Arweinwyr ffydd yn ymuno yn nathliadaur’r Jiwbilî Platinwm
Mae arweinwyr ffydd blaenllaw ym Mhrydain, yn cynnwys Archesgob Cymru, wedi lleisio cefnogaeth gref i Fegynau’r Jiwbilî Platinwm ac annog eu cymunedau i gymryd rhan.
Ar Ddydd Esgyniad ar 6 Chwefror, unodd arweinwyr o naw cymuned ffydd (Cristnogol, Iddewig, Mwslimaidd, Hindŵ, Sikh, Bwdhydd, Jain, Zoroastriaidd, Bahá’i), mewn edmygedd at Ei Mawrhydi Y Frenhines, a llongyfarch Ei Mawrhydi ar 70 mlynedd ar yr orsedd ac annog eu haelodau a’u cymunedau i ddathlu cynnau begynau er anrhydedd iddi. Drwy eu harweinyddiaeth, mae’r arweinwyr ffydd a chymunedol yn cynrychioli miliynau o bobl yn y Deyrnas Unedig, ac mewn rhai achosion, yn rhyngwladol hefyd.
Gan adeiladu ar draddodiad hir o gynnau begynau i nodi dathliadau brenhinol arwyddocaol, caiff mwy na 1,500 o Fegynau Jiwbilî Platinwm eu cynnau ar draws y Deyrnas Unedig a’r Gymanwlad ar noswaith gyntaf Penwythnos Jiwbilî pedwar diwrnod (ar ddydd Iau 2 Mehefin 2022). Bydd y Begynau yn ei gwneud yn bosibl i gymunedau lleol ymuno a thalu teyrnged i’w Mawrhydi fel rhan o’r rhaglen swyddogol o ddigwyddiadau. Gwahoddir corau i ganu Cân i’r Gymanwlad wrth i’r begynau gael eu cynnau
Dywedodd Andrew John, Archesgob Cymru, “Mae’r Eglwys yng Nghymru yn falch iawn i ymuno yn y teyrngedau i’w Mawrhydi y Frenhines ar achlysur hanesyddol ei jiwbilî platinwm. Anogwn gorau eglwysig o bob ffydd ar draws Cymru i ymuno i ganu ‘Cân i’r Gymanwlad’ am 9.45m ar 2 Mehefin 2022 wrth i fegynau’r jiwbilî gael eu cynnau ar draws y Deyrnas Unedig a phrifddinasoedd y Gymanwlad. Mae hwn yn gyfle gwych i genedlaethau, cymunedau, ffydd a chenedlaethau gwahanol i ddod ynghyd mewn cyfeillach a diolch i’w Mawrhydi am y 70 mlynedd o wasanaeth ac arweinyddiaeth a roddodd i filiynau ar draws y byd. Gadewch i ni godi ein lleisiau fel un i anrhydeddu ein Brenhines a hefyd y Duw a wasanaethodd gyda chymaint o ffydd a dycnwch.”
Dywedodd Justin Welby, Archesgob Caergaint: “Bydd hon yn foment o ddathlu rhyfeddol, wrth i ni uno ar draws cenedlaethau, enwadau, ffydd a chymunedau ym mhob rhan o’r byd mewn teyrnged gywir i’w Mawrhydi Y Frenhines. Fy ngweddi yw y gall hyn fod yn gyfle i wirioneddol ddathlu 70 mlynedd hanesyddol Ei Mawrhydi o wasanaeth i’w gwlad a’r Gymanwlad, gan estyn allan mewn cyfeillgarwch ac adeiladu cymuned fel y cawn ein hatgoffa am ein cwlwm cyffredin dan y Goron.”
