Ethol Esgob newydd Llandaf
Bydd pobl yn cynrychioli eglwysi o bob rhan o Gymru yn cwrdd yng Nghadeirlan Llandaf y mis hwn i ethol esgob newydd ar gyfer esgobaeth fwyaf poblog Cymru.
Bydd coleg etholiadol o 45 o bobl yn cwrdd tu mewn i enwebu a phleidleisio ar restr gyfrinachol o ymgeiswyr ar gyfer Esgob nesaf Llandaf.
Mae’r etholiad yn dilyn ymddeoliad June Osborne (ar y dde) ar ddiwedd mis Rhagfyr, oedd wedi gwasanaethu fel Esgob Llandaf ers 2017. Yr esgob newydd fydd 73fed Esgob Llandaf, esgobaeth sy’n gwasanaethu bron hanner poblogaeth Cymru gan ei bod yn cynnwys y rhan fwyaf o Gaerdydd, Cymoedd De Cymru a Bro Morgannwg.
Mae'r Coleg Etholiadol yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o'r chwe esgobaeth yng Nghymru, gan gynnwys yr Esgobion. Mae ei drafodaethau yn gyfrinachol. Caiff ymgeiswyr ar gyfer yr etholiad eu henwebu, eu trafod a phleidleisio arnynt drwy bleidlais ddirgel yn y cyfarfod. Caiff ymgeisydd sy’n derbyn dau-draean y pleidleisiau mewn pleidlais o’r rhai sy’n bresennol ei ddatgan yn Ddarpar Esgob. Fel arall, byddai’r Coleg yn dychwelyd i’r cam enwebu ac mae’r cylch yn dechrau o’r newydd. Unwaith y gwneir penderfyniad, bydd y Gadeirlan yn ail-agor a gwneir cyhoeddiad wrth y drws gorllewinol.
Gall y Coleg gwrdd am hyd at dri diwrnod olynol er mwyn dod i benderfyniad; os yw’n methu gwneud hynny o fewn yr amserlen hon, caiff y penderfyniad ei drosglwyddo i’r Fainc Esgobion.
Unwaith yr etholir esgob, bydd ganddo ef neu hi hyd at 28 diwrnod i dderbyn neu wrthod y swydd. Os yw’n derbyn, caiff yr etholiad ei gadarnhau’n ffurfiol mewn gwasanaeth Synod Sanctaidd a gynhelir yn fuan wedyn.
Bydd cyfarfod y Coleg Etholiadol yn dechrau ar 18 Ionawr gyda dathliad o’r Ewcharist Sanctaidd, sy’n cychwyn am 10yb, gyda chroeso i bawb. Yn dilyn hynny bydd aelodau’r coleg yn cwrdd yn breifat a chaiff y Gadeirlan ei chau.