Taith Gerallt Gymro ar gael yn awr ar ffonau clyfar
Gallwch yn awr ddefnyddio’ch ffôn clyfar i olrhain taith archddiacon o amgylch Cymru er mwyn recriwtio croesgadwyr dros 800 mlynedd yn ôl.
Teithiodd Gerallt Gymro gydag Archesgob Caergaint dros y Pasg 1188 i recriwtio miloedd o ddynion ar gyfer y drydedd groesgad. Mae ei gofnod manwl o’r daith yn un o’r prif ffynonellau gwybodaeth am Gymru yn y ganrif ar ôl i’r Normaniaid oresgyn Prydain.
Bellach mae prosiect HistoryPoints, gyda chefnogaeth yr Eglwys yng Nghymru ac eraill, wedi darparu codau QR ar gyfer 37 o leoedd yng Nghymru a gafodd sylw yn nhaith Gerallt. Gall unrhyw un sy’n sganio’r codau QR gyda ffôn clyfar ddarganfod yr hyn a welodd Gerallt yno ym 1188, ynghyd â hanes ehangach y lle.
Mae gan bob lleoliad dudalen ar wefan HistoryPoints.org. Mae gan bob un ddolen i’r dudalen ar gyfer y lle nesaf a’r lle blaenorol yn y deithlen, sy’n ei gwneud hi’n hawdd dilyn y llwybr yn gorfforol neu’n rhithwir ar gyfrifiaduron cartref.
Mae’r daith ar gael nid yn Saesneg, Cymraeg a Ffrangeg, diolch i waith cyfieithwyr gwirfoddol, yn bennaf Catherine Jones a’r Athro Dai Thorne.
Ymhlith y lleoedd ar y daith mae eglwysi, cadeirlannau a chestyll a fodolai cyn i’r Brenin Edward I greu cestyll a threfi caerog ganrif ar ôl taith Gerallt. Caewyd yr abatai yr ymwelodd Gerald â hwy ganrifoedd yn ddiweddarach ond mae eu hadfeilion wedi goroesi, ac felly hefyd eglwys yr abaty ym Margam.
Methodd Gerallt, a oedd yn Archddiacon Aberhonddu, mewn sawl ymgais i ddod yn Esgob Tyddewi a gwneud yr eglwys Gymraeg yn annibynnol o Gaergaint. Bu farw yn 1223.
Dywedodd y Tra Barchedig Ddr Sarah Rowland Jones, Deon Eglwys Gadeiriol Tyddewi: “Claddwyd Gerallt Gymro, Geraldus Cambrensis, yn ein cadeirlan ac rydym bob amser yn falch o groesawu ymwelwyr sydd â diddordeb i weld ei ddelw wrth ymyl delw ei gefnder, yr Arglwydd Rhys, yn ystlys ddeheuol yr eglwys gadeiriol. Bydd y llwybr codau-QR hwn yn helpu ymwelwyr i ddod o hyd iddo.”
Dywedodd Rhodri Clark, golygydd HistoryPoints.org: “Mae teithlen Gerallt yn adlewyrchu’r lleoedd yng Nghymru a oedd yn bwysig ar ddiwedd y 12fed ganrif, ymhell cyn llinach y Tuduriaid neu’r Chwyldro Diwydiannol. Ni allai unrhyw ymgyrch recriwtio ar gyfer y crwsâd fforddio hepgor Caerllion, Brynbuga, Llanbadarn Fawr neu Nefyn, er enghraifft.
“Rydym yn gobeithio y bydd darparu’r wybodaeth hon yn y fan a’r lle yn dod â sylwadau hynod ddiddorol Gerallt Gymro i gynulleidfa newydd.”
Anogodd yr Esgob Wyn Evans, archifydd yr Eglwys yng Nghymru a chyn Esgob Tyddewi, bobl i ddilyn y daith. Meddai: “Mae menter o’r fath sydd yn ymateb i un o eglwyswyr mwyaf Cymru i’w chroesawu’n fawr.”
Mae'r llun uchod yn dangos y cerflun o Gerald yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Mae'r meitr wrth ei draed yn cynrychioli ei ymdrechion aflwyddiannus i fod yr Esgob Tyddewi.