Dywedodd y Parch Ganon Hilary Barber a Mr Narendra Waghela, Cyd-gadeiryddion, ar ran y Bwrdd Rhwydwaith Rhyngffydd ar gyfer Bwrdd Ymddiriedolwyr y Deyrnas Unedig: “Ar ran Ymddiriedolwyr y Rhwydwaith Rhyng-Ffydd ar gyfer y Deyrnas Unedig, rydym yn falch iawn i gynnig ein cefnogaeth gynnes i raglen Begynau’r Jiwbilî Platinwm sy’n ffurfio rhan o’r dathliadau swyddogol o 70 mlynedd ers esgyniad Ei Mawrhydi Y Frenhines. Mae gwasanaeth yn werth allweddol ym mhob traddodiad ffydd a chymuned ffydd ar draws y Deyrnas Unedig gan ddod ynghyd mewn llawer o gyd-destunau mewn ysbryd o gyfeillgarwch i wasanaethu eraill,. Mae cynnau begynau cymunedol fel rhan o nodi dathliadau’r Jiwbilî Platinwm yn gyfle i bobl o bob gefndir ffydd i ymuno gyda’i gilydd yn yr un ysbryd hwnnw i ddiolch am wasanaeth Ei Mawrhydi ei hun i’r wlad hon a’r Gymanwlad.
Dywedodd Bruno Peek LVCO OBE OPR, Pasiantfeistr Begynau Jiwbilî Platinwm y Frenhines: “Mae’n wych gweld yr ystod o gefnogaeth ar gyfer cynnau begynau gan gymunedau ffydd y Deyrnas Unedig. Drwy gynnau begynau, byddwn yn dangos amrywiaeth a hefyd undod y genedl. Mae’r Frenhines wedi goleuo ein bywydau am saith deg o flynyddoedd drwy ei gwasanaeth ymroddedig a’i hymrwymiad i’n cenedl aml-ffydd. Hoffem oleuo’r genedl a’r Gymanwlad er anrhydedd iddi.”
- I gael mwy o wybodaeth a chanfod sut i ymuno gweler https://www.queensjubileebeacons.com/
Yr arweinwyr ffydd a leisiodd gefnogaeth i Begynau’r Jiwbilî Platinwm yw:
- Y Parchedicaf a’r Gwir Anrh Justin Welby, Archesgob Caergaint
- Y Gwir Barchedig a’r Gwir Anrh y Fonesig Sarah Mullaly DBE, Esgob Llundain
- Y Parchedicaf Andrew John, Archesgob Cymru
- Parch Dr Paul Goodliff, Ysgrifennydd Cyffredinol, Eglwysi Ynghyd yn Lloegr
- Cardinal Vincent Nichols, Archesgob Westminster
- Imam Sayed Ali Abbas Razawi, Prif Imam, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cymdeithas Ahlul Bayt yr Alban
- Imam Qari Asim, Cadeirydd Bwrdd Ymgynghori Cenedlaethol Mosgau ac Imamau
- Prif Rabbi Ephraim Mirvis, Prif Rabbi Cynulleidfaoedd Hebraeg Unedig y Gymanwlad
- Marie van der Zyl, Llywydd Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydeinig
- Visakha Dasi, Llywydd Teml Bhaktivedanta Manor (o Gymdeithas Ryngwladol Ymwybyddiaeth Krishna)
- Rajnish Kashyap, Ysgrifennydd Cyffredinol, Cyngor Hindŵ y Derynas Unedig
- Trupti Patel, Llywydd, Fforwm Hindŵ Prydain
- Arglwydd Singh o Wimbledon, Cyfarwyddwr Rhwydwaith Sefydliadau Sikh y Deyrnas Unedig
- Jasvir Singh OBE, Cadeirydd Sikhs Dinesig
- Hybarch Seelawimala, Prif Offeiriad Vihara Bwdhaidd Llundain
- Hybarch Ajahn Amaro, Abbot, Mynachlog Bwdhaidd Amaravati
- Malcolm M. Deboo, Llywydd Cronfeydd Ymddiriedolaeth Zoroastrian Ewrop (ZTFE)
- Cynulliad Ysbrydol Cenedlaethol Bahá'í y Deyrnas Unedig
- Dr Natubhai Shah MBE, Cadeirydd Sefydlu/Prif Swyddog Gewithredol Rhwydwaith Jain
- Y Parch Ganon Hilary Barber a Mr Narendra Waghela, Cyd-Gadeiryddion ar ran Fwrdd Rhwydwaith Rhyngffydd Bwrdd Ymddiriedolwyr y Deyrnas Unedig
- Krish Raval OBE, Cyfarwyddwr Ffydd mewn Arweinyddiaeth