Neges y Pasg, Esgob Abertawe ac Aberhonddu
Mae’r Pasg yn ein tynnu ymaith o’n hofnau i gryfder a gobaith, meddai Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas, yn ei neges Pasg.
Cefais fy atgoffa yn ddiweddar am y dyfyniad gan y Gwir Barchedig Nick Baines, Esgob Leeds: “Ond ni chaiff Cristnogion eu gyrru gan ofn; cawn ein denu gan obaith”.
Wrth gwrs, nid yw pob ofn yn ddrwg; gall ofn fod yn beth da yn ei le cywir. Gall ein rhybuddio rhag bod yn rhy fyrbwyll, gan wneud i ni ‘edrych cyn neidio’ ac ystyried rhag ofn ein bod yn peri niwed i’n hunain neu eraill.
Ond yna mae’r ofn sy’n ein llethu, sy’n ein taro mor rymus fel nad oes gennym amser hyd yn oed i ystyried ‘edrych cyn neidio’ i ffurfio unrhyw fath o farn gadarn. Dim ond amser i ffoi sydd, ac yna ddim bob amser ar gyfer hynny.
Fel unrhyw daith y dechreuwn arni, lle rydym yn adnabod y llwybr, mae’n rhwydd cofio am y rhannau gorau tra bo’r rhannau gwaethaf yn pylu yn ein cof. Ond yr Wythnos Sanctaidd hon gofynnaf i ni atgoffa ein hunain, tua’r amser hwn tua 2,000 neu fwy o flynyddoedd yn ôl, bod y daith i’r groes yn mynd rhagddi mewn amser real, a gyda hynny daeth gwir ofn, gan barlysu rhai, hybu eraill. Roedd ofn yn y dyddiau ac arwain at y groes yn real ac yn amlwg.
Ein dymuniad, fe wn, yw gweddïo dros a helpu yn unrhyw ffordd a allwn, y rhai sy’n byw mewn cyfnodau o’r fath heddiw ar gyfer teuluoedd sydd, mewn ennyd, wedi eu chwalu, eu dadleoli a’u rhoi mewn ofn am eu bywyd, ac a gollodd eu cartrefi, bywoliaethau a phopeth oedd yn annwyl iddynt ac ar gyfer y rhai a gafodd eu llethu gan ofn.
Hoffwn ddiolch i bawb a ymatebodd i’r apêl y Pasg hwn am eu haelioni a’u cefnogaeth ar gyfer pobl sydd mewn angen o’r fath ar hyn o bryd.
Ac felly, er bod ofn yn ein byd yn real ac amlwg, gallwn ddal i ddangos ein bod yn bobl chwithig. Drwy ein tystiolaeth a’n gweinidogaeth gallwn gael ein denu gan obaith, ein denu gan nerth sy’n llawer mwy na’n nerth ni ein hunain, i fan tu hwnt i arswyd y groes, sy’n arwain at garreg a symudodd, beddrod gwag a negeseuwyr yn siarad am fywyd, nid marwolaeth. Man lle mae ein ffydd mewn Crist atgyfodedig yn goresgyn ein hofn.
Mae’r Pasg yn golygu fod ein gobaith wedi canfod ei orffwysfa mewn bywyd, nid marwolaeth.
Crist atgyfodedig sy’n dweud wrthym “codwch eich calon! Yr wyf wedi goresgyn y byd”.
Gan ddymuno Pasg bendithiol i chi
+John