Cyfieithydd y Beibl yn dychwelyd i’w eglwys
Mae cerflun derw o gyfieithydd y Beibl i’r Gymraeg yn cael ei arddangos yn ei eglwys ym Mhowys.
Roedd yr Esgob William Morgan yn Berson Llanrhaeadr ym Mochnant pan gychwynnodd gyfieithu’r Beibl, y llyfr yr honnir ei fod y pwysicaf a gyhoeddwyd erioed yn y Gymraeg ac y dywedir ei fod wedi achub y Gymraeg.
Symudwyd y cerflun saith troedfedd, oedd wedi bod tu allan i Neuadd Gyhoeddus Llanrhaeadr, i Eglwys Sant Dogfan gan dîm o ffermwyr lleol, dan oruchwyliaeth y cerflunydd Barry Davies (sydd yn y llun gyda’r cerflun isod).
Comisiynwyd y cerflun 10 mlynedd yn ôl fel rhan o brosiect wedi ei ariannu gan y loteri yn y pentref, ond oherwydd y tywydd penderfynwyd dod o hyd i gartref dan do i’r Esgob Morgan.
Roedd ficer presennol Llanrhaeadr ym Mochnant, y Prebendari Norman Morris, wrth law i groesawu’r cerflun. Dywedodd: “Roeddem yn awyddus iawn i gynnig cartref newydd i’r cerflun o’r Esgob William Morgan. Dyma’r eglwys lle’r oedd William Morgan yn berson y plwyf pan gyfieithodd y Beibl i’r Gymraeg yn 1588.
“Fe gymerodd chwe mis i ni gael y caniatâd i gyd, ond rwy’n falch iawn bod y cerflun yma erbyn hyn. Rydym yn gobeithio y bydd yn annog ymwelwyr â’r eglwys i gael gwybod rhagor am William Morgan a stori ryfeddol cyfieithwyr y Beibl, y rhan fwyaf ohonynt yn o Ogledd Cymru.”
Cludwyd y cerflun ar beiriant o’r Neuadd Gyhoeddus at ddrws gorllewinol Eglwys Sant Dogfan cyn cael ei gludo ar hyd eil yr eglwys ar droli dwbl wedi ei ddylunio i fynd rownd y corneli. Yna gosododd y saith ffermwr y cerflun ar blinth pren newydd a’i folltio yn ei le. Ychwanegodd Preb Norman Morris, “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r tîm o ffermwyr lleol a gludodd y cerflun saith troedfedd mor fedrus a gofalus i’w le. Rydym yn edrych ymlaen at ei gael yn nodwedd o’r Eglwys am hir iawn.”
Daeth William Morgan yn berson Llanrhaeadr ym Mochnant yn 1578, pan ddechreuodd gyfieithu’r Beibl. Yn 1579 daeth yn rheithor Llanfyllin gerllaw, yn ychwanegol. Saif ei waith cyfieithu, gyda chymorth ei gyfoeswyr fel Richard Parry a John Davies, yn gonglfaen yn hanes y Gymraeg. Am y tro cyntaf roedd y Cymry yn gallu darllen y Beibl yn eu mamiaith. Amcangyfrifir bod 1,000 copi o Feibl gwreiddiol 1588 wedi eu hargraffu, ond erbyn heddiw dim ond am tua 24 copi y gwyddys eu bod wedi goroesi. Argraffiad 1620, gyda mân ddiwygiadau i gywiro gwallau argraffu, ddaeth yn Feibl Cymraeg safonol hyd yr 20fed ganrif.
Mae Eglwys Sant Dogfan yn Llanrhaeadr ym Mochnant yn agos at Bistyll Rhaeadr, sydd wedi ei ddynodi’n un o saith rhyfeddod Cymru. Yn 240 troedfedd (80 metr) dyma’r rhaeadr un disgyniad uchaf yn y Deyrnas Unedig. Mae’r Eglwys yn rhan o Lwybr y Meini Bywiol sy’n cynnig cyfoeth o drysorau cudd mewn 15 o eglwysi trawiadol a chapeli ar draws tri dyffryn yng Ngogledd Sir Drefaldwyn. Cewch ragor o wybodaeth yn https://living-stones.info/cy/
Mae Eglwys Sant Dogfan yn Ardal Cenhadaeth Tanat-Efyrnwy, un o’r 19 Ardal Cenhadaeth yn Esgobaeth Llanelwy.