Eglwys yn Wrecsam yn lansio Gŵyl Angylion
Cynhelir Gŵyl Angylion yn Wrecsam yn ddiweddarach y mis hwn i goffau’r rhai a gollodd eu bywydau i’r Coronafeirws yng Nghymru.
Wedi eu hysbrydoli gan yr angylion cerddorol o’r bymthegfed ganrif a gerfiwyd i do pren Eglwys Plwyf San Silyn, mae’r gynulleidfa wedi creu Gŵyl Angylion gyda dros 6,000 o angylion a wnaethpwyd â llaw. Bydd yr ŵyl yn agor ddydd Llun 31 Hydref ac parhau tan y Flwyddyn Newydd.
Cafodd yr angylion eu gwneud o amrywiaeth o ddeunyddiau, rhai’n newydd, rhai wedi eu hailgylchu, a’r cyfan wedi eu gwneud â llaw. Cânt eu hongian o du mewn y tŵr mewn rhwydi dros gorff yr eglwys, ac o’r pileri.
Dywedodd y Parch Ddr Jason Bray, Ficer San Silyn: “I lawer o Gristnogion, mae angylion yn cynrychioli gobaith a golau, felly wrth i ni ddod allan o ddyddiau tywyllaf y pandemig, teimlwn fod y neges hon o obaith Cristnogol yn un y byddem eisiau eu rhannu gyda’r byd o’n hamgylch ac mae’r Ŵyl Angylion yn ffordd wych o wneud hynny.”
Mae’r ŵyl yn dechrau ddydd Sul 31 Hydref gydag Ewcharist yr Holl Seintiau am 11am, a Choffau Dygwyl y Meirw am 6pm lle caiff enw unrhyw anwyliaid a fu farw eu cofio – mae croeso mawr i bawb fynychu.
Mae’r eglwys ar agor rhwng 10am-4pm ar ddyddiau Llun i Sadwrn, ac ar gyfer gwasanaethau ar ddyddiau Sul. Ni chodir tâl am fynediad.