy'n gobeithio yn y Duw a gododd Iesu o farw yn fyw. Hyd yn oed mewn blwyddyn fel yr un sydd wedi mynd heibio, dyn ni'n bobl sydd wedi dewis gobeithio yn Nuw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, hyd yn oed pan nad ydyn ni'n teimlo hynny. Dyma beth rydyn ni'n ei gyhoeddi a'i ddathlu adeg y Pasg: cyfododd yr Iesu croeshoeliedig o'r bedd gwag er mwyn torri bara gyda'r rhai y cyfarfu â nhw ar y ffordd i Emmaus. Ymddangosodd y tu ôl i ddrysau dan glo yn Jerwsalem a pharatoi brecwast dros dân agored yng Ngalilea. Ac aeth y rhai a gyfarfu â'r Iesu atgyfodedig a dweud wrth y byd, ac a ddywedodd wrthym ni yn y pen draw. Rydyn ni wedi dod yn bobol sy'n byw mewn gobaith.
Alelwia! Atgyfododd Crist. Atgyfododd yn wir. Alelwia! Pasg bendithiol iawn i chi i gyd.