Cyhoeddi gwasanaethau Esgobol
Bydd dau esgob newydd yn cael eu cysegru a’u croesawu gan eu hesgobaeth a bydd Archesgob Cymru yn cael ei orseddu mewn cyfres o wasanaethau pwysig gan yr Eglwys yng Nghymru dros y misoedd nesaf.
Ym mis Chwefror, bydd dau esgob sydd newydd eu penodi yn cael eu cysegru gyda’i gilydd yn yr un gwasanaeth. Bydd Esgob Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas, ac Esgob Cynorthwyol Bangor, Mary Stallard, yn cael eu cysegru yng Nghadeirlan Bangor, sef sedd Archesgob Cymru, Andrew John.
Cynhelir y gwasanaeth ar 26 Chwefror am 2.30pm. Yn ystod y gwasanaeth, y bydd cynrychiolwyr o’r ddwy esgobaeth yn bresennol yno, bydd yr esgobion newydd yn cael eu heneinio ag olew sanctaidd a chyflwynir symbolau eu swydd iddynt: modrwy esgobol, brongroes a meitr, yn ogystal â Beibl a ffon fugeiliol.
Yn dilyn y gwasanaeth cysegru, bydd yr Esgob Mary yn cael ei chroesawu i’r rôl newydd yn Esgobaeth Bangor gyda gwasanaeth dathlu arbennig ar Ddydd Gŵyl Dewi, 1 Mawrth, am 2.30pm. Bydd yn cael ei chyfarch gan bobl o bob rhan o Esgobaeth Bangor a bydd yn cyd-lywyddu gydag Archesgob Cymru ac Esgob Bangor, Andrew John, i ddathlu’r Cymun Sanctaidd.
Yn y cyfamser, bydd yr Esgob John yn cael ei orseddu fel 10fed Esgob Abertawe ac Aberhonddu yng Nghadeirlan Aberhonddu, sef sedd yr Esgobaeth, ar 5 Mawrth. Bydd yn cael ei roi yn sedd yr Esgob a’i groesawu gan gynrychiolwyr o bob rhan o Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu. Mae’r gwasanaeth yn dechrau am 2pm.
Ar ddiwedd Ebrill, bydd Archesgob Cymru, Andrew John, yn cael ei orseddu yng Nghadeirlan Bangor. Etholwyd Andrew, sydd hefyd yn Esgob Bangor, yn 14eg Archesgob Cymru ym mis Rhagfyr. Yn ystod y gwasanaeth gosodir yr Archesgob yn y gadair Archesgobol. Disgwylir i groestoriad o bobl o bob rhan o’r eglwys a chymdeithas Cymru yn ehangach ddod i’r gwasanaeth sy’n digwydd ar 30 Ebrill am 2.30pm.
Oherwydd y llefydd cyfyngedig, bydd mynediad i'r gwasanaeth cysegru a'r gwasanaethau gorseddu trwy docyn yn unig. Ni fydd angen tocyn ar gyfer gwasanaeth croeso Esgob Mary. Bydd y nifer o docynnau fydd ar gael yn unol â chyfarwyddyd Covid Llywodraeth Cymru ac asesiadau risg yr Eglwys yng Nghymru. Fodd bynnag, gobeithir y bydd yr holl wasanaethau’n cael eu ffrydio’n fyw ar gyfryngau cymdeithasol i’r rhai sy’n methu bod yn bresennol.
Dywedodd yr Archesgob Andrew, “Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’r Eglwys yng Nghymru wrth i ni ddechrau’r flwyddyn gyda dau esgob newydd ac yn gallu agor ein heglwysi a chroesawu gwahoddedigion i ymuno â ni i’r gwasanaethau pwysig yma. Diolch i’r camau breision yr ydym wedi eu cymryd o ran technoleg ddigidol ers dechrau’r pandemig, rydym yn awr hefyd yn gobeithio darlledu’r gwasanaethau hyn yn fyw fel bod pawb sydd am wrando a dathlu gyda ni yn gallu gwneud hynny. Rwy’n gobeithio y bydd llawer ohonoch yn gwneud hynny, os yn bosibl, ac ymuno yn ein gweddïau dros yr Esgob John a’r Esgob Mary wrth iddyn nhw ddechrau ar eu gweinidogaeth.”
Bydd rhagor o fanylion am y gwasanaethau, gan gynnwys y dolenni at y ffrydio byw, yn dilyn.