Ethol Esgob newydd Tyddewi
Caiff drysau cadeirlan eu cloi am hyd at dri diwrnod yn ddiweddarach y mis hwn ar gyfer ethol esgob newydd ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru.
Bydd Cadeirlan Tyddewi ar gau wrth i goleg o 47 o bobl, yn cynrychioli eglwysi o bob rhan o Gymru, gwrdd tu mewn i enwebu a phleidleisio ar restr gyfrinachol o ymgeiswyr i fod yn Esgob nesaf Tyddewi.
Mae'r etholiad yn dilyn ymddeoliad Joanna Penberthy, a wasanaethodd fel Esgob Tyddewi am chwe mlynedd. Yr esgob newydd fydd 130fed Esgob Tyddewi, esgobaeth sy’n cynnwys Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
Bydd y Coleg Etholiadol, sy’n cynnwys holl esgobion Cymru, yn dechrau ar 16 Hydref. Caiff ymgeiswyr ar gyfer etholiad eu henwebu yn y cyfarfod, gyda thrafodaeth a phleidlais. Caiff unrhyw ymgeisydd sy'n derbyn dau-draean pleidleisiau'r rhai sy'n bresennol ei ddatgan yn Ddarpar Esgob. Fel arall, mae'r Coleg yn dychwelyd i'r cam enwebu ac mae'r cylch yn ailddechrau o'r newydd. Unwaith y gwnaed penderfyniad, bydd y Gadeirlan yn ail-agor a bydd Archesgob Cymru, Andrew John, yn gwneud y cyhoeddiad wrth y drws gorllewinol.
Bydd gan y Coleg Etholiadol hyd at dridiau i wneud penderfyniad. Os yw’n methu ethol unrhyw un ar ôl hynny, bydd y penderfyniad yn symud i’r Fainc Esgobion.
Unwaith yr etholir esgob, bydd ganddo ef neu hi hyd at 28 diwrnod i dderbyn y swydd. Os bydd yn derbyn, caiff yr etholiad ei gadarnhau'n ffurfiol mewn gwasanaeth Synod Cysegredig a gynhelir yn fuan wedyn. Yna cysegrir yr esgob newydd yng Nghadeirlan Bangor, sedd Archesgob Cymru ar hyn o bryd.
Bydd y cyfarfod ar 16 Hydref yn dechrau drwy ddathlu'r Ewcharist Sanctaidd yn y gadeirlan drwy ddathlu’r Ewcharist Sanctaidd am 9.30am gyda chroeso i bawb. Yn dilyn hynny bydd aelodau’r Coleg yn cwrdd yn breifat a chaiff y Gadeirlan ei chau.