Neges y Pasg - Esgob Llanelwy
Mae’r Pasg yn cynnig neges o obaith y mae angen i’r byd ei chlywed, meddai’r Esgob Llanelwy, Gregory Cameron
Pan osododd yr awdurdodau Judeaidd a Rhufeinig sêl ar y garreg yn diogelu bedd Iesu (Mathew 27.66), mae'n rhaid eu bod yn teimlo fod y stori drosodd. Mae’n debyg fod y disgyblion yn meddwl hynny hefyd. Roedd y proffwyd trafferthus wedi ceisio gwisgo mantell gogoniant, mynd i mewn i Jerwsalem yn fuddugoliaethus, ond erbyn hyn roedd wedi cael ei arestio, ei ddwyn o flaen ei well, wedi'i ddangos yn dwyllwr, ei ddienyddio a’i gladdu’n ddiogel. Dyna oedd wedi digwydd o’r blaen i arweinwyr Iddewig gwrthryfelgar, a dyna oedd y diwedd.
Eto, mae’r honiad Cristnogol yn eithriadol o syfrdanol – ei fod wedi cyfodi ar y trydydd dydd. Gallwch weld y syfrdandod yn ymestyn allan o’r bedd. Yn gyntaf, mae’r disgyblion allweddol, a oedd wedi bwriadu gwisgo corff Iesu i’w claddu, yn cofnodi fod y bedd yn wag. Yna, mae Iesu'n dechrau ymddangos i'w glych agosaf, ond yn gyflym iawn mae'r Eglwys gynnar yn cael ei gyda’r brwdfrydedd a'r nerth i ddechrau tystiolaethu i Iesu fel concwerwr marwolaeth a drygioni. Ymhell o fod wedi’i orchfygu, yn ôl y Cristnogion, mae Iesu'n fyw, goncwerwr ac yn ffynhonnell bywyd tragwyddol.
Mae’r syfrdandod wedi atseinio ar draws y byd ac i lawr trwy’r oesoedd. Mae gelynion Cristnogaeth wedi cael tröedigaeth, y bobl mwyaf annhebygol wedi gwneud y pethau mwyaf rhyfeddol, oherwydd eu bod yn credu yn yr atgyfodiad: herio ormeswyr er fod hynny’n golygu marwolaeth; sefyll gyda’r rhai ar y cyrion er ei fod hynny’n golygu gwatwar; sefyll gyda’r gwanaf, y tlotaf a’r mwyaf afiach mewn cymdeithas, er ei fod hynny’n golygu dioddefaint.
I dros ddwy biliwn o bobl heddiw, a minnau yn eu mysg, daeth yr Atgyfodiad, gyda’i wreiddiau mewn profiad hanesyddol, yn ysbrydoliaeth barhaus i ffydd a chariad a gwasanaeth. Yn ei hanfod, y newyddion da Cristnogol yw nad yw drygioni’n cael y gair olaf, nid marwolaeth yw’r diwedd, nid oes dioddefaint heb iachawdwriaeth ac nad oes yr un peth da erioed wedi’i golli gyda Duw.
Rwy’n credu mai dyma yw’r neges o obaith y mae’r byd angen ei glywed. Rydym wedi ymladd a brwydro gyda Covid, mae'r atgyfodiad yn addo i ni fod yna bywyd y tu hwnt i'r pandemig - fod hyd yn oed ein hanwyliaid sydd wedi marw rhywsut yn ddiogel yng ngofal Duw. Nid erchyllterau’r rhyfel yn Wcrain, na gweithredoedd gwarthus y rhyfelgwn, yw’r gair olaf: mae yna bosibilrwydd o fywyd newydd. Daw rhyfel i ben, bydd cyfundrefnau’n chwalu, bydd dechreuad newydd yn codi.
A yw hyn yn swnio’n or-syml ac ai cynnyrch ffydd dall yw gobaith fel hyn? Ie, dyma fy ffydd, dyma fy nghredo, ond dyma hefyd fy mhrofiad. Rwy’n mynd yn ôl at y bedd gwag yn y Beibl ac dal ei weld yn wag. Nid yw Crist yno, mae wedi atgyfodi. Rwy’n gweld bywydau’r apostolion, Paul yn eu mysg, wedi’u trawsffurfio gan gariad Duw, a’r Eglwys yn blaguro ac mae hynny i mi yn brofiad real o'r Duw byw. Rwy’n gwrando ar dystiolaethau’r seintiau a ffrindiau a theulu, sy’n ymddangos yn debyg i’m profiad i – miloedd o atgyfodiadau pob dydd, sy’n cadw bywyd a gobaith a chariad yn fyw, hyd yn oed yn y mwyaf o sefyllfaoedd.
Roedd un o feirdd modern gorau Cymru, Dylan Thomas yn ein hannog, “Do not go gentle into that good night”, ac rwy'n amau mai, iddo ef, rhyfelgri oedd hyn i fyw bywyd i’r eithaf hyd y diwedd. I mi, fodd bynnag, mae’r ffaith fod y garreg wedi’i threiglo yn dweud wrthyf fydd y nos fyth yn ddiwedd y stori, bydd yna fore bob amser.
Y cerrig sy’n gallu ein llesteirio yn ein bywyd pob dydd, ein claddu mewn siomedigaeth, amheuaeth, anobaith neu hyd yn oed farwolaeth ysbrydol, yw’r cerrig mae angel Duw yn ceisio eu treiglo i ni, a Christ yw'r cyntaf anedig o farwolaeth, yr Un sy'n addo i ni nad yw marwolaeth na drygioni byth yn cael y gair olaf.