Arweinwyr ffydd yn gwneud datganiad hinsawdd ar y cyd
Mae Uwch Esgob yr Eglwys yng Nghymru, Esgob Andy John, yn ymuno ag arweinwyr ffydd eraill mewn ymrwymiad i fynd i’r afael â her yr argyfwng hinsawdd.
Gwneir y datganiad ar y cyd gan y gynghrair o 52 o arweinwyr ffydd yn y Deyrnas Unedig cyn COP26, uwchgynhadledd hinsawdd y Deyrnas Unedig a gynhelir yn Glasgow ym mis Tachwedd.
Mae’n mynegi ymrwymiad cymunedau ffydd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’u dymuniad i weld llywodraethau yr un mor ymroddedig.
Mae’r datganiad yn adeiladu ar Ddatganiad Lambeth a ragflaenodd COP Paris yn 2015 a Datganiad Ymrwymiad Fforwm Arweinwyr Crefyddol yr Alban i COP 26 a lansiwyd yn yr Uwchgynhadledd Uchelgais ym mis Rhagfyr 2020.
Mae’r arweinwyr yn ymrwymo i fyfyrio drwy weddi, myfyrdod ac addoliad; trawsnewid eu cymunedau; ac eiriol dros gyfiawnder drwy alw ar y rhai sydd mewn grym i weithredu polisïau gwyrdd.
Dywedant, “Ar draws ein gwahaniaethau athrawiaethol a gwleidyddol, gwyddom fod yn rhaid i ni newid ein ffyrdd i sicrhau ansawdd bywyd y gallwn i gyd ei rannu, ac mae angen i ni roi gobaith i bobl o bob oed, ym mhob man, yn cynnwys cenedlaethau’r dyfodol. I gynnig gobaith yn y byd mae angen i ni fod â hyder fod y rhai sydd mewn grym yn deall y rôl hanfodol sydd ganddynt yn COP26 Glasgow.
Bydd ein hegni a’n gweddïau ar y cyd gyda’r rhai sy’n gweithio am ganlyniad llwyddiannus.”
Eleni, mae’r Eglwys yng Nghymru wedi datgan argyfwng hinsawdd, wedi penodi Hyrwyddwr Hinsawdd, gwneud penderfyniadau i ddadfuddsoddi o danwyddau ffosil ac ymrwymo i ddod yn niwtral o ran carbon, yn ddelfrydol erbyn 2030.