Ethol Archesgob Cymru
Bydd eglwys plwyf mewn tref sba Fictoraidd yng nghalon Cymru yn gartref i ddigwyddiad pwysig ym mis Rhagfyr – ethol Archesgob nesaf Cymru.
Bydd drysau Eglwys y Drindod Sanctaidd yn Llandrindod ar glo am hyd at dridiau ar 6 Rhagfyr pan fydd y Coleg Etholiadol yn cwrdd tu mewn i ddewis 14eg Archesgob Cymru.
Y dref yng nghanolbarth Cymru fu lleoliad ethol holl Archesgobion Cymru ers y cyntaf yn 1920, oherwydd ei safle canolog.
Mae’r etholiad yn dilyn ymddeoliad John Davies, Esgob Abertawe ac Aberhonddu, a ddaliodd swydd Archesgob Cymru am bedair blynedd. Caiff ei olynydd ei ddewis o blith esgobion presennol Cymru – Esgob Bangor, Andy John, Esgob Llanelwy, Gregory Cameron, Esgob Tyddewi, Joanna Penberthy, Esgob Llandaf, June Osborne, Esgob Mynwy, Cherry Vann ac Esgob newydd Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas.
Bydd y rhai sy’n gwneud y penderfyniad yn cynrychioli eglwysi ledled Cymru. Mae pob un o’r chwech esgobaeth yn ethol tri chlerigwr a thri lleygwr i’r Coleg ac mae’r esgobion hefyd yn aelodau – gan wneud cyfanswm o 42 o bobl. Yr Uwch Esgob, yr Esgob Andy John, yw Llywydd y Coleg.
Bydd y cyfarfod yn cychwyn am 9.30am gyda gwasanaeth cyhoeddus o Gymun Sanctaidd ac mae croeso i bawb. Yn dilyn hynny, fodd bynnag, dim ond aelodau’r coleg a staff yn cefnogi gwaith y coleg gaiff aros yn yr eglwys gan fod ei thrafodaethau yn gyfrinachol.
Ar ôl trafod anghenion y Dalaith a chyfnod o weddi a myfyrdod, bydd y Llywydd yn galw am enwebiadau. Bydd yr esgobion wedyn yn gadael y drafodaeth, gan ddim ond dychwelyd i bleidleisio. Mae’n rhaid i enwebai dderbyn dau-draean pleidleisiau’r coleg er mwyn cael eu hethol yn Archesgob. Os nad oes unrhyw ymgeisydd yn derbyn y pleidleisiau angenrheidiol, mae’r broses yn ailddechrau gydag enwebiadau newydd a all fod yn cynnwys y rhai a enwebwyd yn y bleidlais flaenorol.
Unwaith yr etholwyd yr Archesgob, bydd drysau’r eglwys yn agor a gwneir y cyhoeddiad. Yr arfer yw i’r esgob gadarnhau ei etholiad ef neu hi ar unwaith. Caiff yr Archesgob ei orseddu yn ei gadeirlan/chadeirlan gartref maes o law.
Gall y Coleg gymryd hyd at dridiau i ethol Archegob. Os yw’n methu gwneud hynny ar ôl y cyfnod hwnnw, bydd y penderfyniad yn symud i’r Fainc Esgobion.
Gorsedd yr Archesgob, copi pren o Gadair Awstin Sant yng Nghadeirlan Caergaint a roddwyd i’r Eglwys yng Nghymru pan gafodd ei datgysylltu yn 1920.