Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd
Bydd Esgobaeth Bangor yn croesawu ymwelwyr i’r Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos nesaf gyda llu o ddigwyddiadau ar y Maes ym Moduan.
Mae’r baneri yn eu lle o amgylch Llŷn ac Eifionydd a bydd yr holl ardal yn fwrlwm o liw, cerddoriaeth, llenyddiaeth a diwylliant rhwng 5-12 Awst.
Llwybr Cadfan
Galwch heibio stondin “Pererin” i gael gwybodaeth am Lwybr Cadfan – llwybr pererindod newydd yn ne’r esgobaeth a gaiff ei lansio fel rhan o gainc Pererin o'r brosiect Llan yr esgobaeth.
Bydd y stondin, drws nesa y babell Cytûn, yn rhoi gwybodaeth am y llwybr, ynghyd â pherfformiadau barddoniaeth a cherddoriaeth gan y Prosiect Llenyddol Cymraeg, Llwybr Cadfan.
Caiff drama Cymeriad Cadfan, gyda’r actor Llion Williams yn rhan y sant, ei pherfformio ar y Maes. Mae pererindod yn ddigwyddiad arall a drefnwyd ar y dydd Mawrth. Bydd beirdd preswyl y prosiect, ynghyd â Twm Morys, Gwyneth Glyn a nifer o wynebau cyfarwydd eraill, yn ein harwain o amgylch y maes yn canu ac adrodd eu cerddi. Mae'n dechrau am hanner dydd wrth gerrig yr Orsedd.
Bydd y beirdd hefyd yn cymryd rhan mewn sesiwn ym Mhabell y Cymdeithasau ar y dydd Mercher. Bydd hwn yn ddigwyddiad llawn hwyl, eto yn olrhain dechreuadau’r prosiect unigryw hwn a bydd yn gyfle i glywed peth o waith y beirdd eu hunain.
Cwrdd â’r Archesgob
Bydd Andrew John, Archesgob Cymru, yn bresennol ar nifer o ddyddiau’r Eisteddfod. Bydd yn rhan o Oedfa’r Eisteddfod am 10yb fore Sul (6 Awst). Bydd hefyd yn arwain gwylnos heddwch ym mhabell Cytûn ar y nos Lun a chaiff ei dderbyn i Orsedd y beirddar fore dydd Gwener yr Eisteddfod.
Ymweliad Côr y Gadeirlan
Digwyddiad arbennig arall sy’n rhan o gynnig yr Eisteddfod yw Gwasanaeth Ewcharist Sanctaidd Corawl. Bydd côr Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor Eglwys Sant Pedr ym Mhwllheli ddydd Gwener 11 Awst am 6yp. Bydd Is-Ddeon y Gadeirlan, y Canon Siôn Rhys Evans, yn pregethu.
Bydd y côr hefyd yn canu ym mhabell Cytûn, yn gynharach am 2.30yp ar y dydd Gwener.
Lansio llyfr
O gyfieithu’r Beibl i ysgolion cylchynol, caiff cyfraniad yr Eglwys yng Nghymru i hanes a diwylliant Cymru ei ymchwilio yng nghyfrol gyntaf cyfres newydd o lyfrau.
Caiff y llyfr, gyda’r teitl Gofal ein Gwinllan: Ysgrifau ar Gyfraniad yr Eglwys yng Nghymru i Lên, Hanes a Diwylliant Cymru, ei lansio ym Mhabell y Cymdeithasau 1 ar 11 Awst am 3yp.