Etholiad Cyffredinol 2024
Mae Archesgob Cymru, Andrew John, yn annog pobl i ddangos parch a moesgarwch yn ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol. Mewn datganiad, yn dilyn y cyhoeddiad y cynhelir Etholiad Cyffredinol ar 4 Gorffennaf, mae hefyd yn annog pobl i bleidleisio ac yn galw am gofio am y bobl dlotaf a’r rhai sydd fwyaf ar y cyrion.
Datganiad Archesgob Cymru
Wrth i'n gwlad wynebu dewisiadau pwysig am y dyfodol, byddwn yn annog pawb i wneud defnydd llawn o'n rhyddid democrataidd ac i gymryd rhan yn y dadleuon a'r penderfyniadau sydd o'n blaenau, ac i arfer eu hawl i bleidleisio. Byddwn yn galw ar wleidyddion, sylwebyddion a'r cyhoedd i gymryd rhan yn y broses mewn ysbryd o barch a gwareidd-dra ac i gydnabod, beth bynnag yw ein safbwyntiau gwleidyddol, ein bod i gyd yn rhannu'r un nod o hyrwyddo lles cyffredin a chreu cymdeithas well. A thrwy'r holl broses, ein gweddi fel Cristnogion yw y bydd anghenion y tlotaf a'r mwyaf ymylol yn ein cymdeithas bob amser yn cael eu cofio.
Adnoddau
O sut i drefnu hystingau i beth i weddïo a phregethu amdano, mae cyngor a syniadau ar bob agwedd o’r Etholiad Cyffredinol ar gael ar y tudalennau gwefan canlynol.
Cofrestru i bleidleisio ac ID gyda llun
Mae gennych tan ddydd Mawrth 18 Mehefin i gofrestru i bleidleisio. Hwn hefyd fydd yr Etholiad Cyffredinol cyntaf lle byddwch angen ID gyda llun i bleidleisio. Gallwch gofrestru a gwneud cais am ID gyda llun am ddim ar-lein.
Cynnal hystingau
Byddwch wrth ganol democratiaeth ar gyfer eich cymuned drwy gynnal hystingau ar gyfer ymgeiswyr seneddol lleol lle gallant siarad am eu polisïau a blaenoriaethau a rhoi cyfle i bleidleiswyr eu holi. Mae cyngor ar gael yma:
Adnoddau Etholiad
Mae’r Tîm Materion Cyhoeddus ar y Cyd wedi paratoi amrywiaeth o adnoddau defnyddiol ar gofrestru pleidleiswyr ac ID, canllawiau ar hystingau, papurau gwybodaeth ar bynciau ffyrdd i bregethu a gweddïo.
Rali tlodi a phecyn cymorth
Mae trechu tlodi yn flaenoriaeth ar gyfer Cristnogion.
Mae gan y mudiad Let's End Poverty becyn cymorth defnyddiol i'ch helpu i gwrdd â'ch ymgeiswyr seneddol i siarad am dlodi, mynd trwy sut i gynllunio, paratoi ar gyfer a chynnal eich sgwrs.
Pray Your Part
Ymunwch â thaith 21-diwrnod o weddi a myfyrdod dan y teitl Pray Your Part. Mae Eglwys Lloegr yn paratoi cyfres o fyfyrdodau dyddiol gyda thema a ysgrifennwyd gan esgobion, a ddaw o’r Beibl ac yn ymchwilio themâu pwysig, ar gyfer y tair wythnos olaf hyd at ddiwrnod pleidleisio. Byddant ar gael fel llyfryn, ar ffurf sain ar gyfer dyfeisiau smart, fel e-byst y gallwch ddewis eu derbyn am ddim a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol.
Gwleidyddiaeth a Ffydd
Ni all Cristnogion aros dan glo y tu ôl i furiau cerrig eu heglwysi, gan edrych allan ar gymdeithas o bellter trwy ffenestri lliw.
Mae ein Cyfarwyddwr Datblygu Gweinidogaeth, y Canon Ddr Trystan Owain Hughes, yn archwilio pam fod angen i Gristnogion fyw allan eu gwleidyddiaeth, yn ei flog ysbrydoledig.
Gweddïau
Dros drafodaeth foesgar
Dad nefol,
wrth inni baratoi ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol,
diolchwn i ti am fraint democratiaeth
ac am y rhai a elwir i’n gwasanaethu.
Bydded i’n cenedl gael ei chyfoethogi drwy ddadlau a thrafod
a bydded i’r rhai a etholir gael eu harwain gan dy werthoedd di:
parch, gwirionedd, urddas a dyletswydd.
Gofynnwn hyn yn enw Iesu.
Amen.
Dros les pawb
Arglwydd Dduw,
eneiniaist dy Fab Iesu Grist â’th Ysbryd
i bregethu'r newydd da i dlodion
a’i anfon i gyhoeddi rhyddhad i garcharorion,
ac adferiad golwg i ddeillion,
i beri i'r gorthrymedig gerdded yn rhydd,
ac i gyhoeddi blwyddyn dy ffafr di.
Wedi ein hysbrydoli gan yr un weledigaeth,
gweddïwn dros ein gwlad wrth i’r Etholiad Cyffredinol agosáu.
Dangos i bob ymgeisydd weledigaeth o’th deyrnas,
teyrnas sy’n llawn cyfiawnder, heddwch a llawenydd yn yr Ysbryd Glân.
Dyro i’th bobl ddoethineb wrth fwrw eu pleidlais
ac i’r rhai a etholir ras i weithio’n ffyddlon dros eraill, er y lles cyffredin.
Gofynnwn hyn yn enw dy Fab Iesu Grist
a ddaeth i wasanaethu,
ei roi ei hun dros fywyd y byd
ac sydd yn awr yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân
yn un Duw yn awr ac am byth.
Amen.
Yn seiliedig ar Luc 4:18-19 (Eseia 61:1-2); Rhufeiniaid 14:17; Marc 10:45 ac Ioan 6:51.