Ail Lyfr newydd yn dathlu cyfraniad yr Eglwys i ddiwylliant Cymru
Mewn 16 traethawd gan ysgolorion o fri, caiff gyfraniad yr Eglwys yng Nghymru i hanes a diwylliant Cymru yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ei ymchwilio yn ail gyfrol y gyfres ‘Gofal ein Gwinllan’.
Mae’r traethodau yn seiliedig ar sgyrsiau a roddwyd mewn cyfres o seminarau ar-lein a gynhaliwyd yn ystod 2022 a 2023 dan nawdd Athrofa Padarn Sant. Caiff y llyfr, gyda’r teitl Gofal ein Gwinllan: Ysgrifau ar Gyfraniad yr Eglwys yng Nghymru i’n llên a’n hanes a’n diwylliant (Cyfrol 2), ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar 9 Awst.
Mae’n cynnwys archwiliad o’r cysylltiad Methodistaidd, twf ysgolheictod, mudiad yr Eisteddfod, datblygiad y wasg gyfnodol a chyfraniad cynyddol merched. Rhoddir sylw hefyd i lenorion emynau, megis Ieuan Glan Geirionydd a Rice Rees, y beirdd Alun, Tegid a Daniel Ddu a noddwyr diwylliannol fel Angharad Llwyd a Gwenynen Gwent.
Golygir y llyfr gan yr Athro Densil Morgan a Dr A Cynfael Lake.
Ysgrifennwyd y rhagair gan Dorrien Davies, EsgobTyddewi. Dywedodd, “Fel yr Esgob â chyfrifoldeb portffolio dros y Gymraeg, braint o’r mwyaf felly yw cael cymeradwyo’r ail gyfrol hon yn gynnes i chi. Mawr obeithiaf y byddwch yn mwynhau darllen y traethodau hyn sy’n disgrifio cyfnod diddorol iawn yn natblygiad yr Eglwys ac yn dysgu gwersi dadlennol i ni hyd yn oed heddiw wrth i ni geisio cyhoeddi Efengyl Crist ar adeg dra gwahanol.”
Cyhoeddwyd y llyfr gan Y Lolfa ar ran Athrofa Padarn Sant a’r Eglwys yng Nghymru. Er yn canolbwyntio ar ffigyrau o’r Eglwys yng Nghymru, bydd y gyfrol o ddiddordeb i bawb sy’n trysori etifeddiaeth ddiwylliannol y genedl.
Mae croeso i bawb yn y lansiad ym Mhabell y Cymdeithasau yn yr Eisteddfod ddydd Gwener 9 Awst am 3pm. Bydd y siaradwyr yn cynnwys anerchiad gan un o’r cyfranwyr i’r gyfrol, sef yr Athro Prys Morgan, a fydd yn sôn am Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer (Gwenynen Gwent). Bydd y pwnc hwn o ddiddordeb neilltuol gan fod Parc Ynys Angharad, ble y lleolir y brifwyl eleni, yn sefyll ar dir a fu’n eiddo teulu’r Arglwyddes ar un adeg. Cadeirydd y sesiwn fydd y Canon Ddr Ainsley Griffiths.
- Gellir archebu’r llyfr ar-lein yn ylolfa.com neu o bob siop lyfrau dda.